Ardaloedd gwledig a phobl tlawd yn dioddef o we band eang ‘israddol ac annibynadwy’ - Pwyllgor Senedd

Cyhoeddwyd 01/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/08/2022   |   Amser darllen munudau

Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd yn rhybuddio bod pobl yng Nghymru yn cael eu gadael ar ôl gyda ‘we band eang israddol, annibynadwy’ sydd yn risgio ‘gwahardd pobl o fywyd modern’ oherwydd rhwystrau cael cysylltiad rhyngrwyd o ansawdd uchel.   

Roedd adroddiad diweddaraf y Pwyllgor yn edrych ar gysylltedd band eang yng Nghymru a chanfuwyd, er gwaethaf gwelliannau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, nad yw llawer o bobl yn gallu cael mynediad at gyflymder rhyngrwyd digonol.  

Er fod argaeledd we band eang yng Nghymru nawr yn 96%, mae ffigyrau o Ofcom yn dangos mai dim ond 63% o bobl sydd y neu hawlio.

Cymru Fynyddig 

Canfu'r adroddiad hefyd fod y ddarpariaeth band eang cyflym iawn ledled Cymru yn anwastad, ac ardaloedd trefol yw’r cyntaf i elwa ar gysylltedd gwell, ond mae llawer o ardaloedd gwledig yn parhau i fethu â chael mynediad at gysylltiad rhyngrwyd boddhaol.  

Mae Ofcom yn amcangyfrif na all tua 15,000 o leoedd gael gwasanaeth band eang o gyflymder lawrlwytho o 10Mbps o leiaf a chyflymder uwchlwytho o 1Mbps o rwydweithiau sefydlog neu ddi-wifr sefydlog.  

Mae Prosiect Gigabit Llywodraeth y DU yn brosiect gwerth £5 biliwn a gynlluniwyd i ddarparu rhyngrwyd cyflym a dibynadwy ledled y DU gyda 'Chynllun Taleb Band Eang Gigabit' a grëwyd i gefnogi ardaloedd gwledig gyda chostau gosod band eang cyflym.   

Ond mae topograffeg fynyddig Cymru yn golygu bod cyfran uwch o eiddo sy’n anodd eu cyrraedd yma o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU.  

Ac yn ôl Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, a roddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor, "mae cyllid y DU wedi methu ag adlewyrchu gwir gost ei gyflwyno yn nhirwedd Cymru”. Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, ac er bod hwn yn faes sydd heb ei ddatganoli, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid ychwanegol i gynllun y DU i “gau’r bwlch” yng Nghymru.   

O 31 Mawrth 2022, rhoddodd Llywodraeth Cymru y gorau i ychwanegu at y cynllun taleb band gigabit, ac mae hyn wedi arwain y Pwyllgor i alw ar Lywodraeth y DU i godi faint o gymorth sydd ar gael i unigolion a busnesau fynd i’r afael ag anghenion penodol yng Nghymru.  

Rhybuddiodd yr adroddiad, os na fydd ymgysylltu ystyrlon rhwng llywodraethau, nad oes dim byd i atal gweinyddiaeth y DU rhag creu cynllun nad yw’n diwallu anghenion Cymru eto.  

Cysylltiadau a Chost

Ers mis Mawrth 2020, gall aelwydydd nad ydynt yn gallu cael cyflymder lawrlwytho o 10 Mbps a chyflymder uwchlwytho o 1 Mbps ofyn am gysylltiad wedi'i uwchraddio gan BT o dan y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol.   

Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i BT wella'r cysylltiad am ddim os amcangyfrifir bod y gost osod yn is na £3,400 i'r cwsmer. Ond os yw'r gost yn fwy na'r cap o £3,400, rhaid i'r cwsmer dalu'r swm dros ben.  

Mynegodd y Pwyllgor bryderon difrifol y byddai hyn yn anfforddiadwy i lawer o bobl, yn enwedig yng nghanol argyfwng costau byw.  

Ac yn ôl Ofcom, amcangyfrifir bod 7,000 o leoliadau sy’n 'anodd eu cyrraedd' lle na fyddai’n bosibl gwarantu mynediad at gysylltiad band eang sefydlog, hyd yn oed gyda'r Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol.  

Cynhwysiant a fforddiadwyedd  

Clywodd y Pwyllgor mai un o'r amryw o resymau dros y ffaith nad oedd pobl yn manteisio ar fand eang cyflym iawn oedd y gost. Mae llawer o ddarparwyr rhyngrwyd yn cynnig pecynnau 'tariff cymdeithasol' sydd ond ar gael i bobl sy'n cael budd-daliadau'r llywodraeth, sy’n caniatáu iddynt gael bargeinion rhyngrwyd rhatach.  

Ond mae'r adroddiad yn amlygu'r ffaith bryderus mai dim ond 1.2% o'r rhai sy’n gymwys i gael 'tariff cymdeithasol' oedd wedi manteisio ar y cynllun, a allai adael miloedd o aelwydydd incwm isel yn talu mwy na’r disgwyl ar gyfer eu gwasanaeth band eang.   

Mae'r Pwyllgor yn cynnig y dylid cymryd camau i gynyddu nifer yr aelwydydd sy'n cofrestru ar 'dariffau cymdeithasol' drwy wneud y broses yn gliriach ac yn symlach. Nodwyd bod diffyg ymwybyddiaeth o 'dariffau cymdeithasol' yn fater pwysig a chynigiodd y Pwyllgor bod yn rhaid gwella’r broses o’u hyrwyddo, ac y dylid hyd yn oed ystyried cynnwys y rhai sy’n gymwys yn awtomatig.   

Yng ngoleuni’r argyfwng costau byw difrifol parhaus, mae’r Pwyllgor yn rhybuddio bod risg y bydd mynediad at fand eang yn dod yn foethustra na fydd llawer yn gallu ei fforddio.  

 


 

 Llyr Gruffydd AS

 Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, ye Amglychedd a Seilwaith

 

 

 

“Mae’n siomi rhywun yn ofnadwy i glywed bod llawer o bobl yng Nghymru o hyd heb fynediad at fand eang cyflym iawn. Yn enwedig yn sgil y pandemig, a’r ffaith bod mwy a mwy o’n bywydau’n digwydd ar-lein. Annhegwch pur yw’r ffaith bod disgwyl i gynifer o bobl mewn ardaloedd gwledig oddef band eang annibynadwy, israddol. Dylai cysylltiad â band eang cyflym iawn fod ar gael i bawb yng Nghymru, nid y rhai mewn ardaloedd trefol yn unol – ni ddylai gael ei ystyried yn beth moethus  

“Mae llawer o’r materion a gafodd sylw gennym yn rhai sydd heb eu datganoli, felly rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried ein hargymhellion a chyflwyno’r atebion sydd yn yr adroddiad hwn i Lywodraeth y DU – neu fe fydd y methiannau a nodir yn yr adroddiad hwn yn digwydd eto.   

“Gyda chostau byw’n cynyddu yn sydyn, rhaid i Lywodraeth y DU edrych ar frys ar godi lefel y cap o ran y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol a chynyddu’r nifer sy’n manteisio ar wasanaethau band eang sy’n cynnig ‘tariff cymdeithasol’. Os na fydd dim yn newid, yn ddiau fe welwn fwy o bobl yn cael eu cau allan o’r bywyd modern.”  

 


 

Mwy am y stori hon

Cysylltedd digidol - band eang Darllenwch yr adroddiad