Gofyn eich cwestiynau am y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol i Lywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd 02/02/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/02/2023   |   Amser darllen munudau

Erthygl gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

A ydych am wybod rhagor am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymdrin â materion ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru?

Yn ddiweddar, gwnaethom ofyn i’r cyhoedd rannu syniadau ar gyfer cwestiynau ar y materion hyn. Cawsom dros 100 o awgrymiadau.

Gwnaethom ofyn llawer o’r cwestiynau hyn i Weinidogion Llywodraeth Cymru ar lafar yn ystod ein sesiwn graffu gyffredinol, a gwnaethom ofyn cwestiynau eraill yn ysgrifenedig neu fel rhan o’n gwaith craffu arall.

A hoffech wybod beth a ofynnwyd a beth oedd ymateb Llywodraeth Cymru?

Dyma grynodeb o'r cwestiynau a'r atebion, ynghyd â lincs i ragor o wybodaeth.

Pryderon am gyflogau nyrsys

Y mater a godwyd amlaf yn y cwestiynau a ddaeth i law oedd anfodlonrwydd â lefelau cyflog y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, yn enwedig nyrsys. Hefyd, mynegwyd pryderon am lif staff nyrsio allan o’r GIG i mewn i waith asiantaeth, sy’n arwain at gostau ychwanegol i’r GIG.

Wrth ofyn eich cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd, pwysleisiodd Gareth Davies AS fod nyrsys yn teimlo eu bod yn cael eu gorweithio, a’u bod nhw ddim yn cael eu gwerthfawrogi nac yn cael cyflog digonol am eu gwaith. Roedd am glywed sut mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â'r pryderon hyn ynghylch cyflogau.

Dywedodd Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i roi codiad cyflog cyffredinol o £1,400 i weithwyr yn y GIG eleni, fel yr argymhellwyd gan gorff annibynnol. Fodd bynnag, roedd problem gyda’r amseriad o gofio bod cyfraddau chwyddiant yn uwch na’r rhagamcanion. Disgwylir i hwn fod yn fater difrifol y flwyddyn nesaf, sydd hefyd wedi arwain at yr angen am £207 miliwn yn ychwanegol i dalu am filiau ynni yn y GIG eleni.

Mae’r cynnydd yn y llif o weithwyr allan o’r GIG i’r asiantaethau hefyd wedi cynyddu costau’r gwasanaethau iechyd. Holwyd Llywodraeth Cymru ynghylch ei chynlluniau i leihau’r ddibyniaeth ar wariant ar staff asiantaeth.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag undebau i leihau’r bil ar gyfer staff asiantaeth a gomisiynwyd i lenwi swyddi gwag, llenwi swyddi pobl sydd ar absenoldeb salwch neu absenoldeb mamolaeth a mynd i’r afael â’r cynnydd yn y galw am wasanaethau iechyd. Fodd bynnag, nodwyd bod y costau y tu hwnt i ddisgwyliadau. Mae'r Llywodraeth hefyd yn anelu at ateb y galw o ran llenwi swyddi nyrsio drwy chwilio am ffyrdd o gadw'r gweithlu presennol a lleihau'r galw am weithwyr asiantaeth, a hynny yng nghyd-destun cynnydd o 72 y cant yn y nyrsys dan hyfforddiant yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

Darllenwch fwy am y sesiwn dystiolaeth hon >

Effaith costau byw

Yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae costau byw presennol yn argyfwng iechyd cyhoeddus, a allai fod ar yr un raddfa â’r pandemig COVID-19.

Gofynnodd Sarah Murphy AS, sy’n aelod o’r pwyllgor, am eglurder gan Lywodraeth Cymru ynghylch pryderon a fynegwyd gan y cyhoedd am y camau y mae’n eu cymryd i fynd i’r afael ar fyrder â’r caledi ariannol y mae gofalwyr di-dâl a phobl ag anableddau yn ei wynebu oherwydd yr argyfwng hwn.

Dywedodd Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cronfa gwerth £29 miliwn i ddarparu grant o £500 i 57,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru, gyda chyfradd hawlio uchel o 75 y cant. Hefyd, mae £90 miliwn wedi'i ddyrannu at gynllun cymorth tanwydd ac mae Cronfa Cymorth i Ofalwyr gwerth £4.5 miliwn dros y tair blynedd nesaf wedi'i lansio i helpu gofalwyr incwm isel, gan roi hyd at £300 ar gyfer hanfodion.

