Stryd Bute Isaf, 1937 © anhysbys OWLS000339-8

Stryd Bute Isaf, 1937 © anhysbys OWLS000339-8

Arddangosfa Tiger Bay a’r Dociau: 1880au – 1950au

Cyhoeddwyd 04/07/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/07/2023   |   Amser darllen munudau

Yr haf hwn, anogir pobl o bob oed i ymweld â’r Senedd, lle mae arddangosfa newydd wedi ei llunio i ddathlu hanes a chymunedau Tiger Bay a’r dociau.

Mae’r Senedd, sydd wrth galon Bae Caerdydd a democratiaeth Cymru, yn cyflwyno straeon o’r cymunedau hyn mewn partneriaeth â’r Gyfnewidfa Treftadaeth a Diwylliant.

Mae tair arddangosfa newydd wedi’u llunio yn y Pierhead i roi cipolwg i ymwelwyr ar fywyd yn Tiger Bay a’r dociau rhwng y 1880au a’r 1950au.

Dewisodd y Gyfnewidfa rai o'i hoff luniau o'i chasgliad ac archifau lleol eraill i ddangos sut olwg oedd ar yr ardal yn y gorffennol a’r holl newidiadau ers hynny.

Ceir enghreifftiau o’r swyddi yr oedd pobl yn eu gwneud yn y dociau, sef ardal fasnachol ffyniannus Tiger Bay, yn ogystal â’r ystod eang o weithgareddau hamdden yr oedd trigolion y cymunedau lleol yn eu mwynhau. Byddwch hefyd yn gweld delweddau o ardal fasnachol lewyrchus Tiger Bay.

Gweithwyr yn Nociau Caerdydd, 1900au © anhysbys OWLS000339-12

Yn ogystal â theithiau cyhoeddus rheolaidd am ddim o amgylch y Senedd, mae’r Pierhead hefyd yn arddangos delweddau o adeilad y Senedd adeg ei dylunio a brasluniau cynnar y pensaer.

Mae’r Senedd ar agor i’r cyhoedd o ddydd Llun i ddydd Gwener: 09:00-16:30, dydd Sadwrn a gwyliau banc: 10:30-16:30 a dydd Sul ym mis Awst 10:30-16:30.