Cysylltu'r dotiau: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru
Dyma bumed bennod adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol 'Cysylltu'r dotiau: Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru'.
Ar y dudalen hon:
— Beth yw presgripsiynu cymdeithasol?
— Presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru
Presgripsiynu cymdeithasol
Beth yw presgripsiynu cymdeithasol?
94. Mae presgripsiynu cymdeithasol yn ffordd o gysylltu pobl â ffynonellau cymorth anfeddygol yn y gymuned i'w helpu i reoli eu hiechyd a'u llesiant yn well.[146] Yn gyffredinol mae'n pwysleisio gweld a chefnogi person mewn modd holistaidd, yn hytrach na thrwy lens trin cyflwr penodol. Nid yw’n golygu meddygon teulu yn rhagnodi dosbarthiadau garddio neu gelf yn lle cyffuriau gwrthiselder; yn hytrach mae'n ymwneud ag archwilio anghenion ehangach unigolyn a'r hyn sy'n wirioneddol bwysig iddo.
95. Dywedodd yr Athro Carolyn Wallace o Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru ("WSSPR") wrthym nad presgripsiynwyr cymdeithasol mewn gofal sylfaenol nac atgyfeiriadau yw’r prif fodel yng Nghymru ond, yn hytrach, bod presgripsiynu cymdeithasol yn digwydd mewn cymunedau, gyda'r trydydd sector ac awdurdodau lleol yn gweithio mewn partneriaeth â gofal sylfaenol.[147]
96. Gall cynlluniau presgripsiynu cymdeithasol gynnwys ystod o ymyriadau a gweithgareddau, er enghraifft, gwirfoddoli, gweithgareddau celfyddydol neu greadigol, garddio, dysgu i oedolion, a chyfeillio. Mae cymorth ar gyfer materion lles cymdeithasol yn elfen bwysig. Gellir ei ddefnyddio gydag ystod o gleifion, gan gynnwys pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl ysgafn neu hirdymor, pobl agored i niwed neu bobl ynysig, a phobl sy'n ddefnyddwyr cyson gwasanaethau iechyd meddwl sylfaenol neu eilaidd.
97. Bu'r Athro Syr Sam Everington, arloeswr presgripsiynu cymdeithasol, yn dweud wrthym am ei waith yn y Bromley by Bow Centre yn nwyrain Llundain. Gan gyfeirio at argyfwng opioid, dywedodd wrthym:
“…the beauty of social prescribing is you then give the tool to every GP to have an alternative. Because there's a lot of pressure on clinicians and doctors and nurses to prescribe, and so that's why we came up with the term 'social prescribing', because we wanted them to carry on prescribing, but actually do something very different to what they were doing before".[148]
Presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru
98. Yn 2016, sefydlodd ICC Hyb Gofal Sylfaenol i archwilio'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol, nodi prosiectau cyfredol a rhannu dysgu. [149] Yn 2017, sefydlwyd WSSPR gyda’r nod cychwynnol o sefydlu Rhwydwaith Ymchwil Presgripsiynu Cymdeithasol i Gymru ac adeiladu ar sylfaen dystiolaeth ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru. Ym mis Hydref 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid gwerth £1.3 miliwn i gefnogi dau brosiect presgripsiynu cymdeithasol peilot. [150] Roedd hyn yn cynnwys cynllun peilot a gynhaliwyd gan Mind Cymru i helpu pobl sy'n profi problemau ysgafn i gymedrol gyda'u hiechyd meddwl a'u llesiant emosiynol. Dyma ganfyddiadau’r adroddiad gwerthuso, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2020:
- Roedd cleientiaid yn cael eu cynnwys mewn trafodaethau am y gefnogaeth a oedd ar gael ac yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a'u gwerthfawrogi.
- Roedd presgripsiynu cymdeithasol yn cynnig ymyrraeth amserol i gleientiaid, yn enwedig yng nghyd-destun amseroedd aros hir am wasanaethau iechyd meddwl y GIG.
