Cysylltu'r dotiau: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru

Mae’r adroddiad hwn gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhoi argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru.


 

 

Crynodeb o’r adroddiad

Iechyd meddwl

Mae iechyd meddwl, i raddau helaeth, yn cael ei siapio gan yr amgylcheddau cymdeithasol, economaidd a ffisegol y mae pobl yn byw ynddynt.

Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un, ond mae rhai grwpiau neu gymunedau yn wynebu risg anghymesur. Efallai mai grwpiau o'r fath a fydd yn cael yr anhawster mwyaf hefyd wrth gael mynediad at wasanaethau, a hyd yn oed pan fyddant yn cael cymorth, hwyrach na fydd eu profiadau a’u canlyniadau cystal.

Yn aml, mae pa mor agored yw pobl i broblemau iechyd meddwl yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau mewn cymdeithas, fel y rhai sy'n ymwneud â nodweddion gwarchodedig, tlodi, tai annigonol, a diffyg mynediad at addysg neu gyflogaeth.

Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd

Ni fydd iechyd meddwl a llesiant y boblogaeth yn gwella, ac mewn gwirionedd gall barhau i ddirywio, oni bai bod camau effeithiol yn cael eu cymryd i gydnabod a mynd i'r afael ag effaith trawma a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn cymdeithas ac achosion ehangach iechyd meddwl gwael.

Rhaid i'r neges hon, ynghyd ag uchelgais glir i leihau anghydraddoldebau iechyd meddwl, fod yn ganolog i strategaeth iechyd meddwl newydd Llywodraeth Cymru.

Nid yw pob un o'r ysgogiadau ar gyfer mynd i'r afael â thlodi a phenderfynyddion cymdeithasol eraill iechyd meddwl yn nwylo Llywodraeth Cymru. Rydym yn galw am asesiad o ba mor bell y gall Llywodraeth Cymru fynd i wella iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru gan ddefnyddio'r adnoddau o fewn ei rheolaeth, a gwybodaeth am sut mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’i gilydd i wella iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru. Rydym hefyd eisiau rhagor o wybodaeth am sut y bydd y strategaeth iechyd meddwl newydd yn bodloni anghenion pobl sydd â salwch meddwl difrifol a pharhaus.

Ceir safbwyntiau gwahanol o fewn y Pwyllgor ynghylch a fyddai datganoli lles, neu weinyddu lles, yn effeithiol neu'n briodol. Ond rydym i gyd yn gytûn y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad annibynnol i'r effaith y byddai unrhyw ddatganoli o'r fath yn ei chael ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd corfforol a meddyliol yng Nghymru.

Gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Mae bylchau yn y ddarpariaeth ar draws y sbectrwm o anghenion iechyd meddwl, ac mae amseroedd aros hir y GIG yn gwaethygu’r rhain.

Mae angen i wasanaethau fod yn fwy cydgysylltiedig a mwy hyblyg, a gallu cydweithio'n well i ddylunio a darparu cymorth sy'n diwallu anghenion unigolion.

Mae pobl niwrowahanol yn wynebu risg arbennig o anghydraddoldebau iechyd meddwl. Rydym am i Lywodraeth Cymru gyhoeddi map ffordd gyda chamau gweithredu ar lefel genedlaethol a lleol i wella iechyd meddwl ymhlith pobl niwrowahanol, gan gynnwys camau i symleiddio a gwneud y broses i oedolion a phlant o gael eu hasesu ar gyfer cyflyrau niwrowahanol yn fwy hygyrch. Rydym hefyd yn gofyn am sicrwydd y bydd gwaith i ddatblygu cymorth trawsbynciol i blant a phobl ifanc a allai fod yn niwrowahanol, a'u teuluoedd, cyn iddynt gael diagnosis ffurfiol yn cael ei symud ymlaen ar fyrder.

Mae sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn teimlo'n hygyrch ac yn groesawgar i bawb a allai fod eu hangen yn allweddol i leihau anghydraddoldebau iechyd meddwl. Rydym yn galw am eglurder o ran yr amserlenni ar gyfer adolygu'r ddarpariaeth iechyd meddwl i bobl fyddar, ac am welliannau yn y ddarpariaeth ac argaeledd gwasanaethau dehongli a chyfieithu ar gyfer ieithoedd ar wahân i'r Gymraeg a'r Saesneg.

