Gweithredu trawslywodraethol cydgysylltiedig

Cyhoeddwyd 19/12/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/12/2022   |   Amser darllen munudau

Cysylltu'r dotiau: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru

Dyma seithfed bennod adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol 'Cysylltu'r dotiau: Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru'.

 


 

Ar y dudalen hon:

Gweithredu trawslywodraethol cydgysylltiedig

Strategaeth Llywodraeth Cymru

'Iechyd meddwl ym mhob polisi'

Ehangu a chyflwyno fesul cam

Adrodd a data

Ein barn ni

Cynnwys yr adroddiad

 


 

Gweithredu trawslywodraethol cydgysylltiedig

Strategaeth Llywodraeth Cymru

136. Daw strategaeth gyfredol Llywodraeth Cymru, Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, i ben eleni. Dywedodd rhanddeiliaid fod y gwaith o adolygu ac ailwampio'r strategaeth yn gyfle i fynd i'r afael ag anghenion ystod ehangach o gymunedau sy'n profi gwahaniaethu a/neu anfantais, gan gynnwys, er enghraifft, pobl hŷn, Sipsiwn a Theithwyr, a phobl sy'n byw gyda chyflyrau cronig. Mae’n rhoi cyfle hefyd i ddysgu o’r pandemig COVID-19, yn enwedig yr anghydraddoldebau economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol presennol hirsefydlog ac sy’n gwaethygu sydd wedi arwain at iechyd meddwl gwaeth.[197]

137. Ar y cyfan mae'r rhanddeiliaid yn croesawu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella iechyd meddwl, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r dull gweithredu ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol.[198] Fodd bynnag, clywsom bryderon nad yw polisi bob amser yn cael ei roi ar waith yn ymarferol, a bod angen gwneud mwy i ddwyn ynghyd y gwahanol gynlluniau gweithredu a pholisïau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, anghydraddoldebau iechyd, ac â grwpiau a chymunedau penodol a allai brofi gwahaniaethu neu anfantais.[199]

138. Mae nifer o'r Colegau Brenhinol, yn cynnwys Coleg Brenhinol y Meddygon, yn galw ar y cyd am strategaeth drawslywodraethol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl a chorfforol.[200] Diystyrodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl yr angen am strategaeth o'r fath gan na fyddai cael strategaeth yn sicrhau cyflawni. Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru eisoes yn bwrw ymlaen â gwaith yn y maes hwn, gan gynnwys Pwysau Iach, Cymru Iach, cynllun rheoli tybaco Llywodraeth Cymru, a gweithgor ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r GIG. Dywedodd:

"So, I think the important thing now is to focus on action. I think we know what we need to do and we need to get on with it, and we don't need another new strategy."[201]

 

Nôl i dop y dudalen

 

'Iechyd meddwl ym mhob polisi'

139. Clywsom safbwyntiau gwahanol ynghylch a oedd angen dull 'iechyd meddwl ym mhob polisi'. Dywedodd Andy Bell y gallai olygu y byddai angen i Lywodraeth Cymru nodi'n fwriadol ac yn ddiamwys sut y byddai polisïau a phenderfyniadau yn ceisio gwella iechyd meddwl, lleihau anghydraddoldebau a gwella pethau i bobl sy'n byw gyda salwch meddwl.[202] Rhybuddiodd eraill y gallai'r dull gweithredu fod yn ymarfer ticio bocsys, gan awgrymu yn hytrach y dylid nodi'r hyn sydd ei angen yn ymarferol i greu'r amgylchiadau ar gyfer iechyd meddwl a llesiant da, a sicrhau bod hyn yn llywio polisi ac ymarfer.[203]

 

Nôl i dop y dudalen

 

Ehangu a chyflwyno fesul cam

140. Nid yw bob amser yn glir pa strwythurau neu brosesau sydd yn eu lle i gefnogi gwerthusiad amserol ac i gyflwyno prosiectau neu fodelau gofal llwyddiannus. Siaradodd llawer o randdeiliaid am angen i sicrhau bod ymyriadau a ffyrdd effeithiol o weithio yn cael eu cyflwyno'n ehangach. Dywedodd y Comisiynydd Pobl Hŷn fod gweithredu'n allweddol, a galwodd am fwy o ffocws ar beth yw'r gefnogaeth, gwasanaethau ac ymyriadau y gwyddys sy’n gweithio, a sut y gellir cyflwyno'r rheini'n well ledled Cymru.[204]

141. Cydnabu’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant nad yw arfer da yn teithio'n dda. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru'n edrych ar ffyrdd o wella hyn, gan gynnwys sefydlu cymunedau ymarfer fel rhan o'r HCRIF yn ogystal â her barhaus i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol ac eraill yn eu hannog i rannu arferion da a gweithio mewn ffordd gydweithredol.[205]