- Roedd gweithwyr cyswllt yn chwarae rhan allweddol, yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr, ac yn helpu i hwyluso cyfraniad ac ymgysylltiad rhanddeiliaid a chleientiaid.[151]
99. Ym mis Mehefin 2021, disgrifiodd y Prif Weinidog bresgripsiynu cymdeithasol fel "rhan bwysig" o ddyfodol gwasanaethau gofal sylfaenol i bobl ag anghenion iechyd meddwl a llesiant lefel isel. Dywedodd fod llawer o'r cyfleoedd sydd ar gael drwy bresgripsiynu cymdeithasol eisoes yn bodoli yn y gymuned, ond "lle gall eu cyflwyno drwy bresgripsiwn cymdeithasol weithiau chwalu'r rhwystrau y gall pobl eu teimlo rhwng eu hanghenion eu hunain a’r ffyrdd y gellid diwallu’r anghenion hynny yn y gymuned".[152]
100. Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i gyflwyno fframwaith Cymru gyfan i gyflwyno presgripsiynu cymdeithasol fel modd o fynd i'r afael ag ynysigrwydd.[153] Dywedodd yr Athro Carolyn Wallace, sydd wedi bod ynghlwm wrth y gwaith o ddatblygu'r fframwaith, mai'r bwriad oedd darparu fframwaith o egwyddor ac arweiniad yn hytrach na datblygu gwasanaeth presgripsiynu cymdeithasol cenedlaethol.[154] Rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref 2022, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymgynghori ar ddatblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol a fyddai, meddai, yn darparu "cyfres o safonau, canllawiau a chamau gweithredu".[155] Ymhlith y prif faterion yn yr ymgynghoriad mae'r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio presgripsiynu cymdeithasol; model presgripsiynu cymdeithasol ar gyfer Cymru; yr hyn sydd eisoes yn digwydd, beth sy'n gweithio, a beth sydd ddim yn gweithio; pa gamau y gellid eu cymryd ar sail 'unwaith i Gymru'; sut y gellid ymgorffori neu ddatblygu presgripsiynu cymdeithasol; a pha atebion technolegol y gallai fod eu hangen.
Gweithwyr cyswllt
101. Yn dilyn atgyfeiriadau cychwynnol gan weithiwr proffesiynol iechyd, gofal cymdeithasol, tai neu’r trydydd sector (neu hunan-atgyfeiriad gan unigolyn), mae atgyfeiriadau at brosiectau presgripsiynu cymdeithasol fel arfer yn cael eu gwneud gan weithiwr cyswllt. Dywedodd adroddiad cynhadledd Rhwydwaith Rhagnodi Cymdeithasol Blynyddol 2016 fod gan weithwyr cyswllt effeithiol rôl hanfodol o ran sicrhau bod dulliau presgripsiynu cymdeithasol yn gweithio, ond nododd:
“…there could be difficulties in finding skilled, networked link workers. The person specification is demanding, but pay may be relatively low. It is unrealistic to think volunteers could take on such a linking role".[156]
102. Nid oes teitl swydd safonol ar gyfer gweithwyr cyswllt, a allai hefyd gael eu galw'n bresgripsiynwyr cymdeithasol, cysylltwyr cymunedol, neu deitlau eraill mwy arbenigol. Gall cyflogau amrywio'n sylweddol (er enghraifft, rhwng £16k a £36k), ac er bod telerau contract yn amrywio, mae llawer ohonynt ar gontractau tymor byr rhwng 6 a 12 mis oherwydd natur tymor byr y cyllid.[157]
103. Disgrifiodd yr Athro Syr Sam Everington yr hyn yr oedd yn eu hystyried yn ofynion craidd ar gyfer gweithwyr cyswllt:
“So, what is a social prescriber? What sort of characteristics do they have? And, for us, in a very deprived community, we actually have lots of people who don't have formal qualifications, often not a lot of GCSEs, but have fantastic talents—invariably, the significant majority of them women in our community—and they are emotionally intelligent, they like working with people. Most importantly, they're motivational coaches, and they are what I call a 'fixer'".[158]
104. Nid yw gweithwyr cyswllt yn cael eu rheoleiddio ac nid oes hyfforddiant na gofynion safonol. Nododd yr Athro Carolyn Wallace fod hyn yn fater allweddol, gan iddi ddweud y gallai arwain at wneud atgyfeiriadau amhriodol yn enwedig os oes mwy o ddibyniaeth ar bresgripsiynu cymdeithasol fel ffordd o gefnogi pobl a allai wynebu amseroedd aros hir ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Ychwanegodd fod y gweithwyr cyswllt eu hunain yn bryderus am hyn, gan nad oedd wastad yn glir a oeddent yn atebol os oedd rhywbeth yn mynd o'i le.[159]
105. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru, Cysylltu Cymunedau, yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu fframwaith sgiliau a chymwyseddau cenedlaethol ar gyfer y gweithlu presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru. Caiff y gwaith hwn ei arwain gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru ("AaGIC"). Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wrthym y bydd yn cynnwys manylion yr wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau a ddisgwylir gan weithwyr cyswllt, y bydd yn berthnasol i gyflogwyr, hyfforddwyr a gweithwyr cyswllt, ac y bydd yn galluogi staff lefel mynediad i hyfforddi fel presgripsiynwyr cymdeithasol a symud ymlaen i lefelau uchel o sgiliau a chyfrifoldeb.[160]
Datgloi'r potensial
106. Mae llawer o'r rhai sydd wedi cyfrannu at ein hymchwiliad wedi tynnu sylw at angen i ddatgloi potensial presgripsiynu cymdeithasol. Mae cynlluniau ar waith mewn rhai rhannau o Gymru, ond mae yna wahaniaethau o ran dulliau gweithredu a lefel y gwasanaeth sydd ar gael. Clywsom hefyd nad yw pobl, gan gynnwys gweithwyr meddygol proffesiynol, yn aml yn ymwybodol y gallai presgripsiynu cymdeithasol fod yn opsiwn. Yn ystod ein grwpiau ffocws,[161] dywedodd rhai cleifion wrthym am brofiadau cadarnhaol o bresgripsiynu cymdeithasol, ond dywedodd eraill nad oedd pobl yn gwybod amdano:
“Cyn y pandemig, roeddwn i yn Lloegr ac roedd y meddygfeydd yn troi’n hybiau gyda llawer o wasanaethau. Mae hynny’n teimlo'n dda fel ffordd ymlaen. Does dim byd yn fy meddygfa i ar hyn o bryd – dim presgripsiynu cymdeithasol o gwbl. Y ffordd ymlaen yw sicrhau nad yw meddygon teulu’n cael eu dwysbarchu cymaint a’u gwneud yn fwy o ran o'r gymuned.”
“Mae angen inni siarad am bresgripsiynu cymdeithasol. Ni ddylai meddygon teulu fod yn rhagnodi cyffuriau gwrth-iselder yn unig. Nid yw pobl ifanc yn gwybod y gallant gael pasys am ddim i’r gampfa er enghraifft, ac nid ydynt yn cael eu hysbysu am hyn. Nid oes gan fy nysgwyr syniad ei fod yn opsiwn – mae angen ei rannu’n fwy.”
107. Dywedodd Andy Bell fod sylfaen dystiolaeth gynyddol rymus ar gyfer manteision presgripsiynu cymdeithasol. Roedd yn cydnabod na all newid amodau economaidd na chymdeithasol unigolyn yn gyfan gwbl, ond awgrymodd y gall eu lliniaru, rhoi mwy o ddewis ac ymreolaeth i bobl, a'u helpu i deimlo eu bod yn rhan o'u cymuned.[162]
108. Er iddo nodi'r sylfaen dystiolaeth gynyddol a'r cyfraniad y gallai ymyriadau cymdeithasol fel cymorth gyda lleoliad cyflogaeth ei wneud, rhybuddiodd yr Athro Rob Poole y gallai rheoli mynediad at gyfleusterau cymdeithasol a chyfleoedd ar sail label iechyd meddwl ddadrymuso pobl:
“If we can only access social facilities by them being prescribed, we haven’t really solved any problems ".[163]
109. Roedd eraill hefyd yn ochelgar, gan ddweud bod yn rhaid ystyried presgripsiynu cymdeithasol fel un elfen o becyn gofal ehangach[164] gan rybuddio yn erbyn unrhyw ganfyddiad y gallai fod yn ddewis rhad yn lle gwasanaethau clinigol”.[165]
110. Mae technoleg ddigidol yn chwarae rhan allweddol mewn presgripsiynu cymdeithasol effeithiol, o ran rhoi cyfeiriaduron hygyrch a chywir i bresgripsiynwyr cymdeithasol o weithgareddau yn eu hardaloedd, ac wrth gasglu data am ganlyniadau. Dywedodd yr Athro Carolyn Wallace y byddai datgloi potensial presgripsiynu cymdeithasol yn cael ei hwyluso trwy sicrhau bod gan fyrddau iechyd, meddygon teulu a gweithwyr cyswllt fynediad at blatfformau digidol effeithiol.[166]
111. Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant fod pwyso a mesur effaith gweithgarwch presgripsiynu cymdeithasol yn heriol, yn rhannol oherwydd bod modelau presgripsiynu cymdeithasol yn amrywio ar draws Cymru. Nododd hi a'i swyddogion fod ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn edrych ar wahanol ddulliau gwerthuso, a bod Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda WSSPR i archwilio sut i ddeall a oedd llwybrau presgripsiynu cymdeithasol yn cyflawni'r effaith a ddymunwyd i unigolion.[167]
Ein barn ni
112. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod presgripsiynu cymdeithasol yn cynnig y potensial i fynd i'r afael ag anghenion pobl mewn ffordd fwy cyfannol a phersonol. Nid yw'n ateb hud ac nid yw'n addas i bawb nac ym mhob math o amgylchiadau, ond mae ganddo botensial pan gaiff ei ddefnyddio'n briodol i leihau'r pwysau ar wasanaethau'r GIG a gwella canlyniadau iechyd a chymdeithasol pobl.
