Adroddiad cyntaf y Cynulliad ar Brexit yn nodi materion “eang a chymhleth” i Gymru

Cyhoeddwyd 27/01/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/01/2017

​Mae Pwyllgor y Cynulliad sy'n gyfrifol am amddiffyn buddiannau Cymru yn ystod proses Brexit, sef y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, wedi cyhoeddi ei adroddiad cyntaf.

Mae hyn yn dilyn chwe mis o gasglu barn arbenigol drwy raglen o seminarau thematig a galwad cyntaf am gyflwyniadau ysgrifenedig. Mae hyn wedi galluogi'r Pwyllgor i nodi materion perthnasol i'r sectorau yng Nghymru.

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

“Os oedd unrhyw amheuon i ddechrau, mae'r dystiolaeth rydym wedi'i chasglu yn cadarnhau bod Brexit yn codi materion eang a chymhleth i Gymru. Mae'n torri ar draws nifer o feysydd polisi, yn ogystal â chodi cwestiynau cyfansoddiadol sylfaenol ynghylch datganoli a'r ddeinameg pŵer rhwng Llywodraeth y DU, Senedd y DU a'r gweinyddiaethau a deddfwrfeydd datganoledig”

Mae rhan gyntaf yr adroddiad yn nodi materion sy'n berthnasol i'r sectorau yng Nghymru gyda'r nod o wella dealltwriaeth o'r heriau cymhleth y mae Cymru yn eu hwynebu wrth i'r DU adael yr UE. Mae'r Pwyllgor yn gobeithio y bydd rhan gyntaf yr adroddiad yn gweithredu fel pwynt cyfeirio fel sail ar gyfer trafodaeth ehangach ynghylch y DU yn gadael yr UE ac yn helpu i gyfleu'r materion sy'n bwysig i Gymru.

O ran economi Cymru, mae'r adroddiad yn nodi y bydd gosod rhwystrau wrth fasnachu gyda'r UE yn peri risgiau sylweddol i economi Cymru. Mae amlygrwydd cymharol y sector gweithgynhyrchu a'r sector amaethyddol (o gymharu â gweddill y DU) yn cynyddu pa mor fregus yw economi Cymru i osod rhwystrau masnachu.

Yn ôl David Rees:

“Roedd y mwyafrif helaeth o'r dystiolaeth a ddaeth i law yn dangos bod sicrhau mynediad rhydd at y Farchnad Sengl, heb dariffau a rhwystrau di-dariff, yn hanfodol bwysig i economi Cymru.”

Mae'r risg i economi Cymru yn golygu bod y Pwyllgor yn galw am ffocws ar drefniadau trosiannol. Dywedodd y Cadeirydd:

“Bydd hyd yn oed cyfnod cymharol fyr o amser yn masnachu gyda rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn niweidio ein sector gweithgynhyrchu a'n sector amaethyddol. Gallai hyn fod yn drychinebus i economi Cymru. Rhaid i drefniadau trosiannol fod yn ystyriaeth bwysig yn y trafodaethau.”

Mae ail ran yr adroddiad yn canolbwyntio ar faterion cyfansoddiadol ac yn tynnu sylw at nifer o gasgliadau sydd wedi'u hanelu at gryfhau rôl Cymru yn y broses ar lefel Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad.

Yn ôl David Rees:

“Rydym yn glir. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gael rôl uniongyrchol wrth ddatblygu sefyllfa drafod y DU pan mae'n ymwneud â phwerau datganoledig neu'n effeithio ar y pwerau hynny”.

O ran y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn credu ei bod yn briodol yn gyfansoddiadol i'r Cynulliad chwarae rôl ac i'r confensiynau presennol gael eu hymestyn i ystyried datblygiad datganoli ac i rannu pŵer yn y DU.

Darllenwch yr adroddiad