 

Nôl i dop y dudalen

 

Adrodd a data

142. Roedd nifer o bobl a sefydliadau yn pryderu bod y data sydd ar gael yn darparu dealltwriaeth annigonol o hyd a lled salwch meddwl yng Nghymru, pa mor dda y mae grwpiau gwahanol yn gallu cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl ac i ba raddau y diwellir eu hanghenion, ac a yw hyn yn amrywio ar draws Cymru.[206] Crynhodd Mind Cymru y mater fel hyn:

“…there is no routine, reliable and comparable measure of the prevalence (both treated and untreated) of mental health problems within the Welsh population. As a result, the true scale of mental health problems, inequalities between groups and changes over time remains unclear”. [207]

 

143. Mae'r cyfyngiadau'n cynnwys diffyg dadansoddi data yn ôl demograffeg, gan gynnwys anfantais economaidd-gymdeithasol, cefndir ethnig, oedran, a diagnosisau eraill (gan gynnwys cyflyrau niwroddatblygiadol neu nam ar y synhwyrau). Mae’r data sydd ar gael hefyd yn canolbwyntio ar allbynnau yn hytrach na chanlyniadau clinigol neu gymdeithasol. Mae hyn yn broblematig o ran penderfynyddion ehangach anghydraddoldebau iechyd meddwl ac iechyd meddwl. Dywedodd yr Athro Rob Poole:

“Social outcomes are much more important to people than clinical outcomes. […] People are concerned about how they live their lives. And if we put greater emphasis on how people live, then we're going to get a much better measure of how we're doing".[208]

 

144. Mae'r gwaith o ddatblygu set ddata iechyd meddwl graidd i Gymru yn cael ei groesawu'n eang, ond clywsom bryderon am oedi parhaus gyda’r gwaith o’i datblygu a'i gweithredu. Dywedodd Sue O'Leary o Mind Cymru mai’r angen i wneud cynnydd gyda'r set ddata a mesur data demograffig oedd ei neges allweddol i Lywodraeth Cymru, gan y byddai asesu’r gwir ddarlun o anghydraddoldeb iechyd meddwl yn golygu y byddai modd mynd i'r afael ag ef.[209]

145. Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wrthym ym mis Medi 2022 fod y set ddata iechyd meddwl graidd ddrafft wedi cael ei phrofi am effaith, a bod gwaith ar y gweill i gryfhau trefniadau'r rhaglen. Ychwanegodd fod byrddau iechyd yn cael eu hyfforddi i gofnodi a defnyddio canlyniadau a data profiadau cleifion, a'i bod wedi comisiynu gwaith gan Brifysgol De Cymru ar fesur canlyniadau cleifion.[210]

 

Nôl i dop y dudalen

 

Ein barn ni

146. Mae'r gwaith o adolygu ac ailwampio strategaeth iechyd meddwl Llywodraeth Cymru'n rhoi cyfle gwerthfawr i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl, a sicrhau bod anghenion cymunedau amrywiol yn cael sylw yn null Cymru o fynd i’r afael ag iechyd meddwl. Bydd angen mwy na strategaeth a chynllun i gyflawni hyn—mae angen dull trawslywodraethol, effeithiol a chydlynu gyda chynlluniau a pholisïau sy'n ymwneud â grwpiau sy'n profi anfantais. Rhaid cael cyllid digonol, ond yng nghyd-destun cyfyngiadau ariannol rhaid ystyried a monitro'r holl wariant o ran gwerth am arian a chanlyniadau i sicrhau ei fod yn cael ei dargedu lle mae ei angen fwyaf, a'i wario mewn ffyrdd sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Rydym hefyd yn cytuno â'r Dirprwy Weinidogion bod gweithio gyda phobl â phrofiad byw ac arbenigedd byw i gydgynhyrchu'r strategaeth yn hanfodol.

147. Drwy gydol ein hymchwiliad rydym wedi clywed am ystod o fframweithiau, gan gynnwys fframwaith ystyriol o drawma, fframwaith NEST/NYTH, a fframwaith presgripsiynu cymdeithasol. Mae syniadau a dyheadau'r fframweithiau hyn i'w cymeradwyo, ond rydym yn rhannu pryderon ein grŵp cynghori nad yw bob amser yn glir sut mae fframweithiau o'r fath yn gweithio gyda'i gilydd neu'n arwain at weithredu ystyrlon neu effeithiau diriaethol mewn cymunedau. Dywed y Rhaglen Lywodraethu:

"Y Prif Weinidog a’r Cabinet llawn fydd yn gyfrifol am yr ymrwymiadau sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at ein hamcanion llesiant, oherwydd bydd angen cydlynu ac integreiddio’r rhain ar y lefel uchaf ar draws y llywodraeth gyfan".[211]

