Yn fy mlog diwethaf, dywedais fod angen i gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 gael eu gyrru gan anghenion pobl Cymru ac i’r adferiad o’r pandemig fod yn greadigol ac yn uchelgeisiol. Bryd hynny, roedd Llywodraeth Cymru yn aros i gael gwybod am ei setliad cyllid gan Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2022-23, felly bydd y blog hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith craffu ac am y broses.
Cyllideb ac Adolygiad o Wariant y DU
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi wynebu ansicrwydd ac amgylchiadau digynsail yn sgil Brexit a phandemig COVID-19. Mae hyn wedi arwain at oedi yn nigwyddiadau cyllidol y DU, ac oedi wedi hynny cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei Chyllideb Ddrafft. Ym mis Hydref 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Chyllideb ac Adolygiad o Wariant, gan ddychwelyd at ddarparu setliad aml-flwydd ar gyfer y llywodraethau datganoledig.
Fel Pwyllgor, rydym yn falch bod hyn wedi galluogi Llywodraeth Cymru i bennu cyllideb tair blynedd, gan fod gwneud hyn wedi rhoi sicrwydd cyllid i’r sector cyhoeddus.
Beth mae cyllid Llywodraeth Cymru yn ei gynnwys?
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2022-23 ar 20 Rhagfyr. Mae ei chyllid yn cynnwys y canlynol:
- £17.7 biliwn gan Lywodraeth y DU (82 y cant);
- £2.5 biliwn o Gyfraddau Treth Incwm Cymru (11 y cant);
- £1 biliwn o Ardrethi Annomestig (5 y cant)
- £402 filiwn o drethi wedi’u datganoli’n llawn (£366 miliwn o’r Dreth Trafodiadau Tir a £36 miliwn o’r Dreth Gwarediadau Tir) (2 y cant)
Mae hyn yn gyfanswm o £21 biliwn a fydd yn cael ei ddyrannu i adrannau Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus o fis Ebrill eleni.
Y broses graffu – cam ymgynghori
Rôl y Pwyllgor wrth graffu ar y Gyllideb Ddrafft yw ystyried y penderfyniadau strategol cyffredinol o ran dyraniadau cyllid. Yna bydd Pwyllgorau eraill y Senedd yn ystyried yn fanylach y dyraniadau yn y gyllideb sy’n ymwneud â’u cylchoedd gwaith/portffolios Gweinidogion.
Yn ystod tymor yr hydref, ymgynghorodd y Pwyllgor Cyllid â rhanddeiliaid a’r cyhoedd i geisio eu disgwyliadau o ran y gyllideb a pharodrwydd ariannol ar gyfer 2022-23.
Gwnaethom gynnal ymgynghoriad cyn i’r Gyllideb Ddrafft gael ei chyhoeddi, a hynny am mai ychydig iawn o amser a oedd ar gael i randdeiliaid ac unigolion nodi pa feysydd a oedd yn peri pryder cyn inni orfod gyhoeddi ein hadroddiad. Yn ogystal, gwnaethom gynnal grwpiau ffocws ar gyfer y cyhoedd a rhanddeiliaid â buddiant gyda’r nod o gael gwybodaeth ansoddol am brofiadau cyfranogwyr a chryfhau dealltwriaeth y Pwyllgor o’r materion sy’n effeithio ar bobl Cymru.
Y broses graffu – tystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a chan randdeiliaid allweddol
Cynhaliwyd nifer o sesiynau tystiolaeth gyda rhanddeiliaid allweddol ym mis Rhagfyr 2021 a mis Ionawr 2022. Oherwydd yr oedi cyn i’r Gyllideb Ddrafft gael ei chyhoeddi, amser cyfyngedig a oedd gennym eleni. Cawsom dystiolaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a chan baneli o dystion ag arbenigedd perthnasol mewn meysydd fel trethiant, busnes, iechyd a llywodraeth leol. Gwnaethom drafod y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru drwy drethi a benthyca, a gwnaethom drafod rhai o’r prif feysydd ariannu, gan gynnwys iechyd, llywodraeth leol, cefnogi busnesau, newid hinsawdd ac effaith y pandemig.
Adroddiad y Pwyllgor
Pennodd Pwyllgor Busnes y Senedd ddyddiad cau i bob Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Gyllideb Ddrafft, sef 4 Chwefror 2022. Caiff ein hadroddiad ei gyhoeddi ar ein gwefan. Byddaf yn ysgrifennu cyn hir am ganlyniad ein hadroddiad a’r camau nesaf.
Mae craffu ariannol yn bwysicach nag erioed, gan y bydd gwariant cyhoeddus ar raddfa fawr er mwyn sicrhau adferiad o’r pandemig a mynd i’r afael â’r pwysau aruthrol sy’n wynebu Cymru. Mae’r holl wybodaeth a gawsom o’r ymgynghoriad, y gwaith ymgysylltu a’r sesiynau tystiolaeth wedi llywio ein gwaith craffu ac wedi ein helpu i sicrhau bod cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru yn cael eu gyrru gan anghenion pobl Cymru. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn.
I gael rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyllid, ewch i’n gwefan a dilyn ni ar Twitter.