Huw Irranca-Davies AS yw Llywydd newydd Senedd Cymru.
Cafodd ei ddewis gan ei gyd-Aelodau yng Nghyfarfod Llawn cyntaf y Senedd yn dilyn etholiad 2026, ac mae bellach yn ymgymryd ag un o'r rolau pwysicaf ym mywyd cyhoeddus Cymru.
Huw Irranca-Davies AS yn siarad am gael ei ethol yn Llywydd a'i ymagwedd at y rôl.
“Mae gan y Senedd hon enw da am ymgysylltu a chynnal dadleuon mewn awyrgylch parchus, ac rwy’n gobeithio’n fawr y gallwn barhau â hynny yn y dyfodol.”
Beth y mae'r Llywydd yn ei wneud?
Mae rôl y Llywydd yn debyg i rolau Llefarwyr a Llywyddion mewn seneddau ledled y byd. Er bod union gyfrifoldebau'r swydd yn amrywio o wlad i wlad, ac er bod gwahanol deitlau yn cael eu defnyddio, o bosibl, mae'r rôl yn debyg yn fras.
Y Llywydd sy'n gyfrifol am sicrhau bod y Senedd yn cael ei rhedeg mewn modd teg ac effeithiol. Mae’n cadeirio Cyfarfodydd Llawn, yn llywio dadleuon ac yn sicrhau bod pob Aelod yn cael ei drin yn gyfartal.
Dyma bum elfen allweddol o’r rôl:
- cadeirio Cyfarfodydd Llawn yn y Siambr, sef siambr drafod y Senedd, gan ymddwyn yn ddiduedd yn wleidyddol bob amser
- cadw trefn yn ystod dadleuon
- cymhwyso rheolau’r Senedd (sef y Rheolau Sefydlog) pan fo angen
- cynrychioli'r Senedd yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol
- cadeirio Comisiwn y Senedd, sy'n goruchwylio staff a gwasanaethau'r sefydliad
Sut mae'r Llywydd yn cael ei ddewis?
Caiff y Llywydd ei ethol gan Aelodau o’r Senedd.
Yn ystod y cyfarfod cyntaf yn dilyn etholiad, mae’r Aelodau'n enwebu ymgeiswyr ar gyfer y rôl. Os caiff mwy nag un person ei enwebu, cynhelir pleidlais gyfrinachol. Mae'r broses hon yn helpu i sicrhau bod gan y Llywydd gefnogaeth Aelodau o bob rhan o'r Senedd.
Rhagor o wybodaeth am sut mae'r Llywydd yn cael ei ethol.
Gwybodaeth am Huw Irranca-Davies AS
Daw Huw Irranca-Davies AS â phrofiad o waith craffu llywodraethol a seneddol i rôl y Llywydd.
Cafodd ei ethol i'r Senedd am y tro cyntaf yn 2016, ac mae wedi cadeirio a gwasanaethu ar nifer o bwyllgorau yn ystod y deng mlynedd diwethaf.
Mae hefyd wedi dal rolau uwch o fewn Llywodraeth Cymru. Yn fwyaf diweddar, gwasanaethodd fel y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.
Cyn ymuno â'r Senedd, gwasanaethodd fel Aelod o Senedd y DU dros etholaeth Ogwr am 14 mlynedd.
"Fy null yma [yn y Senedd] yw sicrhau bod gan bawb lais, bod gan bawb gyfle i ymgysylltu, a bod gan Aelodau’r meinciau cefn a’r gwrthbleidiau lais gwirioneddol o ran yr hyn sy’n digwydd...
...Rydym yn ceisio cynnal trefn a pherthynas dda gyda’r seneddwyr a’r arweinwyr gwleidyddol, ac yn ceisio trefnu busnes dyddiol y Senedd fel y gallwn graffu ar y Llywodraeth yn effeithiol.”
Cymerwch gipolwg y tu ôl i'r llenni wrth i Huw Irranca-Davies AS baratoi ar gyfer ei Gyfarfod Llawn cyntaf ar ôl cael ei ethol yn Llywydd.
Gosod naws y Senedd newydd
Yn ei araith gyntaf i’r Aelodau ar ôl cael ei ethol yn Llywydd, dywedodd Huw Irranca-Davies AS y byddai'n gweithio gyda'r holl Aelodau fel bod y Senedd:
- yn bodloni disgwyliadau pobl ledled Cymru
- yn ymgysylltu â chymunedau
- yn cryfhau democratiaeth Cymru
Tynnodd sylw hefyd at bwysigrwydd cynnal trafodaethau parchus, hyd yn oed pan fo safbwyntiau’n gwrthdaro.
Y Dirprwy Lywydd
Mae’r Llywydd yn cael ei gefnogi gan y Dirprwy Lywydd, sef Kerry Ferguson AS, sy'n helpu i oruchwylio'r trafodion ac yn camu i’r adwy pan fo angen.
Gyda'i gilydd, maent yn chwarae rôl hanfodol wrth sicrhau bod y Senedd yn cael ei rhedeg yn hwylus. Drwy gadw trefn ac awyrgylch parchus yn y Siambr, maent yn sicrhau y gall y Senedd ganolbwyntio ar weithio ar ran pobl Cymru.
Edrych tua'r dyfodol
Wrth i'r Senedd ddechrau ei gwaith ar gyfer y tymor newydd, mae’r disgwyliadau'n uchel. Mae’r Aelodau newydd, y ddeinameg wleidyddol newydd ac anghenion esblygol Cymru i gyd yn esgor ar heriau newydd.
Bydd y Llywydd wrth galon popeth, yn arwain dadleuon, yn cynnal safonau ac yn cryfhau ymddiriedaeth y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd.
Beth am ddarganfod yr hyn sy'n digwydd yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos hon.