Angen newid yn y GIG ond nid yw'r gyllideb yn cyflawni hynny, rhybuddia un o bwyllgorau'r Cynulliad

Cyhoeddwyd 04/12/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/12/2017

Mae Pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn adrodd ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi cyhoeddi ei ganfyddiadau, ynghyd ag adroddiadau gan chwech o bwyllgorau eraill y Cynulliad. 

Mae dau o bwyllgorau'r Cynulliad wedi codi pryderon ynghylch y cynnydd o ran trawsnewid gwasanaethau'r GIG. 

Nododd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon fod angen newid sylweddol er mwyn trawsnewid gwasanaethau'r GIG a gwella canlyniadau, ond nid yw'n glir a yw cyllideb Llywodraeth Cymru wedi'i thargedu i gyflawni hyn.  Amlygodd y Pwyllgor hefyd fod arian ychwanegol yn cynnal y sefyllfa bresennol yn hytrach nag ysgogi gwelliannau, tra bod y Pwyllgor Cyllid yn cytuno bod tystiolaeth gyfyngedig bod cynllunio ariannol byrddau iechyd lleol wedi gwella.

Rhybuddiodd y Pwyllgor Iechyd fod costau cynyddol gofal cymdeithasol ynghyd â galw cynyddol yn gofyn am sylw brys a bod angen edrych ar iechyd a gofal cymdeithasol yn ei gyfanrwydd.  Roedd y Pwyllgor Cyllid hefyd yn cydnabod bod cynnydd mewn cyllid ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn golygu toriadau mewn meysydd eraill, yn bennaf llywodraeth leol, cyrff sy'n aml â chyfrifoldeb dros y mwyafrif o ddarpariaeth gofal cymdeithasol.

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn egluro sut y caiff canlyniadau eu monitro i sicrhau nad yw cael gwared ar gyllidebau wedi'u clustnodi yn arwain at bobl sy'n agored i niwed yn syrthio rhwng y bylchau mewn gwasanaethau. 

Nododd y Pwyllgor Cyllid:

  • Er gwaethaf argymhelliad yng ngwaith craffu'r gyllideb y llynedd, dim ond cynnydd cyfyngedig sydd wedi bod yn cysylltu'r gyllideb â'r nodau a ffyrdd o weithio a osodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol;
  • Dylai cyllidebau drafft yn y dyfodol ddangos hefyd sut y bydd dyraniadau o arian y Llywodraeth yn cyflawni blaenoriaethau a amlinellwyd yn ei Rhaglen Lywodraethu a strategaeth genedlaethol, Ffyniant i Bawb.

Hefyd, mynegodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig bryderon ynghylch Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gan rybuddio Llywodraeth Cymru ei bod yn dal heb ddangos y newid trawsnewidiol a gafodd ei addo yn y ddeddfwriaeth a mynegodd siom ynghylch diffyg cynnydd yn ei gynnwys mewn polisi.  Rhybuddiodd y Pwyllgor ynghylch effaith gostyngiadau cyllid Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys gostyngiad o £10 miliwn mewn costau staff.

Gwnaeth Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau godi pryderon yn eu hadroddiad bod yr anghydfod gwerth £1 biliwn gyda Llywodraeth y DU dros y fasnachfraint rheilffyrdd yn parhau heb ei ddatrys yn y gyllideb hon.  Nododd y Pwyllgor y gellid defnyddio'r arian hwn i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i wasanaethau y gellid eu darparu i deithwyr rheilffyrdd yng Nghymru.

Mae gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg bryderon ynghylch y diffyg tryloywder mewn perthynas â'r cyllid sydd ar gael i ysgolion yng Nghymru, yn enwedig y dryswch ynghylch y swm o gyllid ychwanegol a ddarparwyd o gymharu â'r llynedd. Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda llywodraeth leol i sicrhau bod diogelwch cyllidebau ysgol yn trosglwyddo o gyfrifon yn y gyllideb i'r gwaith gwirioneddol mewn ysgolion.

Cododd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu bryderon nad yw cyfradd yr adnoddau sydd eu hangen i gyflawni strategaeth Cymraeg 2050, sy'n anelu at gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, wedi'u hystyried yn llawn.  Hoffai'r Pwyllgor weld mwy o eglurder ynghylch yr adnoddau a fydd eu hangen dros y tymor canolig a hwy.

Dywedodd Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid:

"Mae craffu ar y gyllideb hon wedi bod yn newid i bob un o'r Pwyllgorau yn y Cynulliad - mae'r Pwyllgor Cyllid wedi datblygu ei rôl i gynnal y Llywodraeth i gyfrif ar ei flaenoriaethau strategol lefel uchel, tra'n archwilio bwriadau'r Llywodraeth o ran codi refeniw a benthyca.

"Fodd bynnag, mae'n dda gweld bod rhai o'r materion sy'n dod o'r pwyllgorau polisi yn cyd-fynd â'n canfyddiadau; mae pryderon wedi codi ynghylch blaenoriaethau iechyd yn barhaus, yn aml ar draul llywodraeth leol. 

"Yn ogystal, rydym yn cael trafferth gweld effaith Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol, a gafodd ei godi gan aelodau'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Amgylchedd."

Ar 5 Rhagfyr, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal dadl ac yn pleidleisio ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.  Ar 19 Rhagfyr, bydd y gyllideb derfynol yn cael ei chyhoeddi.