Russell George AS

Russell George AS

Rhagair y Cadeirydd

Cyhoeddwyd 19/12/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/12/2022   |   Amser darllen munudau

Cysylltu'r dotiau: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru.

Mae gan bob un ohonom ni iechyd meddwl. Yn union fel y gall ein hiechyd corfforol amrywio drwy gydol ein bywydau, weithiau bydd ein hiechyd meddwl yn dda, dro arall ddim cystal, ac efallai y bydd rhai ohonom ni’n wynebu salwch meddwl difrifol.

Mae cysylltiad anorfod rhwng ein hiechyd meddwl a'n hiechyd corfforol, emosiynol, ac ysbrydol, a'r amgylchiadau rydym ni'n byw ynddynt. Mae gan bob un ohonom ni anghenion dynol y mae'n rhaid eu diwallu os ydym ni am ffynnu. Bydd ein hanghenion penodol yn amrywio, yn ôl pwy ydym ni, ein hamgylchiadau, a'r cymunedau rydym ni'n perthyn iddynt. Ond mae angen i bob un ohonom weld bod ein cymunedau, ein gwasanaethau iechyd, a'n gwasanaethau cyhoeddus ehangach yn cydnabod ac yn ymateb i'n hanghenion, er mwyn ein helpu i adeiladu a chynnal ein hiechyd meddwl a'n llesiant, i'n cefnogi pan na fydd ein hiechyd meddwl cystal neu pan fyddwn yn sâl yn feddyliol, ac i'n gweld fel mwy na'n diagnosis neu’n cyflyrau yn unig.

Yn anffodus, mae'r dystiolaeth yn dangos bod rhai grwpiau a chymunedau yn wynebu risg uwch o iechyd meddwl gwael nag eraill, mai’r cyfryw grwpiau sy’n gallu cael yr anhawster mwyaf wrth gael mynediad at wasanaethau, a hyd yn oed pan fyddant yn cael cymorth, nad yw eu  profiadau a’u canlyniadau cystal.

Yn rhy aml o lawer mae’r anghydraddoldebau hyn wedi'u gwreiddio mewn anghydraddoldebau cymdeithasol a strwythurol dyfnach, ac mae'n rhaid i'r gwaith o fynd i’r afael â’r rhain fod yn flaenoriaeth i strategaeth iechyd meddwl nesaf Llywodraeth Cymru.

Mae cysylltiad yn allweddol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl. Mae cysylltu iechyd meddwl gwael â'i achosion ehangach, yn enwedig o fewn cyd-destun costau byw cynyddol, yn rhoi cyfle i ni fynd i'r afael â'r achosion hynny, nid dim ond gwneud gwaith mân drwsio i’r symptomau. Gall cysylltu pobl â'u cymunedau, a dod â chymunedau at ei gilydd, greu amgylcheddau ac amgylchiadau sy'n cefnogi, yn hyrwyddo ac yn meithrin iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol. A bydd cysylltu gwasanaethau yn helpu'r gweithlu iechyd meddwl a'r gweithlu ehangach i gydweithio, ac i gydgynhyrchu atebion ac adnoddau gyda phobl sydd â phrofiad byw i sicrhau bod pawb yn gallu cael yr help a'r cymorth sydd eu hangen arnynt, pryd a sut y maent eu hangen.

Yn y bôn, ni allwn adeiladu Cymru sy'n iach yn feddyliol, na llwyddo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl, heb gysylltu'r dotiau.

 

Russell George AS, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 


 

Tabl Cynnwys

Rhagair y Cadeirydd

Argymhellion

Crynodeb

Cyflwyniad

Anghydraddoldebau iechyd meddwl

Gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Caiff iechyd meddwl ei wneud mewn cymunedau

Presgripsiynu cymdeithasol

Y gweithlu

Gweithredu trawslywodraethol cydgysylltiedig

Diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983

Atodiad: Cefnogaeth iechyd meddwl ac emosiynol