 

148. Cytunwn fod hyn yn briodol o ran atebolrwydd cyffredinol, gan fod mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl a rhoi sylw i benderfynyddion ehangach iechyd meddwl a llesiant yn gofyn am weithredu ar draws pob portffolio Gweinidogol. Fodd bynnag, lle rhennir atebolrwydd ar draws 14 o Weinidogion a Dirprwy Weinidogion mae perygl, oni roddir ystyriaeth fel mater o drefn i effaith penderfyniadau ar iechyd meddwl a llesiant pobl Cymru, y bydd yn rhy hawdd i iechyd meddwl, ac yn enwedig anghydraddoldebau iechyd meddwl, gael eu gwasgu allan gan y blaenoriaethau dybryd eraill sy'n wynebu Gweinidogion.

Argymhelliad 21

Dylai Llywodraeth Cymru fynnu bod ei gweision sifil yn cynnwys, ym mhob cyflwyniad a wneir i Weinidogion Llywodraeth Cymru sy'n gofyn am benderfyniad ar gynigion polisi, deddfwriaethol, gwariant neu drethu, asesiad o'r modd y bydd y camau a argymhellir yn cyfrannu at wella iechyd meddwl a llesiant pobl Cymru.

149. Byddwn ni'n monitro datblygiad y strategaeth iechyd meddwl olynol a chynlluniau cysylltiedig drwy graffu ar y Gweinidogion sy'n gyfrifol am iechyd a gofal cymdeithasol, ac am ragor o waith wedi'i dargedu neu waith dilynol yn ôl yr angen. Ond fel Senedd, os ydym am weld dull trawslywodraethol o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl, rhaid inni hefyd chwarae ein rhan trwy graffu ar draws portffolios. Rydym yn annog holl bwyllgorau'r Senedd, wrth iddynt graffu ar Lywodraeth Cymru, i ystyried effaith a chanlyniadau polisïau, deddfwriaeth, gwariant a threthiant ar iechyd meddwl a llesiant poblogaeth Cymru.

Argymhelliad 22

Dylai Llywodraeth Cymru roi diweddariadau blynyddol i ni am gynnydd a wnaed o ran gweithredu'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad hwn. Dylid darparu’r diweddariad blynyddol cyntaf ym mis Rhagfyr 2023.

Argymhelliad 23

Yn ei hymateb i’n hadroddiad, dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i gomisiynu a chyhoeddi gwerthusiadau interim a therfynol annibynnol o’i strategaeth iechyd meddwl newydd. Dylai'r gwerthusiadau interim gynnwys asesiad o effaith y strategaeth hyd yma ar iechyd meddwl a llesiant poblogaeth Cymru, y canlyniadau y mae wedi’u cyflawni, ac unrhyw bwyntiau dysgu neu argymhellion ar gyfer newid. Ochr yn ochr â phob adroddiad gwerthuso interim, dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi manylion pa gamau y bydd yn eu cymryd mewn ymateb i unrhyw bwyntiau dysgu neu argymhellion ar gyfer newid.

150. Arloesi er mwyn gwella yw un o'n themâu trawsbynciol ar gyfer y Chweched Senedd. Mae arloesi yn allweddol er mwyn mynd i'r afael â'r materion y mae ein sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn eu hwynebu, a darparu'r gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n perfformio’n dda y mae pobl Cymru'n eu haeddu. Rydym ni'n croesawu argaeledd cyllid trawsnewid, fel yr HCRIF, gan gynnwys y potensial i gyllid o'r fath gael ei ddyrannu ar sail amlflwyddyn. Fodd bynnag, mae'n siomedig ein bod ni, fel ein rhagflaenwyr, yn parhau i glywed gan randdeiliaid nad yw arferion da yn lledaenu’n gyflym, ac nad yw strategaethau, polisïau a fframweithiau uchelgeisiol ac arloesol yn gallu cael yr effaith a ddymunir ar lawr gwlad. Oni bai bod y bwlch gweithredu yn cau, bydd pobl a chymunedau ledled Cymru'n parhau i brofi anghydraddoldebau iechyd meddwl.

151. Rydym ni'n cefnogi llawer o fwriadau ac uchelgeisiau Llywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl, ond mae'n amlwg nad yw'r data sydd ar gael yn ddigonol i ddarparu dealltwriaeth glir o faint o salwch meddwl sydd yna ymhlith poblogaeth pobl Cymru, neu pa mor dda y mae grwpiau gwahanol yn gallu cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl a chael eu hanghenion wedi’u diwallu. Mae'r data sy'n bodoli yn canolbwyntio ar allbynnau yn hytrach na chanlyniadau. Os gallwn ddeall a yw cynnydd yn cael ei wneud wrth fynd i'r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd meddwl, a lleihau'r anghydraddoldebau sy'n effeithio'n anghymesur ar rai grwpiau a chymunedau, rhaid i ni fesur nid yn unig ganlyniadau clinigol, ond canlyniadau cymdeithasol hefyd.

