A yw’r Senedd yn hollol newydd i chi, neu a ydych am atgoffa eich hun o'r sefyllfa yn dilyn etholiad 2026?
Dyma bum peth sy'n werth eu gwybod.
1. Mae gan Gymru ei senedd ei hun – sef Senedd Cymru
Y Senedd yw’r lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud am lawer o agweddau ar fywyd yng Nghymru, fel iechyd, addysg, tai, trafnidiaeth a'r amgylchedd.
Mae Aelodau o’r Senedd yn chwarae rhan hanfodol wrth graffu ar gynlluniau a gwariant Llywodraeth Cymru, ac yn awgrymu gwelliannau i wneud pethau’n well i bawb yng Nghymru.
Dyma gyfle i gael rhagor o wybodaeth am sut mae’r Senedd yn gweithio a’r hyn y mae'n ei wneud.
2. Mae gennych chi chwe Aelod yn eich cynrychioli chi yn y Senedd
Mae gan bawb yng Nghymru chwe Aelod o'r Senedd yn cynrychioli eu hardal. Gallwch gysylltu ag unrhyw un ohonynt am faterion yn eich cymuned. Does dim ots a wnaethoch chi bleidleisio drostyn nhw ai peidio.
Ddim yn siŵr pwy yw eich Aelodau? Defnyddiwch eich cod post i chwilio amdanyn nhw.
3. Mae Cymru wedi'i rhannu'n 16 ardal, a elwir yn etholaethau
Ar gyfer etholiadau’r Senedd, mae Cymru’n cael ei rhannu yn 16 ardal, a elwir yn etholaethau. Mae pob etholaeth yn cael ei chynrychioli gan chwe Aelod o’r Senedd.
Gallwch ddod o hyd i’ch cynrychiolwyr chi drwy nodi eich cod post yn ein map canfod etholaethau.
4. Yn dilyn etholiad y Senedd, mae “busnes cynnar” y sefydliad yn dechrau
Yn dilyn etholiad y Senedd ym mis Mai 2026, mae bwrlwm o weithgarwch wedi dechrau, a elwir yn “fusnes cynnar”. Mae hyn yn cynnwys ethol y Llywydd a’r Prif Weinidog.
Dyma gyfle i ddarllen mwy am beth sy'n digwydd ar ôl etholiad y Senedd.
5. Gallwch ymweld ag adeilad y Senedd – eich senedd chi yw hi
Mae adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd ar agor drwy'r flwyddyn, a cheir mynediad am ddim.
Dewch i’n gweld ni ym Mae Caerdydd er mwyn mynd ar daith, defnyddio’r ardal chwarae, gwylio’r arddangosfa ddiweddaraf, gwrando ar ddadl, neu fwynhau’r olygfa dros baned yn y caffi.
Mae rhywbeth yn digwydd bob amser. Darllenwch fwy am beth sy'n digwydd yn y Senedd.