Dros filiwn o lofnodion yn rhan o gynnydd mewn deisebau i'r Senedd

Cyhoeddwyd 31/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/03/2021   |   Amser darllen munudau

Casglwyd dros filiwn o lofnodion gan ddeisebau cyhoeddus yn ystod tymor y Senedd hon, sy’n dangos cynnydd yn y nifer o bobl sydd wedi defnyddio’r system fel ffordd uniongyrchol o ddylanwadu ar ba bynciau sy’n cael eu hystyried yn y Senedd.

Ar ddiwedd y Pumed Senedd, mae'r Pwyllgor Deisebau wedi cyhoeddi adroddiad i ddadansoddi eu gwaith yn ystod y bum mlynedd diwethaf ac er mwyn cynnig argymhellion ar sut i redeg y broses ddeisebau yn y Chweched Senedd.

Cafodd 462 o ddeisebau newydd eu hystyried gan y Pwyllgor Deisebau yn ystod tymor y Senedd, a bu’r Pwyllgor yn craffu'n fanwl ar bob un o’r pynciau. Mae gwahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol, caniatáu mynediad at gyffur ffibrosis systig newydd a darparu cyllid ar gyfer prostheteg chwaraeon arbenigol i blant ymhlith rhai o’r newidiadau yn sgil deisebau.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae pandemig COVID-19 wedi sbarduno llif uwch o ddeisebau gan gynnwys yr un a wnaeth gasglu’r nifer mwyaf o lofnodion yn ystod tymor y Senedd, sef 67,940 o lofnodion yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganiatáu i archfarchnadoedd werthu eitemau "nad ydynt yn hanfodol" yn ystod cyfyngiadau symud.

Er bod y defnydd o ddeisebau wedi cynyddu’n gyson er 2007, mae effaith y pandemig ar ein bywydau bob dydd, ynghyd â lansio gwefan Deisebau Senedd newydd ar 30 Ebrill 2020, wedi arwain at gynnydd dramatig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Cafodd 168 o ddeisebau eu cyfeirio at y Pwyllgor yn 2020, o gymharu â 70 yn 2019.

Yn 2017 cyflwynodd y Pwyllgor Deisebau broses newydd lle byddai deisebau gyda dros 5,000 o lofnodion yn cael eu hystyried ar gyfer dadl yng Nghyfarfod Llawn y Senedd, gyda’r bwriad o allu trafod materion pwysig ac amserol yn gynt. Mae hyn wedi bod yn fesur poblogaidd a llwyddiannus, gyda 24 deiseb yn cael eu trafod trwy'r mecanwaith hwn.

Oherwydd pandemig COVID-19 a llwyddiant y system ddeisebau newydd, ynghyd â phwysau amser yn ystod misoedd olaf y Pumed Senedd, penderfynodd y Pwyllgor newid y trothwy i 10,000 o lofnodion o fis Rhagfyr 2020 ymlaen. Ar ôl adolygu effaith y newid, mae'r Pwyllgor yn argymell bod y trothwy hwn yn parhau yn y Chweched Senedd i ddechrau, ond y gallai gael ei leihau unwaith y bydd y pandemig drosodd.

Mae yna nifer o ffyrdd effeithiol o drafod deisebau, heblaw cynnal dadl yn y Senedd. Cafodd pob un o’r 462 deiseb a dderbyniwyd yn ystod tymor Senedd hwn ei drafod yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Deisebau ac fe gafodd pob deiseb ymateb, fel arfer gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Pwyllgor wedi cynnal ymchwiliadau manwl i lawer o ddeisebau, gan gymryd tystiolaeth ysgrifenedig a llafar, gan gyhoeddi 14 adroddiad. Cafodd 30 deiseb eu cyflwyno ar gyfer dadl.

Janet Finch Saunders AS

Meddai Cadeirydd Pwyllgor Deisebau’r Senedd, Janet Finch-Saunders AS: 

“Yn ystod blwyddyn ofidus ac anodd, yng nghanol argyfwng iechyd cyhoeddus, rydym wedi gweld pa mor bwysig yw deisebau’r Senedd er mwyn galluogi pobl i alw am newid, awgrymu deddfau a pholisïau newydd, neu leisio eu cefnogaeth neu wrthwynebiad i benderfyniadau.

“Mae mwy na miliwn o lofnodion wedi’u casglu yn ystod tymor y Senedd hon, pob un yn cyflwyno ei bersbectif ei hun at sylw’r Llywodraeth ac Aelodau ein Senedd. Roedd yn ddyletswydd arnom i ddewis y camau priodol er mwyn ymateb i’r deisebau ac rydym wedi gweithio'n galed i ystyried a chraffu ar bob un a oedd wedi derbyn mwy na 50 o lofnodion, gan sicrhau eu bod, o leiaf, wedi derbyn ymateb swyddogol i'r mater.

“Rydym yn falch iawn bod nifer o ddeisebau, a’u hymgyrchoedd, wedi arwain at newidiadau. Mae llawer mwy wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth, gan sicrhau bod lleisiau pobl yng Nghymru yn cael eu clywed yn glir gan eu cynrychiolwyr etholedig yn y Senedd a gan Lywodraeth Cymru.

“O ganlyniad i’r gwelliannau a wnaed i’r broses ddeisebau ynghyd a mwy o ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau datganoledig o ganlyniad i’r pandemig, mae’n debygol y bydd y cynnydd yma mewn deisebau yn parhau. Rwy’n falch iawn bod hyn yn rhan o etifeddiaeth y Pwyllgor.”

 Canlyniadau deisebau

Yn aml nid yw penderfynu beth yw deiseb lwyddiannus yn broses syml. Yn y pen draw, mae p’un a yw deiseb wedi cyrraedd y nod ai peidio yn dibynnu ar amcanion neu obeithion y deisebydd a’r bobl sydd wedi’i llofnodi a’i chefnogi. Er nad yw’n rhestr gynhwysfawr, mae’r adroddiad yn denu sylw at rai o’r deisebau sydd wedi cyflawni canlyniadau yn ystod y Bumed Senedd, gan gynnwys: 

  • P-05-796 Gwahardd y defnydd o anifeiliaid mewn syrcasau a sioeau teithiol yng Nghymru

Yn ystod ystyriaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Cafodd Deddf Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) 2020 ei gymeradwyo gan y Senedd ar 15 Gorffennaf 2020 a daeth yn gyfraith ar 7 Medi 2020.

  •  P-05-797 Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys

Roedd y ddeiseb yn galw am ddatrysiad brys i drafodaethau ynghylch caniatáu mynediad at y feddyginiaeth ffibrosis systig newydd, Orkambi®, drwy’r GIG. Ym mis Tachwedd 2019 cytunodd Llywodraeth Cymru ar fargen i sicrhau bod Orkambi® a chyffur ffibrosis systig arall ar gael i gleifion trwy'r GIG yng Nghymru.

  •  P-05-817 Aelodau prosthetig arbenigol i blant

Galwodd y ddeiseb am gyllid i ddarparu prostheteg chwaraeon arbenigol i blant yng Nghymru. Yn ystod ystyriaeth y ddeiseb, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gronfa newydd i ddarparu prostheteg chwaraeon i blant a phobl ifanc yng Nghymru ym mis Hydref 2019.

  •  P-05-854 Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai

Roedd y deisebwyr yn galw am ddarparu hyfforddiant ar anableddau dysgu i holl staff gofal iechyd yn dilyn marwolaeth eu brawd yn 2009. Yn ystod dadl yn y Cyfarfod Llawn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai hyfforddiant ymwybyddiaeth anabledd dysgu yn cael ei ymgorffori yn y rhaglen hyfforddi graidd ar gyfer yr holl staff gofal iechyd fel rhan o hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth gorfodol, wedi'i gefnogi gan hyfforddiant wedi'i dargedu'n fanylach ar gyfer staff mewn rolau allweddol. 

  • P-05-1137 Galwad ar i Lywodraeth Cymru roi cyllid teg i Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Cododd y ddeiseb bryderon ynghylch toriadau posib i'r gweithlu a gwasanaethau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn ystod ystyriaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid ychwanegol ar gyfer y Llyfrgell ar gyfer 2020-21 a 2021-22 a'i bwriad oedd cefnogi argymhellion allweddol i'w chynaliadwyedd yn y dyfodol.

 

Mae’r adroddiad yn cynnwys rhagor o fanylion am rai o’r deisebau mwyaf nodedig a'u canlyniadau.