- sicrhau ei bod yn haws i ddefnyddwyr gwasanaethau'r Cynulliad ddefnyddio'r fath wasanaethau, megis y wefan, neu Senedd TV, sef y darllediadau byw ac wedi'u recordio o drafodion y Cynulliad, neu'r fersiwn argraffedig o Gofnod y Trafodion, yn ogystal â chymryd a defnyddio data oddi wrthynt, addasu cynnwys fideo a chynnwys arall at eu dibenion eu hunain, a rhoi gwell profiad i ddefnyddwyr yn gyffredinol;
- sicrhau bod gwasanaethau ar-lein, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, yn gallu helpu'r Cynulliad i ddiwallu anghenion gwahanol gynulleidfaoedd a chwsmeriaid;
- sut y mae pwyllgorau'r Cynulliad yn rhoi gwybod am y gwaith y maent yn ei wneud.
Ennyn mwy o ddiddordeb yn y Cynulliad...
Cyhoeddwyd 16/01/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/01/2017
Ym mis Medi, bydd ugain mlynedd wedi mynd heibio ers i bobl Cymru bleidleisio, o fwyafrif bychan, i gael eu Cynulliad Cenedlaethol eu hunain. Dyma'r unig sefydliad gwleidyddol y mae pobl Cymru wedi pleidleisio o'i blaid. Ers iddo ddod i fodolaeth ym 1999, mae'r Cynulliad wedi tyfu o ran pŵer a chyfrifoldeb. Chwe blynedd yn ôl, pleidleisiodd pobl Cymru o fwyafrif llethol dros roi pŵer i'r Cynulliad i wneud deddfau yng Nghymru.
Ond pa mor ymwybodol yw pobl o'r gwaith a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol fel sefydliad, a chan ei aelodau unigol fel ACau? Rydym ni'n gwybod bod pobl weithiau'n drysu rhwng y ddeddfwrfa, sef y Cynulliad Cenedlaethol, a'r weithrediaeth, sef Llywodraeth Cymru. Ddiwedd y flwyddyn y llynedd, crëodd Llywydd y Cynulliad grŵp bach i drafod sut y gall y Cynulliad gyflwyno newyddion a gwybodaeth am ei waith mewn modd diddorol a hygyrch. Tasg fawr yw hynny, yn enwedig ar adeg pan mae sefydliadau newyddion o dan bwysau cynyddol ac yn canolbwyntio'n llai ar roi sylw i wleidyddiaeth.
Mae ein tasglu yn cynnwys pobl sy'n meddu ar arbenigedd yn y meysydd a ganlyn: y cyfryngau, prosiectau democratiaeth agored megis mySociety, sefydliadau cyhoeddus blaengar sydd wedi mynd ati i hybu cyfathrebu digidol, ac arbenigwyr mewn dysgu digidol a chyfathrebu gwleidyddol. Gofynnwyd i ni edrych ar y ffordd orau o gynyddu lefelau o ddealltwriaeth ac ymgysylltiad gan y cyhoedd ymhlith cynulleidfaoedd sydd ar hyn o bryd wedi ymddieithrio o wleidyddiaeth a materion Cymreig.
Mae'r tasglu yn ystyried y ffordd orau o gyflawni'r hyn a ganlyn: