Arian

Arian

“Mae angen i’r adferiad o’r pandemig fod yn greadigol ac yn uchelgeisiol”

Cyhoeddwyd 27/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/09/2021   |   Amser darllen munudau

 

Dylai cynlluniau gwario Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 gael eu gyrru gan anghenion pobl Cymru, meddai Peredur Owen Griffiths MS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

Mae COVID-19 yn parhau i achosi heriau sylweddol wrth i ni ddisgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2022-23.

Y llynedd, fe wnaeth y Llywodraeth gadw swm sylweddol o arian nad oedd wedi ei neilltuo mewn cronfeydd wrth gefn, er mwyn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd wrth ymateb i’r pandemig. Eleni rydym yn gobeithio, pan fydd y gyllideb ddrafft ar gyfer 2022-23 yn cael ei chyhoeddi ar 20 Rhagfyr, y gwelwn ni gynllun manylach ar gyfer yr arian yma a fydd yn canolbwyntio ar wella gwasanaethau cyhoeddus ac ar roi hwb i'r economi.

Mae angen i'r adferiad o'r pandemig fod yn greadigol ac yn uchelgeisiol. Dyna pam ein bod ni, fel Pwyllgor Cyllid y Senedd, wedi agor ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn casglu cymaint o safbwyntiau â phosibl i’n helpu ni i sicrhau bod cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru yn cael eu gyrru gan anghenion pobl Cymru.

Dweud eich dweud

Ar ran holl Bwyllgorau'r Senedd, rydym wrthi nawr yn casglu gwybodaeth a barn er mwyn llywio ein gwaith craffu ar cyllideb ddrafft 2022-23 Llywodraeth Cymru.

Hwyrach y byddwch chi'n meddwl tybed pam ein bod ni’n ymgynghori nawr yn hytrach nag aros nes i'r Gyllideb ddrafft gael ei chyhoeddi ar 20 Rhagfyr. Mae hyn oherwydd prin iawn fydd yr amser sydd ar gael i randdeiliaid neu unigolion rannu eu pryderon â ni unwaith y bydd manylion y gyllideb ddrafft wedi'i chyhoeddi.

Rydym yn ymgynghori nawr gan fod gennym ddiddordeb gwybod beth yn eich disgwyliadau o'r gyllideb sydd ar ddod, gan gynnwys parodrwydd ariannol ar gyfer 2022-23, yn ogystal â chlywed eich barn ar effaith cyllideb y llynedd.

Ni fydd eich cyfraniad nawr yn eich atal rhag rhoi mwy o wybodaeth, tystiolaeth neu awgrymu meysydd i graffu arnynt ar ôl cyhoeddi'r cynigion cyllideb drafft.

Byddwn hefyd yn cynnal cyfres o grwpiau ffocws gyda pobl Cymru dros dymor yr hydref, a gallwch gysylltu â thîm clercio y Pwyllgor i gael mwy o wybodaeth ar sut i gymryd rhan SeneddCyllid@Senedd.Cymru

Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am yr ymgynghoriad a dilyn hynt ein ymchwiliad ar ein gwefan.

Y broses graffu

Ar ôl cyhoeddi'r gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr, bydd ein gwaith yn troi at gymryd tystiolaeth gan randdeiliaid perthnasol ac yn craffu ar Lywodraeth Cymru drwy holi’r Gweinidogion yn uniongyrchol.

Bydd y dystiolaeth ry’ ni’n ei gasglu yn ein hymgynghoriad yn cyfrannu at y broses hon a byddwn yn cyhoeddi adroddiad erbyn 4 Chwefror a fydd yn cynnwys argymhellion i Lywodraeth Cymru ar sail yr holl wybodaeth byddwn ni wedi ei dderbyn.

Bydd hyn yn llywio’r drafodaeth pan bydd y Senedd gyfan yn cwrdd i edrych ar y cynnig Cyllideb blynyddol yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Chwefror 2022, lle bydd yr Aelodau'n penderfynu a ddylid cymeradwyo'r gyllideb ai peidio.

Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan a dilynwch ni ar Twitter

Ansicrwydd a heriau’r broses

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, bu ansicrwydd ynghylch faint o arian sy'n dod i Gymru oherwydd ffactorau fel Brexit a'r pandemig. Mae hyn wedi arwain at oedi cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chyllideb, gan arwain at lai o amser i graffu ar y gyllideb o ganlyniad. Rydym yn yr un sefyllfa eto eleni gan na fydd gan Lywodraeth Cymru sicrwydd o'i chyllid nes bydd Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU wedi dod i ben ar 27 Hydref 2021.

Er ein bod yn gwerthfawrogi bod heriau o ran amseru, mae'n siomedig na fydd Cyllideb ddrafft gyntaf y Senedd hon yn cael ei chyhoeddi nes 20 Rhagfyr, yn ystod toriad y Nadolig.

Mae craffu ariannol yn bwysicach nag erioed, wrth inni weld gwariant cyhoeddus enfawr i ddelio ag adferiad o'r pandemig a phwysau enfawr sydd o’n blaen yng Nghymru. Mae'n rhwystredig felly y bydd ein hamser i graffu ar y gyllideb yn cael ei gwtogi eto.

Serch hynny, mae Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU yn darparu setliad aml-flwyddyn, gan osod cyllidebau tan 2025. Mae hyn yn galonogol gan y byddwn yn dychwelyd i setliad tair blynedd, a fydd, gobeithio, yn helpu Llywodraeth Cymru i gynllunio'n fwy effeithiol a darparu sicrwydd cyllido tymor hir ar gyfer sector cyhoeddus Cymru.

Dylai hyn hefyd gynnig ffenestr gliriach a mwy sefydlog i'r Pwyllgor graffu ar gynigion Llywodraeth Cymru, a rhoi mwy o gyfleoedd i bobl Cymru ymgysylltu â gwaith y Pwyllgor a dylanwadu ar flaenoriaethau gwariant.

Y Pwyllgor a’n gwaith

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn bwyllgor trawsbleidiol ac fe'i sefydlwyd ar 23 Mehefin 2021. Yn eistedd gyda fi ar y Pwyllgor mae Aelodau o dair plaid wleidyddol a gynrychiolir yn y Senedd, sef Peter Fox, Mike Hedges a Rhianon Passmore.

Mae gan ein Pwyllgor rôl bwysig iawn wrth ystyried ac adrodd ar gyllideb Llywodraeth Cymru - cyllideb sy’n tua £20 biliwn y flwyddyn. Daw'r rhan fwyaf o'r arian drwy Grant bloc Cymru, sy’n gysylltiedig â gwariant Llywodraeth y DU drwy Fformiwla Barnett. Caiff y gweddill ei godi drwy drethi Cymreig, gan gynnwys:

  • Treth Trafodiadau Tir (trafodiadau tir ac adeiladau preswyl ac amhreswyl)
  • Treth Gwarediadau Tirlenwi (gwaredu gwastraff i safle tirlenwi)
  • Cyfraddau Treth Incwm Cymreig (cyfran o'r dreth incwm a delir gan drethdalwyr sy'n byw yng Nghymru).

Yn olaf, gall Llywodraeth Cymru fenthyca hyd at £1 biliwn gan Lywodraeth y DU ar gyfer gwariant cyfalaf.