113. Mae’r ddarpariaeth presgripsiynu cymdeithasol yn amrywio’n sylweddol ledled Cymru, ac mae'n amlwg bod lle i ddatblygu'r dull gweithredu ymhellach, gan ddechrau gyda dealltwriaeth a rennir o'r hyn y mae presgripsiynu cymdeithasol yn ei olygu. Yn rhy aml mae ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol o bresgripsiynu cymdeithasol yn dameidiog ac anghyson, a allai atal pobl a allai elwa ar bresgripsiynu cymdeithasol rhag derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt i leddfu trallod meddwl neu feithrin iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol.
114. Rydym yn croesawu datblygiad y fframwaith presgripsiynu cymdeithasol cenedlaethol. Gallai helpu i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o bresgripsiynu cymdeithasol ledled Cymru, ar yr amod bod ymgyrchoedd cyfathrebu sydd wedi'u targedu'n briodol i godi ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol, gwasanaethau a grwpiau cymunedol a sefydliadau y gellid presgripsiynu pobl iddynt, a'r cyhoedd yn gyffredinol, yn cyd-fynd â’r gwaith o’i gyhoeddi a'i weithredu'n barhaus. Fel arall, gall y fframwaith fethu â sicrhau cefnogaeth gan bob partner perthnasol, gan gynnwys pobl a allai elwa ar bresgripsiynu cymdeithasol.
Argymhelliad 14
Er mwyn cyd-fynd â'r broses o gyhoeddi'r fframwaith presgripsiynu cymdeithasol a'i weithredu'n barhaus, dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu a chyflwyno ymgyrchoedd cyfathrebu wedi'u targedu i hyrwyddo ymwybyddiaeth o bresgripsiynu cymdeithasol a'r fframwaith newydd ymhlith gweithwyr iechyd, gwasanaethau a grwpiau a sefydliadau cymunedol y gellid presgripsiynu pobl iddynt, a'r cyhoedd.
115. Her allweddol fydd datblygu mesurau canlyniadau priodol i asesu llwyddiant neu fel arall y fframwaith presgripsiynu cymdeithasol. Pan fo mesurau'n bodoli, maent yn aml yn cael eu gwyro tuag at fesurau iechyd yn hytrach na mesurau cymdeithasol—gall hyn fethu â chipio effaith presgripsiynu cymdeithasol wrth fynd i'r afael â phenderfynyddion cymdeithasol ehangach salwch meddwl ac anghydraddoldebau iechyd meddwl.
Argymhelliad 15
Dylai fframwaith presgripsiynu cymdeithasol Llywodraeth Cymru gynnwys mesurau lle gellir asesu effeithiau a chanlyniadau iechyd a chymdeithasol cynlluniau presgripsiynu cymdeithasol ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i gyhoeddi data fel rhan o'r broses barhaus o werthuso'r fframwaith presgripsiynu cymdeithasol er mwyn ein galluogi ni a rhanddeiliaid i fonitro effaith presgripsiynu cymdeithasol a'r fframwaith presgripsiynu cymdeithasol.
