Mae angen gweithredu cryfach i atal y defnydd heb ei reoleiddio o faglau yng Nghymru, yn ôl pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol.
Canfu'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig nad yw'r Cod arfer gorau ar y defnydd o faglau wrth reoli cadnoid a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn cael ei orfodi mewn llawer o achosion, ac nad oes llawer o dystiolaeth i ddangos ei fod yn gweithio.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod maglau hunan-gloi wedi'u gwahardd am resymau lles gan eu bod wedi'u cynllunio i dynhau wrth i anifail dynnu, tra bod maglau rhydd-redeg wedi'u cynllunio i lacio. Fodd bynnag, maent yn ddiwahân iawn ac yn dal llawer o anifeiliaid nad ydynt yn blâu gan gynnwys moch daear ac anifeiliaid anwes. Yn bwysig, nid oes digon o wybodaeth am faint o anifeiliaid a pha fath sy'n cael eu dal mewn maglau.
"Mae maglu yn ddull o reoli plâu sy'n peri risg i les y rhywogaethau targed a rhywogaethau eraill," meddai Mike Hedges AC, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
“Rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru, ac eraill, yn eu hymdrechion i annog pobl i'w defnyddio'n ofalus, yn bennaf drwy weithredu'r ‘Cod ar yr arfer orau wrth ddefnyddio maglau i reoli cadnoid’.
“O ystyried y risg i les anifeiliaid, credwn ei bod yn hanfodol gwneud pob ymdrech i sicrhau bod tystiolaeth gadarn yn cefnogi polisïau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.
“Mae'r ymchwiliad hwn wedi dangos i ni fod bylchau sylweddol yn y data sydd ar gael er mwyn deall i ba raddau y defnyddir maglau yng Nghymru, pa mor effeithiol ydynt ac a ydynt yn rheoli plâu heb fod yn greulon.”
Gwnaeth y Pwyllgor yr argymhellion a ganlyn:
- Dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad blynyddol o’r Cod a chyhoeddi adroddiad ar yr adolygiad hwnnw.
- Os bydd yr adolygiad blynyddol o’r Cod yn dangos nad yw'n gweithio, yna dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno cosbau am beidio â chydymffurfio â’r Cod; ac
- Os bydd tystiolaeth yn dangos nad yw'r dull gwirfoddol wedi llwyddo, dylai Llywodraeth Cymru baratoi deddfwriaeth ddrafft i wahardd y defnydd o faglau.
Bydd yr adroddiad yn awr yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru.
Darllen yr adroddiad llawn:
Adroddiad ar ddefnyddio maglau yng Nghymru
(PDF, 595 KB)