Exhibition image

Exhibition image

Arddangosfa Biennale Fenis gan artist o Gaerdydd yn cyfarch pobl yn ôl i adeilad y Senedd

Cyhoeddwyd 16/07/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/07/2021   |   Amser darllen munudau

Profiad yr artist a anwyd yng Nghaerdydd, Sean Edwards, o gael ei fagu yn y ddinas yn yr 1980au yw'r ysbrydoliaeth ar gyfer arddangosfa gelf a fydd yn croesawu pobl yn ôl trwy ddrysau'r Senedd yr haf hwn.

Mae arddangosfa Undo Things Done, a fydd yn agor ddydd Llun 26 Gorffennaf, yn tynnu ar brofiad yr artist o’i fagwraeth ar ystâd tai cyngor; cipio a throsi'r hyn y mae'n ei alw'n gyflwr o 'beidio â disgwyl llawer' yn iaith weledol gyffredin; un sy'n dwyn i gof ffordd o fyw sy'n gyfarwydd i nifer fawr o bobl. 

Fel rhan o'r cyflwyniad yn y Senedd, sy'n cynnwys cwiltiau Cymreig, printiau, cerfluniau a ffilm, mae'r artist wedi ail-wampio Refrain, sef drama radio o 2019 a gyd-gynhyrchwyd gan National Theatre Wales ac a ysgrifennwyd ar gyfer Lily Edwards, mam yr artist, ac a berfformiwyd ganddi.

Bydd yr arddangosfa yn cael ei chynnal yn y Senedd rhwng dydd Llun 26 Gorffennaf a dydd Sul 5 Medi, a bydd angen i bobl archebu tocynnau ymlaen llaw drwy wefan y Senedd o ddydd Gwener 16 Gorffennaf.

Bydd pum slot amser yn cael eu cynnig ar gyfer ymweliadau bob diwrnod o'r wythnos, gyda phedwar slot ar y penwythnos. Mae hyn yn golygu y bydd adeilad y Senedd ar agor i'r cyhoedd saith diwrnod yr wythnos am y tro cyntaf ers iddo gael ei orfodi i gau ar ddechrau cyfnod clo cyntaf y pandemig ym mis Mawrth 2020.

Ymweliad cyntaf yr arddangosfa â dinas enedigol yr artist

Comisiynwyd Undo Things Done gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar achlysur y 58fed Arddangosfa Gelf Ryngwladol – La Biennale di Venezia – yr arddangosfa celf weledol fwyaf yn y byd, gyda'r partner arweiniol Tŷ Pawb, Wrecsam a Marie-Anne McQuay, y curadur gwadd.

Dyma'r tro cyntaf i'r arddangosfa ddod i ddinas enedigol yr artist yng Nghaerdydd. Mae hefyd wedi ymweld â Thŷ Pawb yn Wrecsam a'r Bluecoat yn Lerpwl.

Meddai Sean Edwards:

"Rwy’ mor falch bod arddangosfa Undo Things Done o'r diwedd yn gallu dychwelyd yn ôl i'r man y dechreuodd y cyfan. Mae'n golygu llawer bod y gwaith sydd wedi'i wreiddio gymaint yn y lleoliad hwn yn cael ei gyflwyno am y tro olaf yma ac y gall cynulleidfa leol ei weld, yn enwedig ar yr adeg hon, ac ar ôl y flwyddyn ddiwethaf.

“Ac wrth gwrs y ffaith y gall fy mam ei weld o’r diwedd, a oedd wedi gorfod perfformio o Gaerdydd yn ystod iteriad Fenis o’r sioe, ac yn methu mynd i weld yr arddangosfa wedi’i gosod. Rwy’n gobeithio y gall y cyflwyniad olaf hwn yn y lle hwn o bŵer a phenderfyniad gwleidyddol ddechrau sgyrsiau am lawer o'r materion y mae'r gwaith yn mynd i'r afael â nhw."

Ailagor y Senedd

Ar 29 Mehefin, cymerodd y Senedd y camau cyntaf tuag at ailagor i'r cyhoedd drwy agor yr oriel wylio. Mae pobl wedi gallu archebu sedd yn yr oriel i wylio dadleuon byw yn cael eu cynnal ddwywaith yr wythnos, bob prynhawn Mawrth a Mercher, yn y Cyfarfod Llawn yn y siambr drafod. Mae'r sesiynau hyn bellach wedi dod i ben wrth i'r Senedd fynd i mewn i doriad yr haf.

Mae cynnal arddangosfa Undo Things Done yn ailagor yr adeilad ymhellach. Bydd y gweithgaredd hwn ac unrhyw weithgaredd pellach yn cael eu hadolygu'n agos, a hynny’n unol â'r canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Er budd diogelwch rhag Covid, dim ond 15 o bobl ar y tro fydd yn cael dod i weld yr arddangosfa, a bydd ymwelwyr yn dilyn system unffordd o’i hamgylch. Mae canllawiau ar barhau i gadw pellter ac mae cyfleusterau hylendid a pheiriannau glanhau dwylo ar gael ym mhob rhan o’r adeilad.

Tra byddant yn yr adeilad, bydd pobl hefyd yn gallu gweld siambr ddadlau'r Senedd o'r oriel wylio, dysgu am adeilad a swyddogaeth y Senedd, a mwynhau’r caffi a'r siop hefyd.

I'r rhai sy’n methu dod i'r Senedd i weld yr arddangosfa, bydd taith fideo ar gael ar wefan a phlatfformau cyfryngau cymdeithasol y Senedd, ynghyd â rhith-daith 360 sy'n caniatáu i bobl ym mhedwar ban byd weld y tu mewn i'r Senedd.

Rhaid archebu tocynnau drwy wefan neu linell gyswllt y Senedd.