116. Mae sicrhau bod pobl yn gallu cael sgyrsiau o safon am yr hyn sy'n bwysig iddynt, a'u bod yn cael eu cefnogi mewn ffordd bersonol, yn hanfodol er mwyn datgloi potensial presgripsiynu cymdeithasol a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau. Nodwn nad yw’r fframwaith presgripsiynu cymdeithasol drafft yn cyfeirio fawr ddim at rôl gweithwyr cyswllt yn hyn o beth, a chredwn fod angen rhagor o waith i ddatblygu strwythur mwy proffesiynol sy'n darparu mwy o safoni a mwy o gefnogaeth i weithwyr cyswllt. Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu fframwaith sgiliau a chymwyseddau ar gyfer y gweithlu presgripsiynu cymdeithasol, ond nid ydym wedi ein sicrhau eto y bydd fframwaith gwirfoddol yn ddigonol i roi eglurder i weithwyr cyswllt, gweithwyr iechyd proffesiynol, a'r cyhoedd am y rôl. Rydym hefyd yn poeni am faint yr amrywiad mewn tâl, telerau ac amodau, a'r materion a godwyd gyda ni ynghylch diffyg cyllid cynaliadwy ar gyfer y swyddi hyn. Rydym yn cytuno ag ymchwil diweddar bod angen mwy o seilwaith proffesiynol, gan gynnwys disgrifiadau swydd, canllawiau cyflog a gofynion goruchwylio, yn ogystal â fframwaith sgiliau a chymhwysedd a gofynion hyfforddiant.[168]
Argymhelliad 16
Yn ei hymateb i’n hadroddiad, dylai Llywodraeth Cymru amlinellu pa gamau y bydd yn eu cymryd i ddatblygu strwythur mwy proffesiynol i'r gweithlu presgripsiynu cymdeithasol, gan gynnwys sut y bydd yn mynd i'r afael ag amrywiaeth mewn tâl, telerau ac amodau, ac yn gwella cynaliadwyedd cyllido ar gyfer rolau o'r fath. Yn unol ag argymhelliad 22, dylai Llywodraeth Cymru roi diweddariad i ni ar y gwaith hwn ym mis Rhagfyr 2023.
Tabl Cynnwys
— Crynodeb
— Anghydraddoldebau iechyd meddwl
— Gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
— Caiff iechyd meddwl ei wneud mewn cymunedau
— Gweithredu trawslywodraethol cydgysylltiedig
— Diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983
— Atodiad: Cefnogaeth iechyd meddwl ac emosiynol
[146] Ymchwil y Senedd, Papur briffio: Presgripsiynu cymdeithasol, Awst 2021
[147] Cofnod y Trafodion [paragraff 15], 19 Mai 2022
[148] Cofnod y Trafodion [paragraff 359], 19 Mai 2022
[149] GIG Cymru, Rhagnodi cymdeithasol [fel ar Awst 2022]
[150] Llywodraeth Cymru, Datganiad ysgrifenedig: Rhagnodi cymdeithasol peilotiaid ar gyfer iechyd meddwl, 1 Hydref 2018
[151] Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru Prifysgol De Cymru, Evaluation of the pilot mental health social prescribing programme: final report for Mind Cymru, Rhagfyr 2020
[152] Cofnod y Trafodion Cyfarfod Llawn [paragraff 11], 22 Mehefin 2021
[153] Llywodraeth Cymru, Rhaglen Lywodraethu – Diweddariad, 2021
[154] Cofnod y Trafodion [paragraff 30], 19 Mai 2022
[155] Llywodraeth Cymru. Ymgynghoriad: Datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol, 28 Gorffennaf 2022
[156] Rhwydwaith Rhagnodi Cymdeithasol, Adroddiad Cynhadledd Flynyddol y Rhwydwaith Rhagnodi Cymdeithasol, (Saesneg yn unig), Ionawr 2016, t.23
[157] Cofnod y Trafodion [paragraffau 26-28], 19 Mai 2022
[158] Cofnod y Trafodion [paragraff 361], 19 Mai 2022
[159] Cofnod y Trafodion [paragraff 23], 19 Mai 2022
[160] Cofnod y Trafodion [paragraffau 71-72], 28 Medi 2022
[161] Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Anghydraddoldebau iechyd meddwl: canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu, Mawrth 2022
[162] Cofnod y Trafodion [paragraffau 204-205], 24 Mawrth 2022
[163] Cofnod y Trafodion [paragraff 99], 4 Mai 2022
[164] Cofnod y Trafodion [paragraff 210], 6 Gorffennaf 2022
[165] Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Anghydraddoldebau iechyd meddwl: crynodeb ymgysylltu: gweithlu, Medi 2022
[166] Cofnod y Trafodion [paragraff 32], 19 Mai 2022
[167] Cofnod y Trafodion [paragraffau 82-83] 28 Medi 2022
[168] Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru, Canolfan PRIME Cymru, Data Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, Understanding social prescribing in Wales: a mixed methods study: a final report, Medi 2021