Gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Cyhoeddwyd 19/12/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/12/2022   |   Amser darllen munudau

Cysylltu'r dotiau: mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru

Dyma drydedd bennod adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol 'Cysylltu'r dotiau: Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru'.

 


 

Ar y dudalen hon:

Gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Darpariaeth

Capasiti ac amseroedd aros

Amseroedd aros: effaith ar bobl niwrowahanol

Hyblygrwydd

Hygyrchedd ar gyfer gwahanol grwpiau

Dehongli a chyfieithu ar gyfer ieithoedd ar wahân i'r Gymraeg neu'r Saesneg

Gwasanaethau sy’n ystyriol o drawma

Gweithio cydgysylltiedig

Ein barn ni

Cynnwys yr adroddiad

 


 

Gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Darpariaeth

41. Disgrifiodd ymatebwyr i’n hymgynghoriad ddiffyg darpariaeth ar draws y sbectrwm anghenion iechyd meddwl, o ymyrraeth gynnar i wasanaethau arbenigol ac argyfwng. Roeddent hefyd yn tynnu sylw at amseroedd aros fel problem sylweddol, yn ogystal â bylchau yn y ddarpariaeth ar gyfer grwpiau penodol gan gynnwys pobl hŷn.

42. Clywsom bryderon hefyd am faint o wasanaethau a oedd ar gael unwaith y mae pobl wedi gallu cael mynediad atynt. Esboniodd Genetic Alliance UK y gallai pobl sy'n cael gwasanaethau cwnsela neu therapi drwy'r GIG gael chwe sesiwn yn unig, ac ychwanegodd y gallai pobl sy'n byw gyda chyflyrau corfforol neu iechyd prin eraill dreulio llawer o'r amser hwn yn egluro'r cyflwr ei hun.[71] Mae'r profiad o oroeswr strôc a rannwyd gan y Gymdeithas Strôc yn dangos pa mor niweidiol y gall cyfyngiadau o'r fath fod:

"I received six weeks of mental health therapy, but was then dropped by the system and I have been struggling with my depression ever since. In a way I was disappointed that the stroke didn’t leave me with a physical disability instead, because everyone who saw me thought, ‘You look well’. You just end up lying and saying you’re doing fine".[72]

 

43. Roedd eraill yn poeni am ddiffyg gwasanaethau dilynol neu gefnogaeth barhaus i helpu pobl i aros yn iach, gan gynnwys pobl sydd wedi cael eu rhyddhau o Adran Damweiniau ac Achosion Brys ar ôl hunan-niweidio,[73] neu adael yr ysbyty ar ôl gofal argyfwng.[74] Awgrymodd y Ganolfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Chymdeithas, hyd yn oed pan fo gwasanaethau dilynol ar gael, nid ydynt yn ystyried agweddau cymdeithasol ar fywydau defnyddwyr gwasanaethau.[75]

 

Nôl i dop y dudalen

 

Capasiti ac amseroedd aros

44. Fel y nodwyd yn ein hadroddiad ym mis Ebrill 2022, Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru,[76] roedd gwasanaethau iechyd meddwl eisoes dan bwysau difrifol cyn y pandemig. Mae effaith y problemau sylfaenol wedi’i dwysau gan y pandemig, a'i gwaethygu ymhellach oherwydd bod yr ôl-groniad yn effeithio'n anghymesur ar rai grwpiau a chymunedau, gan gynnwys pobl hŷn, pobl sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig, y rhai sydd wedi'u heithrio'n ddigidol, a'r rhai llai abl i eirioli drostynt eu hunain—oll yn grwpiau sydd hefyd mewn mwy o berygl o brofi anghydraddoldebau iechyd meddwl.

45. Disgrifiodd The Wallich effaith y pandemig ar fynediad at wasanaethau argyfwng iechyd meddwl, ac eglurodd y gallai capasiti annigonol i gefnogi pobl sydd mewn trallod meddwl difrifol, neu sydd mewn perygl o niweidio eu hunain neu eraill, arwain at sefyllfaoedd yn gwaethygu a’r heddlu yn cael eu galw. Dywedodd mewn amgylchiadau o’r fath fod pobl sy’n profi trallod meddwl difrifol wedi cael eu cadw yn un o gelloedd yr heddlu yn y pen draw, a disgrifiodd hyn fel cosbi a throseddoli pobl dim ond am eu bod wedi cael pwl o salwch meddwl difrifol”.[77]

46. Mae effeithiau byw gyda chyflwr iechyd corfforol hefyd yn cael eu cynyddu gan amseroedd aros hir ar gyfer gwasanaethau eraill y GIG, sy'n effeithio ar bobl sy'n byw â chyflyrau iechyd corfforol heb ddiagnosis, sy’n wynebu amseroedd aros hir am driniaeth, neu sy'n derbyn cymorth adsefydlu annigonol. Awgrymodd Endometriosis UK y gallai mynediad at gymorth iechyd meddwl, gan gynnwys tra bod pobl yn aros am ddiagnosis, gael ei wella trwy ei ymgorffori fel elfen safonol o lwybrau gofal.[78]

 

Nôl i dop y dudalen

 

Amseroedd aros: effaith ar bobl niwrowahanol

47. Gall amseroedd aros hir fod yn broblem arbennig i bobl niwrowahanol, gan y gall absenoldeb diagnosis ffurfiol fod yn rhwystr rhag cael mynediad at gymorth neu gefnogaeth. Gall hyn gyfrannu at iechyd meddwl gwael, a chlywsom alwadau am fwy o bwyslais ar ymyrraeth gynnar a chymorth i blant a phobl ifanc a allai fod yn niwrowahanol, heb iddynt orfod aros i dderbyn diagnosis ffurfiol.

48. Cytunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant y dylai cymorth fod ar gael heb ddiagnosis, gan ychwanegu mai dyma'n union beth yw bwriad ein dull ysgol gyfan a’n fframwaith diogel a dibynadwy sy’n meithrin a grymuso".[79] Fe wnaeth y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol gydnabod bod pobl ifanc a theuluoedd yn wynebu anawsterau ac angen cefnogaeth gynnar. Disgrifiodd raglen tair blynedd gwerth £12 miliwn newydd Llywodraeth Cymru i ddatblygu gwasanaethau niwroddatblygiadol, a dywedodd mai un o'i blaenoriaethau cyntaf fyddai darparu cymorth cynnar 'trawsbynciol' i rieni a theuluoedd. Dywedodd fod grŵp cynghori gweinidogol ar wasanaethau niwroddatblygiadol wedi cael ei sefydlu i roi cyngor ar y rhaglen, ac y byddai gwasanaethau'n cael eu cydgynhyrchu â phobl sydd â phrofiad bywyd.[80]

 

Nôl i dop y dudalen

 

Hyblygrwydd

49. Fel llawer a gyfrannodd at ein gwaith, dywedodd Diverse Cymru y dylai gwasanaethau gael eu dylunio o amgylch anghenion unigolion yn hytrach na gosod pobl i mewn i ystod gyfyngedig o wasanaethau disgwyliedig.[81] Mae hyn yn adleisio ein casgliad yn Aros yn dda?, sef:

“Rhaid i ofal a gwasanaethau ganolbwyntio ar y claf, a sicrhau bod gan bobl, a’r rhai sy’n eu cefnogi, gan gynnwys teuluoedd a gofalwyr, ddewis, llais a rheolaeth”.[82]

 

50. Dywedodd yr Athro Rob Poole bod yn rhaid i wasanaethau roi'r gorau i weld grwpiau fel rhai anodd eu cyrraedd. Awgrymodd fod angen i wasanaethau greu gwell cysylltiadau gyda'u cymunedau, a chymryd camau i gwrdd â phobl yn y sefyllfa y maent ynddi—yn ffigurol ac yn llythrennol:

"If you went out and spoke to community groups, formed relationships, formed continuous relationships between the teams, employed more local people from the local community within your service, listened to what people said, provided services that were close to where they were, then, actually, people became much less hard to reach. If you started working with people in their home, and […] not clinic-based, but actually going to people in their own space, which often was less threatening to people and less alienating".[83]

 

51. Yn anffodus, dywedodd llawer o bobl a sefydliadau wrthym nad yw gwasanaethau iechyd meddwl yn ddigon hyblyg nac ychwaith yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae rhai rhanddeiliaid yn sôn am bobl yn cael eu hanfon yn ôl ac ymlaen rhwng gwasanaethau, gan gynnwys rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd, am eu bod yn rhy sâl i gael gofal sylfaenol/ddim yn ddigon sâl i gael gofal eilaidd.[84] Dywedodd eraill nad oeddent yn gallu cael cymorth am nad oeddent yn ffitio i mewn i’r ffordd y mae gwasanaeth presennol wedi’u sefydlu neu eu trefnu:

“You must attend an anxiety group even if you don’t trust people and are suicidal, before we can offer anything else”.[85]

 

"Within the NHS, there is a lack of flexibility in service provision and if patients aren’t able to attend within these specific time-frame they are withdrawn from treatment without any discussion of how needs could be reasonably met".[86]

 

52. Dywedwyd wrthym y gall modelau gwasanaeth traddodiadol sy'n seiliedig ar glinigau, er eu bod yn ddefnyddiol i rai pobl, atal eraill rhag cael cymorth ac y gallai modelau sy'n cyd-fynd yn well â bywydau pobl a pherthnasoedd teuluol fod yn fwy effeithiol.[87] Er enghraifft, disgrifiodd yr Athro Euan Hails o'r Coleg Nyrsio Brenhinol ("RCN") sefydliad yn Awstralia sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl mewn canolfannau siopa, campfeydd a chanolfannau hamdden, gan gael gwared ar y stigma a allai fod yn gysylltiedig â lleoliadau traddodiadol.[88]

53. Gwelsom hyn drosom ein hunain yn ystod ein hymweliad â Beyond the Blue Barnardo's Cymru Nghastell-nedd, sy'n cynnig dull teulu cyfan yn y gymuned. Yn ogystal â darparu'r gwasanaeth o ganolfan gymunedol, mae'r prosiect hefyd yn darparu allgymorth a dewisiadau rhithwir lle bo hynny'n briodol ar gyfer y math o ymyrraeth neu gefnogaeth. Dywedodd Beyond the Blue wrthym fod ei ddull cyfannol o ymdrin â llesiant yn helpu plant, pobl ifanc a'u teuluoedd i elwa ar wahanol ddulliau a mathau o ymyrraeth y gellir eu teilwra i'w hanghenion, gyda’r rheini’n cael eu darparu gan un gwasanaeth y gallant feithrin perthynas ag ef ac ymddiriedaeth ynddo. Eglurodd fod hyn yn chwalu seilos yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar blant a'u teuluoedd.[89]

 

Nôl i dop y dudalen

 

Hygyrchedd ar gyfer gwahanol grwpiau

54. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod y bobl a'r cymunedau sydd fwyaf agored i anghydraddoldebau iechyd meddwl yn wynebu mwy o rwystrau wrth gael mynediad at gymorth priodol. Mewn llawer o achosion, gall y cymorth sydd ar gael ymddangos yn llai perthnasol iddynt, neu fod yn rhy anhyblyg yn ei ddyluniad. Gall y ffordd y siaredir am iechyd meddwl daro deuddeg gyda rhai grwpiau, ond nid eraill. Er enghraifft, dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru na fydd negeseuon sy'n gweithio i blant a phobl ifanc o reidrwydd yn gweithio i bobl hŷn, sydd ag anghenion a phryderon tra gwahanol o bosibl.[90] Yn yr un modd, gall anghenion a disgwyliadau pobl o wahanol gymunedau ethnig amrywio. Disgrifiodd Ashra Khanom o Neath Port Talbot Black Minority Ethnic Community Association sgwrs gyda cheiswyr lloches ym Mae Abertawe:

“…before I came to the meeting, I asked Swansea bay asylum seekers groups to provide some recommendations for me to pass on to the committee. And they were saying that sport was one of the best ways that they found that mental health worked for them. They don't like the issue where you had to go into a darkened room and talk to somebody about your mental health. One person, I think a couple of years ago, said to me, 'If I was in Africa, we'd be in a community group and we'd drum our sorrows away'. Here, it's like you talk your sorrows away, and it's really difficult for them to understand that".[91]

 

55. Fel y dywedodd Andy Bell, os nad yw grwpiau'n ymgysylltu â gwasanaethau, neu os nad ydynt yn cael profiadau cystal, rhaid mai'r ateb yw newid natur y cymorth neu'r gwasanaethau yn hytrach na dim ond gweiddi'n uwch.[92]

 

Blwch 6:

Rhwystrau hygyrchedd

  • Mae diffyg argaeledd gwasanaethau Cymraeg yn creu rhwystrau a allai beryglu iechyd a llesiant siaradwyr Cymraeg os nad ydynt yn gallu cael mynediad at wasanaethau yn yr iaith o’u dewis.[93] Awgrymodd yr RCN y dylid cydnabod sgiliau ieithyddol yn gryfach wrth gynllunio'r gweithlu.[94]
  • Mae’r Ganolfan Iechyd Meddwl yn amlygu bod pobl o gymunedau sy’n cael eu diffinio yn ôl eu hil yn llai tebygol o gael eu hatgyfeirio am gymorth iechyd meddwl gan eu meddyg teulu, ond yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â gwasanaethau drwy’r heddlu.[95]
  • Gall gwasanaethau ymddangos yn fygythiol, gan beri i bobl fod yn ofnus ynghylch ceisio cymorth. Dywedodd ein grŵp cynghori wrthym y gallai rhieni boeni y bydd eu plant yn cael eu cymryd i ofal os ydynt yn cyfaddef nad ydynt yn ymdopi; gall pobl hŷn ofni colli eu rheolaeth a'u hannibyniaeth os ydynt yn gofyn am help;[96] a gall pobl niwrowahanol ofni cael eu cadw dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 ar y sail bod "awtistiaeth yn dal i gael ei ystyried yn sail i anfon rhywun i ysbyty iechyd meddwl—pan fydd gennych chi feddyg teulu nad yw'n deall awtistiaeth ac mae ganddo'r pŵer hwnnw, mae'n frawychus iawn".[97]
  • Mae pobl fyddar a phobl sydd â cholled clyw neu sydd â nam ar y clyw yn fwy tebygol o brofi trallod meddwl neu salwch meddwl, ond mae'r ddarpariaeth yn ddifrifol ddiffygiol. Dywedodd ICC mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU nad yw’n darparu llwybr na gwasanaeth clir i ddiwallu anghenion pobl fyddar sy'n profi iechyd meddwl gwael.[98]
  • Efallai bod rhaid i bobl mewn cymunedau gwledig, gan gynnwys cymunedau ffermio a physgota, deithio'n bell, ymdopi â chysylltiadau trafnidiaeth gwael, a chael trafferth cael mynediad at y gwasanaethau o fewn oriau agor cyfyngedig.[99] Hefyd, disgrifiodd y DPJ Foundation, elusen iechyd meddwl sy'n gweithio gyda chymunedau amaethyddol yng Nghymru, fethiant i gydnabod hunaniaeth a ffyrdd o fyw ffermio a dangos empathi tuag atynt.[100]
  • Gall rhai grwpiau, gan gynnwys myfyrwyr gofal iechyd, ganfod bod diffyg apwyntiadau gyda'r nos ac ar y penwythnos, neu brinder apwyntiadau rhithwir, yn eu hatal rhag cael mynediad at wasanaethau sydd eu hangen arnynt.[101]
  • Gall cynyddu'r defnydd o ddarpariaeth ddigidol gynyddu hygyrchedd i rai grwpiau neu gymunedau, ond creu rhwystrau i eraill. Clywsom nad oes gan nifer sylweddol o bobl hŷn fynediad i'r we, neu nad oes ganddynt yr hyder a'r sgiliau i ymwneud â thechnoleg ddigidol.[102] Yn yr un modd, dim ond 79 y cant o bobl ag anableddau sy'n teimlo'n ddiogel ac yn hyderus yn defnyddio'r rhyngrwyd o'i gymharu â 93 y cant o bobl nad oes ganddynt gyflyrau hirdymor neu anableddau.[103]
  • Dywedodd ein grŵp cynghori wrthym y gallai pobl sy'n chwilio am gymorth wynebu biwrocratiaeth, gan gynnwys ffurflenni hir neu gymhleth sy'n defnyddio jargon neu iaith sy’n anhygyrch fel arall. Gall prosesau cwynion gwasanaethau cyhoeddus fod yn anhygyrch yn yr un modd, a dywedodd pobl sydd â phrofiad byw o niwrowahaniaeth wrthym y gallai gynyddu trallod meddwl. Clywsom hefyd fod angen i eiriolwyr fod ar gael sy’n deall niwroamrywiaeth, profiadau pobl niwrowahanol, a sut i gyfathrebu’n effeithiol.[104]

 

Nôl i dop y dudalen

 

Dehongli a chyfieithu ar gyfer ieithoedd ar wahân i'r Gymraeg neu'r Saesneg

56. Thema gref yn y dystiolaeth yw’r diffyg gwasanaethau dehongli a chyfieithu digonol i alluogi pobl sydd â'u prif iaith neu eu dewis iaith ar gyfer cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl neu gymorth yn iaith ar wahân i'r Gymraeg neu'r Saesneg[105]. Yn ôl yr Athro Keith Lloyd o Goleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru, mae gwella mynediad at wasanaethau dehongli yn fesur syml allai helpu pobl sydd o dan anfantais sylweddol fel arall.[106]

57. Yn 2018 cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y pryd adroddiad ar rwystrau iaith a chyfathrebu'n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Canfu bod gan 84,500 o bobl yng Nghymru brif iaith nad oedd yn Gymraeg nac yn Saesneg, a bod mwy nag 80 o brif ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg. Mae mwyafrif y bobl hyn yn byw yn un o bedair ardal awdurdod lleol: Wrecsam, Abertawe, Casnewydd a Chaerdydd. Nid oedd 19,500 o bobl yn siarad Cymraeg na Saesneg yn dda, ac nid oedd 3,500 yn siarad Cymraeg na Saesneg o gwbl. Daeth yr adroddiad i'r casgliad, o ran cyrff cyhoeddus, bod "amrywiaeth yn y graddau yr oeddent yn deall anghenion eu cymunedau ac yn sicrhau bod eu gwasanaethau yn hygyrch i bobl yr oedd arnynt angen gwasanaethau dehongli a chyfieithu". Ymhlith pethau eraill, argymhellodd:

"...y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda chyrff cyhoeddus, grwpiau cynrychioliadol a phartïon eraill â buddiant i sicrhau:

bod digon o ddehonglwyr ar gael, yn enwedig ar gyfer ieithoedd y ceir galw mawr amdanynt, fel Iaith Arwyddion Prydain ac Arabeg;

bod dehonglwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant arbenigol ar gael i weithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl, a chyda phobl sydd wedi profi trawma neu drais; a

bod gweithdrefnau ar waith i ddiogelu a sicrhau ansawdd."[107]

 

58. Ym mis Mehefin 2018, derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un o argymhellion Archwilydd Cyffredinol Cymru.[108]

59. Yn ystod ein hymweliad ag EYST Cymru yn Abertawe, dywedodd staff, gwirfoddolwyr a defnyddwyr gwasanaethau wrthym fod y diffyg gwasanaethau dehongli ar gyfer ieithoedd ar wahân i'r Gymraeg a'r Saesneg yn parhau i fod yn broblem sylweddol. Dywedasant wrthym fod plant ifanc yn gorfod dehongli ar gyfer eu rhieni mewn apwyntiadau meddygol, gan gynnwys mewn perthynas â materion fel treisio. Mae staff a gwirfoddolwyr EYST Cymru hefyd yn cael ceisiadau i ddarparu gwasanaeth cyfieithu, neu hyd yn oed cwnsela, i ddefnyddwyr gwasanaethau mewn cysylltiad â digwyddiadau trawmatig, sydd weithiau’n achosi iddynt ail-fyw eu profiadau trawmatig eu hunain gyda goblygiadau cyfatebol i'w hiechyd meddwl eu hunain. Nid yw'r rhan fwyaf o aelodau teulu na gwirfoddolwyr yn gyfieithwyr sydd wedi'u hyfforddi; os ydynt yn gorfod cyfieithu yn eu hail neu hyd yn oed eu trydedd iaith efallai y byddant yn ei chael hi'n anodd dehongli termau meddygol technegol, gan roi pobl mewn perygl o dderbyn y driniaeth anghywir neu gymryd y feddyginiaeth anghywir. Clywsom hefyd am anawsterau penodol wrth i bobl ymwneud â systemau brysbennu iechyd fel systemau apwyntiadau meddygon teulu neu GIG 111.[109]

60. Dywedodd Dr Julie Keely o Goleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru wrthym y gallai trefnu dehongli neu gyfieithu ar gyfer anghenion acíwt fod yn anodd, ond nad oedd hi'n broblem trefnu cyfieithu meddygol ar gyfer apwyntiadau sydd wedi eu trefnu o flaen llaw.[110]

61. Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant fod adnoddau ar gael mewn sawl iaith, gan gynnwys pecyn cymorth trawma y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, deunyddiau ymgyrchu Amser i Newid, a deunyddiau i hyrwyddo llinell gymorth iechyd meddwl CALL. Ychwanegodd fod llinell gymorth CALL hefyd yn defnyddio LanguageLine i helpu pobl i gael mynediad at y gwasanaeth.[111]

 

Nôl i dop y dudalen

 

Gwasanaethau sy’n ystyriol o drawma

62. Er yn cydnabod nad oedd y pandemig COVID-19 o reidrwydd wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn anhwylderau meddyliol, dywedodd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd ei fod yn achos "trawma ar lefel y boblogaeth".[112] Yn yr un modd, rhagwelodd y Ganolfan Iechyd Meddwl yn 2020 y byddai angen cefnogaeth ychwanegol ar gyfer eu hiechyd meddwl ar tua 10 miliwn o bobl yn Lloegr.[113] Mae'r effaith ar blant a phobl ifanc wedi bod yn arbennig o acíwt; amlygodd Comisiynydd Plant Cymru ar y pryd, er enghraifft effaith unigrwydd, ansicrwydd ynghylch addysg ac arholiadau, ac ofnau am eu dyfodol.[114] Dywedodd wrthym nad oedd y profiad o drawma yn gyfartal ar draws pob plentyn a pherson ifanc, ond yn hytrach bod y pandemig wedi gwaethygu'r anghydraddoldebau cymdeithasol a oedd yn bodoli’n barod:

"...disabled children and ethnic minority children reported significantly more negative feelings across many indicators, and that included anxiety amongst children from black and ethnic minority backgrounds about the impact of the pandemic on their relatives, including their older relatives, with, obviously, the higher death rate amongst those communities".[115]

 

63. Galwodd Dr Antonis Kousoulis o'r Sefydliad Iechyd Meddwl am ddull sy'n ystyriol o drawma ar draws iechyd meddwl a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Tynnodd sylw at ddull Cymru gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc fel enghraifft gadarnhaol o hyn, gan ddisgrifio Cymru fel arweinydd go iawn yn rhyngwladol yn y maes hwn.[116]

64. Mae dulliau ystyriol o drawma yn ffyrdd o gefnogi pobl sy’n cydnabod effaith trawma o’r gorffennol neu drawma cyfredol, a’r anghenion penodol a allai fod gan berson o ganlyniad i hynny. Cyhoeddwyd fframwaith ystyriol o drawma ar gyfer Cymru yn gynharach eleni, gan ddiffinio dull ystyriol o drawma fel a ganlyn:

  • Dull sy'n cydnabod bod gan bawb rôl wrth fynd ati’n sensitif i hwyluso cyfleoedd a chyfleoedd bywyd i bobl y mae trawma ac adfyd yn effeithio arnynt.
  • Lle mae person, teulu, cymuned, sefydliad, gwasanaeth neu system yn ystyried effaith eang adfyd a thrawma ac yn deall ffyrdd posibl o atal, gwella a goresgyn hyn fel unigolyn neu gyda chymorth pobl eraill, gan gynnwys cymunedau a gwasanaethau.
  • Lle mae pobl yn adnabod amlygiadau niferus effaith trawma ar unigolion, teuluoedd, cymunedau, staff, ac eraill mewn sefydliadau a systemau ledled cymdeithas Cymru.
  • Yn y dull hwn caiff gwybodaeth am drawma a'i effeithiau ei hintegreiddio i bolisïau, gweithdrefnau ac arferion. Mae'n ceisio gwrthsefyll trawmateiddio pobl eto ac atal a lliniaru canlyniadau andwyol, gan flaenoriaethu diogelwch corfforol ac emosiynol ac mae’n ymrwymo i 'beidio â gwneud unrhyw niwed' yn ymarferol ac i gefnogi'n rhagweithiol a helpu pobl yr effeithir arnynt i wneud eu penderfyniadau gwybodus eu hunain.

65. Mae'n cydnabod, fodd bynnag, fod mwy o waith i'w wneud i nodi sut mae asesu effaith dull sy'n ystyriol o drawma ar y boblogaeth, gan gynnwys "gwaith manylach i nodi deilliannau allweddol a dangosyddion llwyddiant ansoddol a meintiol y gellir eu mesur yn rheolaidd".[117]

66. Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wrthym y bydd gweithredu dulliau ystyriol o drawma yn gofyn am newid diwylliannol sylweddol ar draws nifer o wahanol sefydliadau. Dywedodd wrthym y byddai hyn yn cael ei arwain gan Hyb ACE a Straen Trawmatig Cymru mewn ffordd gydgynhyrchiol, gyda chymorth £300k[118] o gyllid Llywodraeth Cymru.[119]

 

Nôl i dop y dudalen

 

Gweithio cydgysylltiedig

67. Dywedodd llawer o bobl a sefydliadau y dylai gwasanaethau fod yn fwy cydgysylltiedig, a chanolbwyntio ar y person cyfan yn lle gweld a thrin problemau neu gyflyrau ar wahân. Fel arall, gall pobl gael eu hanfon yn ôl ac ymlaen rhwng gwasanaethau, derbyn gofal wedi'i gydlynu'n wael, neu hyd yn oed gael eu heithrio o rai gwasanaethau os oes gormod o ffocws ar eu diagnosis sylfaenol. Er enghraifft, disgrifiodd arbenigwyr niwroamrywiaeth y datgysylltiad rhwng gwasanaethau niwroddatblygiadol a gwasanaethau iechyd meddwl fel rhwystr allweddol a allai atal pobl rhag cael diagnosis neu driniaeth briodol. Dywedodd yr Athro Anita Thapar o Brifysgol Caerdydd wrthym:

"...people who have got mental health problems, which have been really chronic, long term and not responding to treatment, quite a good proportion of them have had undetected neurodevelopmental conditions. So, the disconnect between neurodevelopmental and mental health is a problem across the lifespan".[120]

 

68. Dywedodd y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol y gallai absenoldeb trefniadau gofal a rennir rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd achosi oedi cyn cael meddyginiaethau a chyngor ar feddyginiaeth mewn lleoliadau gofal sylfaenol, a all fod yn broblem pan fo angen sefydlogi cyflwr claf. Galwodd am fwy o gefnogaeth i feddygon teulu, cyflwyno protocolau gofal a rennir, a gwelliannau o ran rhyngweithrededd systemau TG sy'n cael eu defnyddio mewn gofal sylfaenol a gwasanaethau arbenigol.[121]

69. Yn yr un modd, tynnodd ein grŵp cynghori sylw at yr angen am rannu gwybodaeth effeithiol rhwng gwasanaethau er mwyn lleihau'r angen i bobl ailadrodd eu profiadau ac ail-fyw eu trawma drosodd a throsodd. Rhybuddiodd, fodd bynnag, fod angen i gleifion gael perchnogaeth dros eu cofnodion meddygol, a llais ynghylch pa weithwyr meddygol proffesiynol sy’n gallu gweld manylion llawn eu profiadau.

70. Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru wrthym, er bod cynnydd yn cael ei wneud ar waith cydgysylltiedig rhwng iechyd meddwl a gwasanaethau cymdeithasol, fod problemau'n dal i fodoli.[122] Yn yr un modd, awgrymodd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru y dylai gwaith cydgysylltiedig fynd y tu hwnt i wasanaethau iechyd i ystyried anghenion ehangach pobl ac adlewyrchu penderfynyddion cymdeithasol ehangach iechyd meddwl. Er enghraifft, awgrymodd y dylid cydleoli gwasanaethau cyngor ariannol a thai gyda gwasanaethau iechyd meddwl er mwyn helpu i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol trallod yn ogystal ag anghenion iechyd meddwl a llesiant.[123] Dywedodd yr Athro Euan Hails wrthym fod gwasanaethau CAMHS y rhan fwyaf o'r byrddau iechyd bellach yn gweithredu ar sail dim bownsio h.y. os bydd rhywun yn cyflwyno mae’n cael ei gyfeirio at y gwasanaeth priodol, boed hynny'n ofal sylfaenol neu'n ofal eilaidd, gwasanaethau cymdeithasol neu addysg.[124]

71. Cydnabu’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant y gall gweithio cydgysylltiedig fod yn heriol, ond dywedodd ei fod yn ffocws i Lywodraeth Cymru a bod cynnydd yn cael ei wneud.[125]

 

Nôl i dop y dudalen

 

Ein barn ni

72. Gresyn mawr yw bod grwpiau sydd â lefelau arbennig o uchel o iechyd meddwl gwael yn aml yn cael yr anhawster mwyaf wrth gael cymorth, a phan fyddant yn cael help, yn aml nid ydynt yn cael profiadau a chanlyniadau cystal.

73. Mae angen i wasanaethau fod yn fwy cydgysylltiedig yn hytrach na gweithredu mewn seilos, bod yn fwy hyblyg a chanolbwyntio mwy ar yr unigolyn, a gallu cydweithio'n well i ddylunio a darparu cymorth sydd wedi'i deilwra i anghenion unigolion gyda llwybrau sy'n adlewyrchu amgylchiadau penodol unigolion. Mae hyn yn arbennig o bwysig i bobl sydd â chyflyrau neu broblemau sy’n cyd-ddigwydd, megis iechyd meddwl, anhwylderau bwyta, neu gamddefnyddio alcohol neu sylweddau. Rydym yn cytuno â'n grŵp cynghori mai rhan bwysig o ddatblygu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yw sicrhau bod pobl yn rhan o'r gwaith o gynllunio eu cymorth. Rydym hefyd yn cytuno â nhw y gellid hwyluso hyn drwy gynyddu mynediad at gydlynwyr gofal, cynghorwyr annibynnol ac eiriolwyr i gefnogi pobl a allai fod yn ei chael hi'n anodd ymwneud â systemau, gan gynnwys prosesau cwyno.

74. Rydym wedi clywed am ddiffyg darpariaeth ar draws y sbectrwm o anghenion, yn ogystal â bod bylchau yn y ddarpariaeth yn effeithio ar grwpiau penodol. Mae hyn yn cael ei waethygu gan amseroedd aros hir y GIG, y ffaith nad yw cymorth ond yn para hyn a hyn o amser unwaith y bydd ar gael, a diffyg cymorth dilynol. Rydym wedi cydnabod y bydd ôl-groniad amseroedd aros y GIG yn cymryd amser i'w ddatrys.[126] Fodd bynnag, yn y cyfamser, gellir cymryd, a rhaid cymryd, camau i leihau effeithiau iechyd meddwl ac effeithiau eraill yr ôl-groniad ar y bobl sy'n aros. Mae pobl niwrowahanol yn arbennig o debygol o wynebu risg o anghydraddoldebau iechyd meddwl. Mae pobl niwrowahanol, a phobl sy'n aros am asesiad a diagnosis, hefyd yn cael eu heffeithio'n arbennig gan yr ôl-groniad amseroedd aros.

Argymhelliad 5

Yn unol ag argymhelliad ein grŵp cynghori, dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi map ffordd sy'n nodi camau clir ar lefel genedlaethol a lleol i wella iechyd meddwl ymhlith pobl niwrowahanol. Dylid ei gyhoeddi erbyn Gorffennaf 2023 a dylai gynnwys camau i symleiddio’r broses i oedolion a phlant gael asesiad/diagnosis ar gyfer cyflyrau niwrowahanol a gwneud y broses honno’n fwy hygyrch.

75. Mae angen gwelliannau yn arbennig yn y cymorth cynnar i blant a phobl ifanc a allai fod yn niwrowahanol a'u teuluoedd, gan gynnwys sicrhau bod cymorth o'r fath ar gael heb ddiagnosis ffurfiol. Rydym yn croesawu'r rhaglen newydd tair blynedd gwerth £12m i ddatblygu gwasanaethau niwroddatblygiadol gan gynnwys cefnogaeth gynnar drawsbynciol, ac rydym am weld y cynnydd hwn yn mynd rhagddo’n gyflym ac ar frys.

Argymhelliad 6

Yn ei hymateb i’n hadroddiad, dylai Llywodraeth Cymru roi sicrwydd y bydd gwaith i ddatblygu cefnogaeth gynnar drawsbynciol i blant a phobl ifanc a allai fod yn niwrowahanol, a'u teuluoedd, cyn iddynt gael diagnosis ffurfiol, yn mynd rhagddo'n gyflym ac ar frys. Dylai hyn gynnwys nodi pa gamau penodol fydd yn cael eu cymryd a phryd, a manylion pryd a sut y bydd gwerthuso'n cael ei wneud i asesu a yw profiadau a chanlyniadau pobl yn gwella. Dylid ystyried defnyddio dulliau cymorth gan gymheiriaid, cyfeillion fideo a hyrwyddwyr niwrowahanol.

76. Ni fyddwn yn gweld anghydraddoldebau iechyd meddwl yn lleihau oni bai bod gwasanaethau iechyd meddwl yn teimlo'n hygyrch ac yn groesawgar i bawb a allai fod eu hangen. Rydym yn cytuno ag Ewan Hilton o Platfform nad pobl sy’n anodd eu cyrraedd pobl - yn hytrach, yn rhy aml mae gwasanaethau yn cael eu strwythuro a’u rheoli mewn ffyrdd sy'n ei gwneud hi'n anodd i bobl eu cyrraedd.[127] Er bod angen darparu rhai gwasanaethau mewn lleoliadau clinigol, gall eraill gael eu darparu mewn lleoliadau cymunedol nad ydynt yn glinigol, a dylid gwneud hynny. Gall hyn helpu pobl i deimlo'n fwy cyfforddus a theimlo bod croeso iddynt, yn ogystal â mynd i'r afael â rhwystrau fel costau trafnidiaeth neu'r amser sydd ei angen ar bobl i fod i ffwrdd o gyfrifoldebau gofalu, addysg neu gyflogaeth. Gall defnydd effeithiol o dechnoleg ddigidol ddod â gwasanaethau'n agosach at bobl a chymunedau hefyd, ar yr amod bod dewisiadau amgen yn parhau i fod ar gael a bod camau'n cael eu cymryd i gau'r rhaniad digidol ac i ochel rhag parhau â'r anghydraddoldebau presennol neu greu rhai newydd.

77. Rydym yn arbennig o bryderus am ddiffyg darpariaeth iechyd meddwl arbenigol ar gyfer pobl fyddar yng Nghymru. Fel y dywedodd NDCS Cymru yn ei thystiolaeth i'n hymgynghoriad:

“Deafness itself does not increase the risk of mental health difficulties, but rather the impact of being deaf in a hearing-orientated world and the challenges deaf young people face therein can increase the incidence".[128]

 

78. Rydym yn pryderu mai Cymru yw unig genedl y DU heb wasanaeth iechyd meddwl arbenigol ar gyfer pobl fyddar, ond rydym yn croesawu'r dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ei bod yn ceisio gwneud y safonau Cymru gyfan ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch yn orfodol i'r GIG a gofal cymdeithasol, gwella mynediad ar gyfer pobl fyddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a chynnal adolygiad cynhwysfawr o'r ddarpariaeth iechyd meddwl ar gyfer pobl fyddar o bob oed.[129]

Argymhelliad 7

Yn ei hymateb i’n hadroddiad, dylai Llywodraeth Cymru amlinellu amserlen glir ar gyfer adolygiad brys o’r ddarpariaeth iechyd meddwl ar gyfer pobl fyddar ac ymrwymo i roi diweddariad i ni ar yr adolygiad, ac unrhyw gasgliadau neu ganfyddiadau sy’n dod i’r fei, erbyn Gorffennaf 2023. Dylai hefyd roi sicrwydd y bydd yr adolygiad yn ystyried y materion a godwyd gan yr All Wales Deaf Mental Health and Well-Being Group yn ei adroddiad, Deaf People Wales: Hidden Inequality, ac ystyried a oes angen sefydlu gwasanaeth iechyd meddwl arbenigol cenedlaethol ar gyfer pobl fyddar yng Nghymru.

79. Mae'r rhwystrau sy'n cael eu hachosi gan wasanaethau cyfieithu a dehongli annigonol yn bryder hefyd. Mae'n effeithio nid yn unig ar yr unigolyn sydd angen help neu gymorth, ond hefyd ar ei deulu, ffrindiau neu aelodau o'r gymuned y gellir galw arnynt i ddarparu cymorth cyfieithu neu ddehongli heb gael eu hyfforddi i wneud hynny ac a allai brofi trawma o ganlyniad. Nodwn fod gwasanaethau cyfieithu meddygol yn bodoli, ac rydym yn croesawu'r dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant bod adnoddau'n cael eu cyfieithu i ieithoedd cymunedol. Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth yn awgrymu y gallai fod datgysylltiad rhwng yr hyn a ddylai fod ar gael, a'r hyn y mae pobl yn gallu cael mynediad ato mewn gwirionedd. Yn ein barn ni, mae mynediad at ddehongli a chyfieithu yn fater gwasanaeth cyhoeddus, nid yn fater gwasanaeth iechyd yn unig. Mae creu amgylcheddau lle gall pobl ffynnu, ac sy'n adeiladu iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol, yn gofyn am fynd i'r afael â phenderfynyddion cymdeithasol ehangach iechyd meddwl. I wneud hyn, mae angen goresgyn rhwystrau rhag cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus ehangach, fel addysg, tai a chyngor ariannol, yn ogystal â'r rhwystrau i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl i bobl sydd eu hangen.

Argymhelliad 8

Yn ei hymateb i’n hadroddiad, dylai Llywodraeth Cymru roi diweddariad ar weithredu'r argymhellion a wnaed gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei adroddiad yn 2018, Siarad fy iaith: Goresgyn rhwystrau iaith a chyfathrebu mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Argymhelliad 9

Yn ei hymateb i’n hadroddiad, dylai Llywodraeth Cymru amlinellu pa ddyletswyddau sydd ar fyrddau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill i ddarparu gwasanaethau dehongli a chyfieithu ar gyfer ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg. Wrth wneud hynny, dylai roi sicrwydd bod y dyletswyddau sydd yn eu lle yn ddigonol, ac yn cael eu gweithredu'n effeithiol, er mwyn lleihau'r ddibyniaeth ar aelodau o'r teulu neu wirfoddolwyr cymunedol i ddarparu dehongliad neu gyfieithu ac eithrio mewn achosion brys neu argyfwng.

Argymhelliad 10

Rydym yn cymeradwyo ac yn ailadrodd argymhelliad 1 a wnaed gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ei adroddiad ym mis Hydref 2022, Trais ar sail rhywedd: anghenion menywod mudol, y dylai Llywodraeth Cymru ystyried creu a chynnal cyfeirlyfr o gyfieithwyr cydnabyddedig.

80. Rydym hefyd am weld mwy o gydnabyddiaeth y gallai'r trallod a'r anawsterau y mae llawer o bobl yn eu profi fod o ganlyniad i drawma, gan gynnwys profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Rydym yn cefnogi datblygiad gwasanaethau ystyriol o drawma, a darpariaeth hyfforddiant ystyriol o drawma ar gyfer staff iechyd meddwl, gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Ond, rydym yn cydnabod hefyd fod yn rhaid i hyfforddiant o'r fath gyd-fynd â newidiadau diwylliannol ehangach i sicrhau nad yw 'ystyriol o drawma' yn dod yn label, yn derm ffasiynol neu'n ymarfer ticio bocsys syml. I'r perwyl hwn, rydym yn croesawu cyhoeddi'r fframwaith ystyriol o drawma ar gyfer Cymru, er mai dim ond trwy ei weithredu'n effeithiol y gellir sicrhau ei effaith. Nodwn fod y fframwaith yn dweud y bydd monitro cynnydd a gwerthuso effaith dull ystyriol o drawma yn "heriol", a bod angen gwaith i " nodi deilliannau allweddol a dangosyddion llwyddiant ansoddol a meintiol y gellir eu mesur yn rheolaidd".[130]

Argymhelliad 11

Erbyn Gorffennaf 2023 dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi’r deilliannau allweddol a mesurau ansoddol a meintiol ar gyfer effaith y fframwaith ystyriol o drawma i Gymru, a rhoi fframwaith gwerthuso cadarn ar waith. Os na all Llywodraeth Cymru ymrwymo yn ei hymateb i’n hadroddiad i gwblhau gwaith o fewn yr amserlen hon, dylai egluro pam nad yw hyn yn bosibl a rhoi gwybodaeth am yr amserlenni ar gyfer cwblhau’r mesurau a’r fframwaith gwerthuso.

81. Fel y dywedodd llawer o'r rhai a roddodd dystiolaeth wrthym, dylai adeiladu iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol ddechrau'n gynnar ym mywyd plentyn.[131] Rydym yn cytuno bod cysylltiadau cadarnhaol ac iach yn ystod misoedd cynharaf bywyd babi yn hanfodol ar gyfer ei ddatblygiad iach a'i iechyd meddwl yn y dyfodol.

Argymhelliad 12

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda sefydliadau perthnasol i sicrhau bod gwybodaeth briodol a chefnogol am ymlyniad ac iechyd y berthynas rhwng rhiant a phlentyn yn cael ei darparu i rieni beichiog a rhieni newydd, er enghraifft mewn llenyddiaeth a thrwy ddosbarthiadau cynenedigol. Yn unol ag argymhelliad 22, dylai Llywodraeth Cymru roi diweddariad i ni ar y gwaith hwn ym mis Rhagfyr 2023.

 

Nôl i dop y dudalen

 


 

Tabl Cynnwys

Rhagair y Cadeirydd

Argymhellion

Crynodeb

Cyflwyniad

Anghydraddoldebau iechyd meddwl

Gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Caiff iechyd meddwl ei wneud mewn cymunedau

Presgripsiynu cymdeithasol

Y gweithlu

Gweithredu trawslywodraethol cydgysylltiedig

Diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983

Atodiad: Cefnogaeth iechyd meddwl ac emosiynol

 

 

Cyfeiriadau

[71] MHI64 Genetic Alliance UK

[72] MHI42 Y Gymdeithas Strôc

[73] MHI34 Samaritans Cymru

[74] MHI56 Llamau

[75] MHI43 Canolfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Chymdeithas

[76] Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru, Ebrill 2022

[77] MHI60 The Wallich

[78] MHI19 Endometriosis UK

[79] Cofnod y Trafodion [paragraff 35], 28 Medi 2022

[80] Cofnod y Trafodion [paragraffau 31-33], 28 Medi 2022

[81] MHI61 Diverse Cymru

[82] Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru, Ebrill 2022, paragraff 120

[83] Cofnod y Trafodion [paragraff 87], 4 Mai 2022

[84] MHI92 Rhian Phillips

[85] MHI56 Llamau

[86] MHI10 Unigolyn (sy'n dweud yn ei ymateb ei fod yn ymarferydd iechyd meddwl)

[87] Cofnod y Trafodion [paragraff 85], 4 Mai 2022

[88] Cofnod y Trafodion [paragraff 37], 6 Gorffennaf 2022

[89] Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Anghydraddoldebau iechyd meddwl: ymweliad, 23 Mehefin 2022

[90] Cofnod y Trafodion [paragraff 301], 24 Mawrth 2022

[91] Cofnod y Trafodion [paragraff 246], 19 Mai 2022

[92] Cofnod y Trafodion [paragraff 216], 24 Mawrth 2022

[93] MHI22 Grŵp Iechyd a Llesiant Cymdeithas yr Iaith

[94] Cofnod y Trafodion [paragraff 55], 6 Gorffennaf 2022

[95] MHI80 Y Ganolfan Iechyd Meddwl

[96] Cofnod y Trafodion [paragraff 301], 24 Mawrth 2022

[97] Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Anghydraddoldebau iechyd meddwl: canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu, Mawrth 2022

[98] MHI82 Iechyd Cyhoeddus Cymru

[99] Cofnod y Trafodion [paragraff 164], 24 Mawrth 2022

[100] MHI75 DPJ Foundation

[101] MHI33 Cyngor Deoniaid Iechyd

[102] Cofnod y Trafodion [paragraff 261], 24 Mawrth 2022

[103] Cofnod y Trafodion [paragraff 240], 19 Mai 2022

[104] Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Anghydraddoldebau iechyd meddwl: trafodaeth â rhanddeiliaid, 8 Mehefin 2022

[105] Gan gynnwys, er enghraifft, Iaith Arwyddion Prydain yn ogystal ag ieithoedd cymunedol.

[106] Cofnod y Trafodion [paragraff 157], 6 Gorffennaf 2022

[107] Archwilydd Cyffredinol Cymru, Siaradwch fy iaith: Goresgyn rhwystrau iaith a chyfathrebu mewn gwasanaethau cyhoeddus, Ebrill 2018

[108] Llythyr gan Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru at Archwilydd Cyffredinol Cymru, 30 Gorffennaf 2018

[109] Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Anghydraddoldebau iechyd meddwl: ymweliad

[110] Cofnod y Trafodion [paragraff 49], 6 Gorffennaf 2022

[111] Cofnod y Trafodion [paragraff 57-58], 28 Medi 2022

[112] Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Ymchwiliad i effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Adroddiad 2 - Yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant, Rhagfyr 2020, t.12

[113] Y Ganolfan Iechyd Meddwl, Up to 10 million people in England may need support for their mental health as a result of the pandemic, says Centre for Mental Health, 1 Hydref 2020

[114] MHI29 Comisiynydd Plant Cymru

[115] Cofnod y Trafodion [paragraff 276], 24 Mawrth 2022

[116] Cofnod y Trafodion [paragraff 178], 24 Mawrth 2022

[117] Straen Trawmatig Cymru a Hyb ACE Cymru, Cymru sy'n Ystyriol o Drawma: Dull Cymdeithasol o Ddeall, Atal a Chefnogi Effeithiau Trawma ac Adfyd, 2022

[118] Mae'r £300k wedi'i ddarparu ar gyfer gweithredu'r fframwaith ystyriol o drawma a chynllun Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.

[119] Cofnod y Trafodion [paragraffau 26-27], 28 Medi 2022

[120] Cofnod y Trafodion [paragraff 28], 8 Mehefin 2022

[121] MHI65 Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol

[122] Cofnod y Trafodion [paragraff 344], 24 Mawrth 2022

[123] MHI54 Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

[124] Cofnod y Trafodion [paragraff 41], 6 Gorffennaf 2022

[125] Cofnod y Trafodion [paragraff 62], 28 Medi 2022

[126] Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Aros yn iach? Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru, Ebrill 2022.

[127] Cofnod y Trafodion [paragraff 82], 4 Mai 2022

[128] MHI44 NDCS Cymru

[129] Cofnod y Trafodion [paragraff 60], 28 Medi 2022

[130] Straen Trawmatig Cymru a Hyb ACE Cymru, Cymru sy'n Ystyriol o Drawma: Dull Cymdeithasol o Ddeall, Atal a Chefnogi Effeithiau Trawma ac Adfyd, 2022

[131] Er enghraifft MHI24 Unigolyn, MHI63 Colegau Cymru, MHI82 Iechyd Cyhoeddus Cymru