Darllenwch fwy am y sesiwn dystiolaeth hon >

Recriwtio i’r GIG a phrinder staff gofal cymdeithasol

Nododd Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru gynnydd digynsail yn y galw am ofal cymdeithasol mewn sgwrs â’r Pwyllgor ym mis Tachwedd 2022, gan ddweud bod llawer o arweinwyr ym maes gofal cymdeithasol yn disgrifio’r sefyllfa fel argyfwng.

Gofynnodd Russell George AS, Cadeirydd y Pwyllgor, am gynlluniau Llywodraeth Cymru i lenwi'r nifer enfawr o swyddi gwag yn wyneb cystadleuaeth am weithwyr gan sectorau eraill.

Dywedodd Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i fynd i’r afael â’r prinder gweithwyr gofal cymdeithasol drwy ddarparu £43 miliwn o gyllid ar gyfer y cyflog byw gwirioneddol, cynnig taliadau ychwanegol i 63,000 o weithwyr a gweithio gyda phartneriaid i wella amodau yn y sector. Mae’r Llywodraeth hefyd wedi lansio ymgyrch recriwtio genedlaethol ac wedi sefydlu fforwm gwaith teg ym maes gofal cymdeithasol i gynghori ar y broses o gyflwyno’r cyflog byw gwirioneddol ac edrych ar delerau ac amodau yn y sector.

Hefyd, mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar recriwtio i gynyddu nifer y bobl sy’n gweithio yn y GIG yng Nghymru i’r lefel uchaf erioed, sef 105,000 o bobl. Bydd y Llywodraeth yn darparu cymorth ar gyfer llesiant a hyblygrwydd o ran trefniadau gwaith, gan gynnwys opsiynau rhan-amser, ac yn recriwtio o dramor.

Darllenwch fwy am y sesiwn dystiolaeth hon >

Pwysau iechyd meddwl

Yn eich ymatebion i'n cais am gwestiynau, mynegwyd pryderon am ofal iechyd yn y gymuned. 

Roedd y materion a godwyd gennych yn cynnwys safonau gofal ysbyty ar gyfer pobl hŷn â chlefyd Parkinson, pwysau iechyd meddwl, cyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau trydydd sector ac anawsterau wrth geisio cael mynediad at dimau iechyd meddwl cymunedol ar gyfer gweithwyr cymorth tai.

Yn ein hadroddiad ar anghydraddoldebau iechyd meddwl, gwnaethom ofyn cwestiynau i Weinidogion Llywodraeth Cymru am gyllid ar gyfer gwasanaethau trydydd sector.

Soniodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol am y gronfa “Cysylltu Cymunedau”, sy’n cefnogi grwpiau cymunedol i frwydro yn erbyn unigrwydd a theimlo’n ynysig. Mae’r gronfa hon yn canolbwyntio ar ddarparu cymorth a chynaliadwyedd hirdymor, ond mae’n dibynnu ar setliadau cyllidebol aml-flwyddyn gan Lywodraeth y DU. Hefyd, dyrannwyd £5 miliwn i fyrddau iechyd lleol i gynyddu lefelau cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl y trydydd sector.

Roedd eich cwestiynau hefyd yn sôn am amseroedd aros hir ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed, yn ogystal â’r angen i wella’r cyfnod pontio i bobl ifanc rhwng y gwasanaethau hyn a gwasanaethau iechyd meddwl oedolion.

Rydym wedi annog Llywodraeth Cymru i ystyried yr argymhellion yn adroddiad Mind Cymru ym mis Mai 2022, sef “Sortiwch y Switsh”, ac adroddiad Senedd Ieuenctid Cymru, “Mae Meddyliau Ifanc o Bwys”, sy’n sôn am ddiwygio ac ailwampio gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed i leihau amseroedd aros a darparu cymorth angenrheidiol, gan fod y system bresennol yn methu pobl ifanc.

Darllenwch yr adroddiad, 'Cysylltu'r dotiau'

Lefelau staffio diogel a pherfformiad y gwasanaeth ambiwlans

Yn ein llythyr dilynol, gwnaethom ofyn 19 cwestiwn ychwanegol i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys un ar lefelau staffio diogel ac un arall am berfformiad y gwasanaeth ambiwlans, oherwydd ni thrafodwyd y materion hyn yn ein sesiwn gychwynnol.

O ran lefelau staffio diogel, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ymdrin â’r materion cysylltiedig drwy Strategaeth Gweithlu a chynllun tymor byr, gan fuddsoddi mewn hyfforddiant ac addysg, yn ogystal â recriwtio nyrsys rhyngwladol i lenwi swyddi gwag yn y tymor byr a’r tymor canolig.

Yn aml, gwelir ambiwlansys yn ciwio y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru. Mae hyn yn effeithio ar nifer yr ambiwlansys sydd ar gael i ymateb i alwadau brys, gan arwain at amseroedd aros hir i bobl mewn angen a chanlyniadau sy’n bygwth bywyd mewn rhai achosion.

Mewn ymateb i'ch cwestiynau, dywedodd Llywodraeth Cymru fod ganddi gynllun gwella cenedlaethol ar waith ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans. Mae’r cynllun hwn yn cynnwys camau gweithredu i reoli’n well y galwadau gan gleifion 999 yn y gymuned, cynyddu capasiti ambiwlansys a lleihau oedi wrth drosglwyddo cleifion o’r ambiwlans i’r ysbyty. Hefyd, mae gan fyrddau iechyd gynlluniau ar waith i wella llif cleifion drwy systemau ysbytai a llwybrau amgen i gyfeirio’r galw i ffwrdd oddi wrth adrannau achosion brys.

Eglurhad ac ymatebion i gwestiynau penodol

Cawsom amrywiaeth o gwestiynau gennych ynghylch elfennau penodol o strategaeth iechyd a gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Dyma rai o’r cwestiynau hyn, yn ogystal â’r wybodaeth berthnasol a’r eglurhad a gawsom gan Lywodraeth Cymru.

Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr:Pryderon am berfformiad gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Strategaeth ganser: Addawodd y Prif Weinidog y byddai’r Strategaeth Ganser i Gymru yn cael ei chyhoeddi ym mis Medi. Beth yw’r diweddaraf am y cyhoeddiad hwnnw?

Camau ataliol a chymorth ar gyfer cyflyrau cronig: Sut y gellir cynnwys y cyhoedd ehangach wrth geisio atal afiechyd a chyflyrau cronig? Darllenwch gwestiwn 16

A yw'r gwasanaethau a'r llwybrau cywir yn eu lle ar gyfer pobl ag ME? Darllenwch gwestiwn 17

Canolfan Ganser Felindre: Yn dilyn y wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd gennych ar 19 Hydref 2021, a allwch roi unrhyw wybodaeth ychwanegol am yr achos clinigol dros Ganolfan Ganser newydd yn Felindre? Darllenwch gwestiwn 18

Gwasanaethau hunaniaeth rhywedd: A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaethau hunaniaeth rhywedd a ddarperir yng Nghymru yn dilyn newidiadau yng Nghlinig Hunaniaeth Rhywedd Tavistock? Darllenwch gwestiwn 19

Asesiadau anghenion gofalwyr: A ydynt yn cael eu cynnal yn y ffordd gywir? Gwnaethom drafod y mater hwn ag Arolygiaeth Gofal Cymru, a'i bwysleisio yn ein llythyr at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

Beth nesaf?

Rydym wedi cymryd yr awgrymiadau a wnaethoch ac wedi’u cynnwys yn ein gwaith parhaus o graffu ar Lywodraeth Cymru a dwyn Gweinidogion i gyfrif.

Rydym eisoes wedi codi llawer o'r themâu hyn yn ystod ein hadolygiad o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Rydym hefyd yn gwneud gwaith mwy manwl ar rai materion penodol. Er enghraifft, rydym yn cynnal ymchwiliad i fynediad at wasanaethau deintyddiaeth y GIG a byddwn yn cyhoeddi ein canfyddiadau ym mis Chwefror.

Rydym hefyd yn bwriadu trafod y broses o weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ag academyddion blaenllaw yn ddiweddarach yn y gwanwyn.

Dogfennau a lincs

Gwaith craffu cyffredinol ar waith Gweinidogion sydd â chyfrifoldeb dros iechyd a gofal cymdeithasol

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cwestiynau dilynol o’r sesiwn graffu gyffredinol ar 6 Hydref 2022

Cysylltu'r dotiau: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru