Argymhellion

Cyhoeddwyd 19/12/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/12/2022   |   Amser darllen munudau

Dyma argymhellion adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol 'Cysylltu'r dotiau: Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl yng Nghymru'.

 


 

Argymhelliad 1. Ni fydd iechyd meddwl a llesiant y boblogaeth yn gwella, ac mewn gwirionedd gall barhau i ddirywio, oni bai bod camau effeithiol yn cael eu cymryd i gydnabod a mynd i'r afael ag effaith trawma, a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn cymdeithas ac achosion ehangach iechyd meddwl gwael. Rhaid i'r neges hon, ynghyd ag uchelgais glir i leihau anghydraddoldebau iechyd meddwl, fod yn ganolog i strategaeth iechyd meddwl newydd Llywodraeth Cymru. Mwy ›

 

Argymhelliad 2. Yn ddelfrydol yn ei hymateb i’n hadroddiad, ond erbyn Gorffennaf 2023 ar yr hwyraf, dylai Llywodraeth Cymru ddarparu arfarniad gonest o ba ysgogiadau polisi, deddfwriaethol ac ariannol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi a phenderfynyddion cymdeithasol eraill iechyd meddwl sydd o fewn rheolaeth Lywodraeth Cymru, a pha rai sydd o fewn rheolaeth Llywodraeth y DU. I gyd-fynd â'r arfarniad hwn, dylid cael asesiad realistig o’r graddau y gall Llywodraeth Cymru wella iechyd meddwl a llesiant y boblogaeth gan ddefnyddio'r ysgogiadau sydd o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru, a gwybodaeth am sut mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod yr ysgogiadau sydd o fewn rheolaeth Llywodraeth y DU yn cael eu defnyddio i sicrhau’r effaith orau wrth wella iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru. Mwy ›

 

Argymhelliad 3. Erbyn mis Rhagfyr 2023, dylai Llywodraeth Cymru fod wedi comisiynu adolygiad annibynnol o'r dystiolaeth bresennol, ac ymchwil bellach pe bai ei hangen, i archwilio effaith system les y DU ar iechyd meddwl a llesiant yng Nghymru, a pha effaith y gallai datganoli lles a/neu’r gwaith o weinyddu lles ei chael ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd corfforol a meddyliol yng Nghymru. Dylai'r adolygiad a'r ymchwil ystyried materion yn ymwneud ag egwyddor, yn ogystal ag ymarferoldeb a goblygiadau ariannol cysylltiedig cadw'r sefyllfa bresennol neu unrhyw ddatganoli pellach. Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i gyhoeddi canlyniad yr adolygiad a'r ymchwil. Mwy ›

 

Argymhelliad 4. Dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y bydd y strategaeth iechyd meddwl newydd yn sicrhau y bydd pobl â salwch meddwl difrifol a pharhaus yn cael mynediad rheolaidd at archwiliadau iechyd corfforol, a pha gamau a fydd yn cael eu cymryd i leihau effaith ffactorau fel tlodi, anfantais a chysgodi diagnostig ar y grŵp hwn. Mwy ›

 

Argymhelliad 5. Yn unol ag argymhelliad ein grŵp cynghori, dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi map ffordd sy'n nodi camau clir ar lefel genedlaethol a lleol i wella iechyd meddwl ymhlith pobl niwrowahanol. Dylid ei gyhoeddi erbyn Gorffennaf 2023 a dylai gynnwys camau i symleiddio’r broses i oedolion a phlant gael asesiad/diagnosis ar gyfer cyflyrau niwrowahanol a gwneud y broses honno’n fwy hygyrch. Mwy ›

 

Argymhelliad 6. Yn ei hymateb i’n hadroddiad, dylai Llywodraeth Cymru roi sicrwydd y bydd gwaith i ddatblygu cefnogaeth gynnar drawsbynciol i blant a phobl ifanc a allai fod yn niwrowahanol, a'u teuluoedd, cyn iddynt gael diagnosis ffurfiol, yn mynd rhagddo'n gyflym ac ar frys. Dylai hyn gynnwys nodi pa gamau penodol fydd yn cael eu cymryd a phryd, a manylion pryd a sut y bydd gwerthuso'n cael ei wneud i asesu a yw profiadau a chanlyniadau pobl yn gwella. Dylid ystyried defnyddio dulliau cymorth gan gymheiriaid, cyfeillion fideo a hyrwyddwyr niwrowahanol. Mwy ›

 

Argymhelliad 7. Yn ei hymateb i’n hadroddiad, dylai Llywodraeth Cymru amlinellu amserlen glir ar gyfer adolygiad brys o’r ddarpariaeth iechyd meddwl ar gyfer pobl fyddar ac ymrwymo i roi diweddariad i ni ar yr adolygiad, ac unrhyw gasgliadau neu ganfyddiadau sy’n dod i’r fei, erbyn Gorffennaf 2023. Dylai hefyd roi sicrwydd y bydd yr adolygiad yn ystyried y materion a godwyd gan yr All Wales Deaf Mental Health and Well-Being Group yn ei adroddiad, Deaf People Wales: Hidden Inequality, ac ystyried a oes angen sefydlu gwasanaeth iechyd meddwl arbenigol cenedlaethol ar gyfer pobl fyddar yng Nghymru. Mwy ›

 

Argymhelliad 8. Yn ei hymateb i’n hadroddiad, dylai Llywodraeth Cymru roi diweddariad ar weithredu'r argymhellion a wnaed gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei adroddiad yn 2018, Siarad fy iaith: Goresgyn rhwystrau iaith a chyfathrebu mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mwy ›

 

Argymhelliad 9. Yn ei hymateb i’n hadroddiad, dylai Llywodraeth Cymru amlinellu pa ddyletswyddau sydd ar fyrddau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill i ddarparu gwasanaethau dehongli a chyfieithu ar gyfer ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg. Wrth wneud hynny, dylai roi sicrwydd bod y dyletswyddau sydd yn eu lle yn ddigonol, ac yn cael eu gweithredu'n effeithiol, er mwyn lleihau'r ddibyniaeth ar aelodau o'r teulu neu wirfoddolwyr cymunedol i ddarparu dehongliad neu gyfieithu ac eithrio mewn achosion brys neu argyfwng. Mwy ›

 

Argymhelliad 10. Rydym yn cymeradwyo ac yn ailadrodd argymhelliad 1 a wnaed gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ei adroddiad ym mis Hydref 2022, Trais ar sail rhywedd: anghenion menywod mudol, y dylai Llywodraeth Cymru ystyried creu a chynnal cyfeirlyfr o gyfieithwyr cydnabyddedig. Mwy ›

 

Argymhelliad 11. Erbyn Gorffennaf 2023 dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi’r deilliannau allweddol a mesurau ansoddol a meintiol ar gyfer effaith y fframwaith ystyriol o drawma i Gymru, a rhoi fframwaith gwerthuso cadarn ar waith. Os na all Llywodraeth Cymru ymrwymo yn ei hymateb i’n hadroddiad i gwblhau gwaith o fewn yr amserlen hon, dylai egluro pam nad yw hyn yn bosibl a rhoi gwybodaeth am yr amserlenni ar gyfer cwblhau’r mesurau a’r fframwaith gwerthuso. Mwy ›

 

Argymhelliad 12. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda sefydliadau perthnasol i sicrhau bod gwybodaeth briodol a chefnogol am ymlyniad ac iechyd y berthynas rhwng rhiant a phlentyn yn cael ei darparu i rieni beichiog a rhieni newydd, er enghraifft mewn llenyddiaeth a thrwy ddosbarthiadau cynenedigol. Yn unol ag argymhelliad 22, dylai Llywodraeth Cymru roi diweddariad i ni ar y gwaith hwn ym mis Rhagfyr 2023. Mwy ›

 

Argymhelliad 13. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a sefydliadau cymunedol i ddefnyddio canlyniadau ei hymarfer mapio gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol diweddar i gydgynhyrchu cyfeirlyfr ar-lein o wasanaethau cymunedol a digidol sydd ar gael yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol ledled Cymru. Dylai'r cyfeiriadur fod yn hygyrch i'r cyhoedd, a dylai gynnwys gwybodaeth am ba gymorth sydd ar gael a sut i’w gael, yn cynnwys a oes angen atgyfeiriad. Mwy ›

 

Argymhelliad 14. Er mwyn cyd-fynd â'r broses o gyhoeddi'r fframwaith presgripsiynu cymdeithasol a'i weithredu'n barhaus, dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu a chyflwyno ymgyrchoedd cyfathrebu wedi'u targedu i hyrwyddo ymwybyddiaeth o bresgripsiynu cymdeithasol a'r fframwaith newydd ymhlith gweithwyr iechyd, gwasanaethau a grwpiau a sefydliadau cymunedol y gellid presgripsiynu pobl iddynt, a'r cyhoedd. Mwy ›

 

Argymhelliad 15. Dylai fframwaith presgripsiynu cymdeithasol Llywodraeth Cymru gynnwys mesurau lle gellir asesu effeithiau a chanlyniadau iechyd a chymdeithasol cynlluniau presgripsiynu cymdeithasol ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i gyhoeddi data fel rhan o'r broses barhaus o werthuso'r fframwaith presgripsiynu cymdeithasol er mwyn ein galluogi ni a rhanddeiliaid i fonitro effaith presgripsiynu cymdeithasol a'r fframwaith presgripsiynu cymdeithasol. Mwy ›

 

Argymhelliad 16. Yn ei hymateb i’n hadroddiad, dylai Llywodraeth Cymru amlinellu pa gamau y bydd yn eu cymryd i ddatblygu strwythur mwy proffesiynol i'r gweithlu presgripsiynu cymdeithasol, gan gynnwys sut y bydd yn mynd i'r afael ag amrywiaeth mewn tâl, telerau ac amodau, ac yn gwella cynaliadwyedd cyllido ar gyfer rolau o'r fath. Yn unol ag argymhelliad 22, dylai Llywodraeth Cymru roi diweddariad i ni ar y gwaith hwn ym mis Rhagfyr 2023. Mwy ›

 

Argymhelliad 17. Yn ei hymateb i’n hadroddiad, dylai Llywodraeth Cymru nodi sut, gan weithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru, y bydd yn monitro effaith y camau gweithredu yng nghynllun y gweithlu iechyd meddwl sydd â'r nod o wella llesiant staff. Dylai ymrwymo hefyd i gyhoeddi adroddiadau blynyddol sy’n nodi a yw’r camau gweithredu yn y cynllun yn cael yr effaith fwriadedig, ac os na, beth fydd yn cael ei wneud yn wahanol. Dylai’r adroddiad blynyddol cyntaf gael ei gyhoeddi dim hwyrach na Rhagfyr 2023. Mwy ›

 

Argymhelliad 18. Unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24, dylai gadarnhau pa rai o'r camau sydd yng nghynllun y gweithlu iechyd meddwl y dyrannwyd cyllid llawn iddynt, pa rai y dyrannwyd cyllid rhannol iddynt, a pha rai sydd heb gael cyllid wedi’i ddyrannu iddynt o gwbl. Dylai hefyd roi manylion pa gamau sy'n cael eu hariannu'n rhannol neu sydd heb eu hariannu a fydd yn cael blaenoriaeth pe bai cyllid pellach ar gael. Mwy ›

 

Argymhelliad 19. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda phobl niwrowahanol i gydgynhyrchu ymgyrchoedd hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth er mwyn cynyddu dealltwriaeth o niwroamrywiaeth mewn ysgolion ac ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Dylai ffocws yr hyfforddiant fod ar ddeall bywydau pobl niwrowahanol, sut i'w cefnogi a'u helpu, a datblygu agweddau a diwylliant cadarnhaol, adeiladol a chymwynasgar, ac nid ar gyflyrau penodol yn unig. Yn unol ag argymhelliad 22, dylai Llywodraeth Cymru roi diweddariad i ni ar y gwaith hwn ym mis Rhagfyr 2023. Mwy ›

 

Argymhelliad 20. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr arolwg o’r gweithlu sydd i’w gynnal ar draws iechyd a gofal cymdeithasol fel rhan o gynllun y gweithlu iechyd meddwl yn cael ei gynnal ar fyrder, a dim hwyrach na mis Gorffennaf 2023. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda grwpiau a chymunedau y nodwyd sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y gweithlu ar ôl dadansoddi’r data amrywiaeth a gasglwyd drwy’r arolwg, a chyda phobl niwrowahanol, i lunio a chyflwyno rhaglen fentora a chymorth i'w helpu i ymuno â'r gweithlu iechyd meddwl. Yn unol ag argymhelliad 22, dylai Llywodraeth Cymru roi diweddariad i ni ar y gwaith hwn ym mis Rhagfyr 2023. Mwy ›

 

Argymhelliad 21. Dylai Llywodraeth Cymru fynnu bod ei gweision sifil yn cynnwys, ym mhob cyflwyniad a wneir i Weinidogion Llywodraeth Cymru sy'n gofyn am benderfyniad ar gynigion polisi, deddfwriaethol, gwariant neu drethu, asesiad o'r modd y bydd y camau a argymhellir yn cyfrannu at wella iechyd meddwl a llesiant pobl Cymru. Mwy ›

 

Argymhelliad 22. Dylai Llywodraeth Cymru roi diweddariadau blynyddol i ni am gynnydd a wnaed o ran gweithredu'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad hwn. Dylid darparu’r diweddariad blynyddol cyntaf ym mis Rhagfyr 2023. Mwy ›

 

Argymhelliad 23. Yn ei hymateb i’n hadroddiad, dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i gomisiynu a chyhoeddi gwerthusiadau interim a therfynol annibynnol o’i strategaeth iechyd meddwl newydd. Dylai'r gwerthusiadau interim gynnwys asesiad o effaith y strategaeth hyd yma ar iechyd meddwl a llesiant poblogaeth Cymru, y canlyniadau y mae wedi’u cyflawni, ac unrhyw bwyntiau dysgu neu argymhellion ar gyfer newid. Ochr yn ochr â phob adroddiad gwerthuso interim, dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi manylion pa gamau y bydd yn eu cymryd mewn ymateb i unrhyw bwyntiau dysgu neu argymhellion ar gyfer newid. Mwy ›

 

Argymhelliad 24. Yn ei hymateb i’n hadroddiad, dylai Llywodraeth Cymru gadarnhau y bydd y data i'w gasglu a'i gyhoeddi fel rhan o set ddata graidd iechyd meddwl yn ein galluogi ni a rhanddeiliaid i weld ac olrhain cynnydd dros amser mewn anghydraddoldebau iechyd meddwl yn ymwneud â mynediad at wasanaethau iechyd meddwl a chanlyniadau i wahanol grwpiau a chymunedau. Dylai hyn gynnwys gwybodaeth am ba ddata fydd yn cael ei gynnwys, pa mor aml y bydd data'n cael ei gyhoeddi, pa ddadansoddiad fydd yn cael ei wneud, a chadarnhad y bydd y data'n cael ei ddadgyfuno ar sail nodweddion amrywiaeth. Mwy ›

 

Argymhelliad 25. Ar ôl cwblhau'r ymchwil y comisiynwyd Prifysgol De Cymru i’w chynnal ar fesur canlyniadau clinigol a chymdeithasol, dylai Llywodraeth Cymru osod amserlen ar gyfer datblygu a gweithredu mesurau llesiant i lywio'r gwaith o fonitro a gwerthuso effaith y strategaeth iechyd meddwl newydd ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl. Yn unol ag argymhelliad 22, dylai Llywodraeth Cymru ddarparu diweddariad i ni ar y gwaith hwn ym mis Rhagfyr 2023. Mwy ›

 

Argymhelliad 26. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r comisiynwyr heddlu a throsedd a'r heddluoedd yng Nghymru i nodi cyfleoedd i wella mynediad ar gyfer swyddogion heddlu at hyfforddiant parhaus mewn ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, atal hunanladdiad, ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth, ymwybyddiaeth o anableddau dysgu, a chymhwysedd diwylliannol. Yn unol ag argymhelliad 22, dylai Llywodraeth Cymru ddarparu diweddariad i ni ar y gwaith hwn ym mis Rhagfyr 2023. Mwy ›

 

Argymhelliad 27. Yn ei hymateb i’n hadroddiad, dylai Llywodraeth Cymru roi diweddariad ar ei thrafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch y Bil Iechyd Meddwl drafft. Dylai hyn gynnwys gwybodaeth ynghylch a yw Llywodraeth Cymru wedi penderfynu a yw'n cefnogi bwriad Llywodraeth y DU i ddeddfu ym maes iechyd meddwl, sy’n faes datganoledig, manylion y dadansoddiad a'r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn llywio ei barn ar y mater hwn, a gwybodaeth am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod y gwahanol gyd-destunau deddfwriaethol a pholisi yng Nghymru a Lloegr yn cael eu hystyried wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth a chynllunio ar gyfer ei gweithredu. Mwy ›

 


 

Tabl Cynnwys

Rhagair y Cadeirydd

Argymhellion

Crynodeb

Cyflwyniad

Anghydraddoldebau iechyd meddwl

Gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Caiff iechyd meddwl ei wneud mewn cymunedau

Presgripsiynu cymdeithasol

Y gweithlu

Gweithredu trawslywodraethol cydgysylltiedig

Diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983

Atodiad: Cefnogaeth iechyd meddwl ac emosiynol