Ei Mawrhydi y Frenhines yn talu teyrnged i bobl Cymru yn Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd

Cyhoeddwyd 14/10/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/10/2021   |   Amser darllen munudau

Cafodd y caredigrwydd a ddangoswyd mewn cymunedau ledled Cymru yn ystod dyddiau anoddaf pandemig COVID-19 ei ddathlu yn Agoriad Swyddogol y Senedd, gyda Hyrwyddwyr Cymunedol COVID – pobl a aeth allan o'u ffordd i helpu neu i godi gwên yn eu cymunedau dros y 18 mis diwethaf – yn bresennol.

Roedd Ei Mawrhydi y Frenhines a'u Huchelderau Brenhinol Tywysog Cymru a Duges Cernyw yn bresennol, a chawsant gyfle i gwrdd â rhai o’r arwyr cymunedol yn y Senedd.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys perfformiadau rhithwir a byw, a oedd yn dangos pwysigrwydd lleisiau pobl o ran llywio democratiaeth yng Nghymru, ac a oedd yn cynrychioli’r gobeithion a’r dyheadau ar gyfer tymor nesaf y Senedd.

 

Ffion Gwyther, un o Hyrwyddwyr Cymunedol COVID y seremoni, yn rhoi tusw o flodau i Ei Mawrhydi y Frenhines

 

Wrth annerch Aelodau sydd newydd eu hethol i’r Senedd, dywedodd Ei Mawrhydi y Frenhines:

"Mae arnom oll ddyled fawr o ddiolch i'r rhai sydd wedi ymateb mewn ffordd mor arwrol i’r heriau a welwyd dros y 18 mis diwethaf, yn weithwyr allweddol a gwirfoddolwyr sydd wedi gwneud cymaint i wasanaethu eu cymunedau. Maent yn enghreifftiau disglair o'r ysbryd y mae pobl Cymru mor enwog amdano, ysbryd yr wyf innau wedi ei phrofi'n bersonol nifer fawr o weithiau.

"Rwyf yn falch bod Tywysog Cymru a Duges Cernyw, ynghyd â Dug a Duges Caergrawnt, wedi cael cartrefi yng Nghymru ac wedi profi’r ymdeimlad arbennig o gymuned sy’n bodoli yma.

“Mae gan bobl Cymru gymaint o bethau i ymfalchïo ynddynt a, thros y pum mlynedd nesaf, rwy’n siŵr y byddwch yn parhau i gael eich ysbrydoli gan eu hysbryd anorchfygol wrth ichi gynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, ac wrth i chi ddeddfu dros Gymru a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.”

 

Plant o Ysgol Gynradd Mount Stuart ym Mae Caerdydd yn croesawu'r Frenhines.

 

Elin Jones AS, Llywydd y Senedd:

"Heb os nac oni bai, bydd ein gwaith fel Senedd y tymor nesaf yn canolbwyntio ar adferiad ar ôl y pandemig COVID. Ond, yn ogystal, bydd nifer o heriau a chyfleoedd eraill, o chwarae rhan flaenllaw wrth daclo newid hinsawdd i hybu cydraddoldeb a thegwch i bawb yng Nghymru.

"Boed felly i'n chweched Senedd fod yn gynhyrchiol ac yn arloesol, a gadewch inni, bob amser, barchu ein gilydd fel Aelodau a'r bobl rydym yn eu cynrychioli."

 

Shahzad Khan, Cludwr y Byrllysg, yn arwain yr orymdaith i fyny grisiau’r Senedd.

 

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru:

"Rydym yn ymgasglu ar gyfer y chweched Senedd hon yng nghysgod pandemig y coronafeirws, pandemig sydd wedi creu cymaint o dristwch i gymaint o deuluoedd ar draws Cymru.  Rydym yn meddwl am bob un ohonynt heddiw.

"Wrth inni edrych tu hwnt i'r pandemig, rydym yn cydnabod ein bod yn dal i wynebu llawer o heriau, ond hefyd nifer o gyfleoedd ar gyfer dyfodol mwy disglair.

"Byddwn yn defnyddio ein pwerau i gyd i hybu ffyniant, cydraddoldeb a llesiant i bawb yng Nghymru. Ac i droi ein golwg at argyfwng mawr arall ein hoes, yr her o ran newid yn yr hinsawdd a cholli ein natur a bioamrywiaeth."