152. Yn ein hadroddiad ar effaith ôl-groniad amseroedd aros y GIG, gwnaethom argymell y dylai'r holl ddata iechyd sy'n cael ei gasglu a'i gyhoeddi yng Nghymru gael ei ddadgyfuno ar sail nodweddion amrywiaeth.[212] Derbyniodd Llywodraeth Cymru ein hargymhelliad yn rhannol, gan ddweud, er eu bod yn cytuno â'r dyhead, eu bod "wedi ein cyfyngu gan strwythur y casgliadau a'r systemau data, ac mae byrddau iechyd lleol yn endidau cyfreithiol annibynnol yn eu rhinwedd eu hunain hefyd". Ychwanegodd "byddai casglu data yn ôl-weithredol ar gyfer y casgliadau data hynny sydd ar waith yn gymhleth", ond ymrwymodd i sicrhau bod data amrywiaeth yn cael ei gasglu a'i gyhoeddi yn y dyfodol.[213]

Argymhelliad 24

Yn ei hymateb i’n hadroddiad, dylai Llywodraeth Cymru gadarnhau y bydd y data i'w gasglu a'i gyhoeddi fel rhan o set ddata graidd iechyd meddwl yn ein galluogi ni a rhanddeiliaid i weld ac olrhain cynnydd dros amser mewn anghydraddoldebau iechyd meddwl yn ymwneud â mynediad at wasanaethau iechyd meddwl a chanlyniadau i wahanol grwpiau a chymunedau. Dylai hyn gynnwys gwybodaeth am ba ddata fydd yn cael ei gynnwys, pa mor aml y bydd data'n cael ei gyhoeddi, pa ddadansoddiad fydd yn cael ei wneud, a chadarnhad y bydd y data'n cael ei ddadgyfuno ar sail nodweddion amrywiaeth.

Argymhelliad 25

Ar ôl cwblhau'r ymchwil y comisiynwyd Prifysgol De Cymru i’w chynnal ar fesur canlyniadau clinigol a chymdeithasol, dylai Llywodraeth Cymru osod amserlen ar gyfer datblygu a gweithredu mesurau llesiant i lywio'r gwaith o fonitro a gwerthuso effaith y strategaeth iechyd meddwl newydd ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl. Yn unol ag argymhelliad 22, dylai Llywodraeth Cymru ddarparu diweddariad i ni ar y gwaith hwn ym mis Rhagfyr 2023.

 

Nôl i dop y dudalen

 


 

 

Tabl Cynnwys

Rhagair y Cadeirydd

Argymhellion

Crynodeb

Cyflwyniad

Anghydraddoldebau iechyd meddwl

Gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Caiff iechyd meddwl ei wneud mewn cymunedau

Presgripsiynu cymdeithasol

Y gweithlu

Gweithredu trawslywodraethol cydgysylltiedig

Diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983

Atodiad: Cefnogaeth iechyd meddwl ac emosiynol

 

 

Cyfeiriadau

 

197 MHI55 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

[198] Cofnod y Trafodion [paragraff 234], 24 Mawrth 2022

[199] Er enghraifft, Cofnod y Trafodion [para 243], 24 Mawrth 2022, MHI85 Age Cymru

[200] MHI15 Coleg Brenhinol y Meddygon

[201] Cofnod y Trafodion [paragraff 135], 28 Medi 2022

[202] Cofnod y Trafodion [paragraff 232], 24 Mawrth 2022

[203] Cofnod y Trafodion [paragraff 143], 4 Mai 2022

[204] Cofnod y Trafodion [paragraff 342], 24 Mawrth 2022

[205] Cofnod y Trafodion [paragraff 63], 28 Medi 2022

[206] Cofnod y Trafodion [paragraff 334], 24 Mawrth 2022

[207] MHI47 Mind Cymru

[208] Cofnod y Trafodion [paragraff 141], 4 Mai 2022

[209] Cofnod y Trafodion [paragraffau 340-341], 19 Mai 2022

[210]  Cofnod y Trafodion [paragraff 119], 28 Medi 2022

[211] Llywodraeth Cymru, Rhaglen Lywodraethu – Diweddariad, 7 Rhagfyr 2021 Mae'r deg amcan llesiant yn cynnwys “darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel" a "dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math".

[212] Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru, Ebrill 2022, argymhelliad 23.

213 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, 30 Mai 2022