Aelodau'r Cynulliad yn pleidleisio i gyflwyno Bil Senedd Cymru ac Etholiadau.

Cyhoeddwyd 10/10/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/10/2018

Mae Aelodau'r Cynulliad wedi cytuno o 44 pleidlais i 1 gyda 3 phleidlais wedi ymatal i ganiatáu i Gomisiwn y Cynulliad gyflwyno Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru).

Senedd 

 Bydd Comisiwn y Cynulliad nawr yn cyflwyno Bil ar ddechrau 2019 i:

  • newid enw'r Cynulliad i Senedd Cymru / Welsh Parliament;

  • gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Cynulliad i 16;

  • diwygio'r gyfraith sy'n ymwneud ag anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o'r Cynulliad; a

  • gwneud newidiadau eraill i drefniadau etholiadol a threfniadau mewnol y Cynulliad.

Mae Comisiwn y Cynulliad yn bwriadu gweithredu'r newidiadau hyn erbyn 2021.

Dywedodd Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 "Mae'r bleidlais bwysig hon yn rhoi Cymru ar y trywydd cadarn i bleidleisiau yn 16 oed gael ei wireddu ar gyfer etholiadau yr wyf yn gobeithio fydd yn Senedd Cymru yn 2021.

"Bydd gostwng yr oed pleidleisio i 16 oed yn rhoi llais cryfach i bobl ifanc yn nyfodol ein cenedl. Rhoi'r bleidlais i bobl 16 oed ac ailenwi'r Cynulliad yw'r cam cyntaf mewn rhaglen o ddiwygio ehangach i wneud ein senedd yn ddeddfwrfa fwy effeithiol, hygyrch ac amrywiol sy'n adlewyrchu'n llawn y cymunedau a'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu."

Bydd y Bil yn destun gwaith craffu, ymgynghori a dadl drwyadl wrth iddo fynd trwy broses ddeddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol. Bydd angen uwch-fwyafrif o 40 o Aelodau i bleidleisio o blaid y Bil cyn iddo ddod yn gyfraith.


Cewch wybod rhagor am y Bil a beth fydd yn digwydd nesaf yma cynulliad.cymru//DiwygiorCynulliad