Bod yn hoyw yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 14/05/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/05/2012

Un o egwyddorion sylfaenol y Cynulliad Cenedlaethol yw’r cysyniad o gyfle cyfartal. Mae’r Cynulliad yn credu bod pawb yn haeddu cael ei drin â thegwch, urddas a pharch. Fel sefydliad sy’n ymgysylltu â phobl Cymru ac sy’n cefnogi ein gweithlu amrywiol, mae’r Cynulliad yn falch o hyrwyddo cydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol. Mae staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn y Cynulliad yn cael eu cefnogi mewn nifer o ffyrdd. Er enghraifft, mae rhwydwaith staff lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol gweithgar iawn a pholisïau staff cynhwysol, gan gynnwys absenoldeb rhianta ar y cyd, a pholisi ym maes ailbennu rhywedd. Yn ogystal, mae gennym bolisi Urddas yn y Gweithle cadarn, sy’n nodi ymrwymiad y Cynulliad i gydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol a’r gweithdrefnau sydd ar waith i ymdrin â bwlio ac aflonyddu. Mae’r Cynulliad yn cyflwyno gwybodaeth i Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall yn flynyddol. Mae’r mynegai’n ddull o raddio sefydliadau yn genedlaethol, gan nodi’r sefydliadau mwyaf cyfeillgar i bobl hoyw yn y DU. Rydym ni’n falch iawn o gael ein henwi’n rhif 20 yn y mynegai ac am gael cydnabyddiaeth am gael y grŵp rhwydwaith staff gorau yng Nghymru yn 2012. Dywedodd aelod o staff sydd yn hoyw am ei brofiad o weithio yn y Cynulliad “cymerodd dair blynedd cyn i mi ddod allan yn fy hen swydd; cymerodd lai na thair wythnos arna i’n gwneud hynny fan hyn. Roedd hi’n amlwg o’r dechrau fod pawb yn cael ei dderbyn am bwy ydyw. Fi oedd y boi newydd nid y boi hoyw.” Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Cydraddoldebau