Rydym yn croesawu cyhoeddi'r fframwaith ystyriol o drawma i Gymru, ond hoffem gael eglurder ynghylch yr amserlenni ar gyfer datblygu mesurau i asesu ei effaith. Rydym hefyd yn galw am welliannau yn y ddarpariaeth o wybodaeth am ymlyniad a’r berthynas rhwng iechyd rhieni a phlant ar gyfer darpar rieni a rhieni newydd.

Iechyd meddwl ‘yn gynnyrch cymunedau’

Mae iechyd meddwl yn fater iechyd y cyhoedd, ac mae gan gymunedau rôl hanfodol i'w chwarae wrth atal salwch meddwl, hyrwyddo a diogelu llesiant meddyliol, a chefnogi pobl sy'n byw gyda salwch meddwl.

Mae angen gwelliannau i wasanaethau iechyd meddwl, ond mae angen llawer mwy o ffocws arnom hefyd ar atal, ac ar gynorthwyo cymunedau i adeiladu, cynnal a meithrin iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol.

Nid yw bob amser yn glir pa wasanaethau cymunedol sydd ar gael, felly rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithio gyda phartneriaid i ddatblygu cyfeirlyfr ar-lein i ategu’r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd. Rydym yn croesawu'r camau a gymerwyd gan y Dirprwy Weinidogion i wella cynaliadwyedd ariannu ar gyfer sefydliadau’r trydydd sector a sefydliadau cymunedol, ond nid ydym wedi ein hargyhoeddi hyd yma bod y mater wedi'i ddatrys a byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa.

Presgripsiynu cymdeithasol

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn ffordd o gysylltu pobl â ffynonellau cymorth anfeddygol yn y gymuned i'w helpu i reoli eu hiechyd a'u llesiant yn well.

Nid yw'n 'ateb hud' ac nid yw'n addas i bawb nac ym mhob amgylchiadau, ond mae ganddo botensial pan gaiff ei ddefnyddio'n briodol i leihau'r pwysau ar wasanaethau'r GIG a gwella canlyniadau iechyd a chymdeithasol pobl.

Rydym yn croesawu datblygiad y fframwaith presgripsiynu cymdeithasol cenedlaethol, ond rydym am ei weld yn cyd-fynd ag ymgyrchoedd cyfathrebu wedi'u targedu i godi ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol, grwpiau cymunedol a'r cyhoedd. Rydym hefyd yn galw am i’r fframwaith gynnwys mesurau ar gyfer asesu'r effeithiau a'r canlyniadau iechyd a chymdeithasol yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, ac am ymrwymiadau'n ymwneud â chyhoeddi data fel rhan o'r gwerthusiad parhaus o'r fframwaith. Mae gan y gweithlu presgripsiynu cymdeithasol rôl allweddol i'w chwarae, ac rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru pa gynlluniau sydd ganddi i ddatblygu ei strwythur proffesiynol.

Cynllunio’r gweithlu

Mae staff iechyd meddwl arbenigol yn rhan bwysig o'r darlun, ond er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl, mae angen ystyried y gweithlu yn ei ystyr ehangaf, gan gynnwys gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, tai, gwasanaethau cyhoeddus, a'r sectorau cymunedol a gwirfoddol.

Roedd materion yn ymwneud â recriwtio, cadw a bylchau hyfforddi yn y maes iechyd meddwl a'r gweithlu ehangach yn bodoli cyn y pandemig, ond maent wedi gwaethygu o ganlyniad i ludded a chostau byw cynyddol. Rydym yn croesawu ffocws cynllun y gweithlu iechyd meddwl ar les y gweithlu, ond rydym am wybod mwy am sut y bydd effaith y cynllun ar les yn cael ei monitro.

Yng nghyd-destun cyfyngiadau cyllidebol, a'r angen i gydbwyso mynd i'r afael â phwysau uniongyrchol o ran y gweithlu â datblygu gweithlu iechyd meddwl sy'n addas i'r dyfodol ac sydd â'r adnoddau i ddiwallu anghenion amrywiol, rydym hefyd yn galw am fwy o wybodaeth ynglŷn â pha gamau gweithredu o fewn cynllun y gweithlu iechyd meddwl sydd wedi derbyn cyllid a sut y bydd cyllid yn cael ei flaenoriaethu.

Er mwyn meithrin gallu'r gweithlu i ddiwallu anghenion cymunedau amrywiol, mae angen gweithlu mwy amrywiol, gwell ymwybyddiaeth a hyfforddiant cydraddoldeb, a chael gwared ar rwystrau sy'n atal staff rhag cael mynediad at gyfleoedd hyfforddi. Rydym am i Lywodraeth Cymru weithio gyda phobl niwrowahanol i gydgynhyrchu ymgyrchoedd hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth, a gweithio gyda phobl o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol i ddylunio a datblygu rhaglen fentora a chymorth i'w helpu i ymuno â'r gweithlu iechyd meddwl.

Camau gweithredu trawslywodraethol cydgysylltiedig

Mae adolygu a diwygio strategaeth iechyd meddwl Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfle gwerthfawr i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl ac ystyried anghenion cymunedau amrywiol yn y ffordd y mae Cymru’n ymdrin ag iechyd meddwl.

Bydd sicrhau bod y strategaeth a'r fframweithiau cysylltiedig yn troi'n gamau ystyrlon ac effeithiau diriaethol ar lawr gwlad yn golygu y bydd angen dull trawslywodraethol sy’n effeithiol a chydlynu gyda chynlluniau a pholisïau perthnasol eraill.

Rydym am i bob cyflwyniad i Weinidogion Llywodraeth Cymru sy'n ceisio penderfyniadau ar bolisi, deddfwriaeth, gwariant neu drethiant gynnwys asesiad o sut y bydd yr argymhelliad yn cyfrannu at wella iechyd meddwl a llesiant. Rydym hefyd am dderbyn diweddariadau blynyddol am y cynnydd ar weithredu ein hargymhellion, yn ogystal ag ymrwymiadau gan Lywodraeth Cymru i gomisiynu a chyhoeddi gwerthusiadau interim a therfynol o'i strategaeth iechyd meddwl newydd, gan gynnwys yr effaith y mae wedi’i chael ar iechyd meddwl a llesiant a'r canlyniadau a gyflawnwyd.

Rydym yn awyddus i weld y set ddata graidd iechyd meddwl yn cael ei chyflwyno, ond rydym am gael cadarnhad y bydd y data'n cael ei ddadgyfuno fel y gallwn ni a rhanddeiliaid olrhain y cynnydd o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl. Rydym hefyd eisiau mwy o wybodaeth ynghylch pryd y bydd mesurau llesiant yn cael eu datblygu a'u gweithredu er mwyn llywio'r gwaith o fonitro a gwerthuso effaith y strategaeth iechyd meddwl newydd.

Diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983

Yn olaf, mae'n annerbyniol bod unrhyw un yn cael ei gadw'n amhriodol o dan ddeddfwriaeth iechyd meddwl, a hyd yn oed yn fwy annerbyniol bod rhai grwpiau a chymunedau yn wynebu risg anghymesur o hyn.

Rydym am weld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid heddlu i wella mynediad at hyfforddiant parhaus i swyddogion yr heddlu mewn ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, atal hunanladdiad, ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth, ymwybyddiaeth o anabledd dysgu, a chymhwysedd diwylliannol.

Pe bai cynigion mewn Bil Llywodraeth y DU i ddiwygio Deddf 1983 yn defnyddio’r weithdrefn cydsyniad deddfwriaethol, byddem yn disgwyl craffu ar unrhyw femoranda cydsyniad deddfwriaethol cysylltiedig. Yn y cyfamser, rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru roi diweddariad ar ei thrafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch datblygu'r cynigion deddfwriaethol.



Llinellau cymorth ar gyfer cefnogaeth emosiynol

Y Samariaid

Ffoniwch 116 123, llinellau ar agor 24/7

Siarad Cymraeg? Ffoniwch 0808 164 0123. 
Ar agor 7am - 11pm

Llinell Gyngor a Gwrando'r Gymuned (C.A.L.L.)

Ffoniwch 0800 132 737, neu tecstiwch HELP i 81066.