Bill Awtistiaeth yn llwyddiannus yn y balot ar gyfer Bil Aelod

Cyhoeddwyd 29/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/03/2017

​Cynnig i gyflwyno Bil Awtistiaeth sydd wedi bod yn llwyddiannus ym malot diweddaraf Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Bil Aelod.

Mae'r cynnig, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cynulliad dros Breseli Sir Benfro, Paul Davies:

“...yn darparu ar gyfer diwallu anghenion plant ac oedolion sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig yng Nghymru, gyda'r nod o ddiogelu hawliau oedolion awtistig yng Nghymru a hyrwyddo'r hawliau hynny. Byddai'r Bil, hefyd, yn cydnabod y cyflwr yn statudol, gan fod awtistiaeth yn gyflwr ynddo'i hun.”

Dywedodd Mr Davies:

"Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i gyflwyno cynnig deddfwriaethol i ddarparu hunaniaeth statudol briodol i’r gymuned awtistiaeth. Rwy’n gobeithio gweithio gyda phob plaid yn y Cynulliad i weld y cynnig hwn yn dod yn realiti.

Mae hwn yn gyfle i'r gymuned awtistiaeth gael ei chlywed yn uchel ac yn glir – mae darparu Mesur Awtistiaeth, a all ategu strategaeth awtistiaeth Llywodraeth Cymru, yn hollbwysig i sicrhau bod y rhai yr effeithir arnynt gan y cyflwr yn cael y gofal a'r cymorth sydd ei angen arnynt mewn gwirionedd."

Mae gan Mr Davies tan 5 Mai i gyflwyno cynnig yn ceisio cytundeb y Cynulliad y gall gyflwyno Bil Aelod. Os bydd y Cynulliad yn cytuno i'w gynnig, bydd ganddo 13 mis i ddatblygu a chyflwyno ei Fil.

Mae balot Bil Aelod yn ffordd o ganiatáu i Aelodau unigol y Cynulliad gyflwyno deddfau arfaethedig.

Caiff pob Aelod o'r Cynulliad gyflwyno un syniad mewn balot Bil Aelod. Caiff eu syniad fod ar unrhyw beth y mae gan y Cynulliad y pŵer cyfreithiol i'w newid, yn eu barn hwy, ac eithrio trethiant.

Dewisir un o'r awgrymiadau ar hap.