Blwyddyn yn llawn pethau newydd Adroddiad Blynyddol y Senedd 2021-22

Cyhoeddwyd 30/06/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/07/2022   |   Amser darllen munudau

Heddiw, mae Comisiwn y Senedd yn cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon sy’n amlinellu’r hyn a gyflawnodd mewn blwyddyn fu’n llawn newydd-deb.

Yn ystod y flwyddyn brysur hon, bu tîm y Comisiwn wrthi’n gweithio’n galed i gefnogi’r 20 Aelod newydd yn dilyn etholiad y Senedd a’r agoriad swyddogol gan Ei Mawrhydi y Frenhines.

Yn dilyn etholiad y Senedd, fe wnaeth pobl ifanc o bob cwr o Gymru ethol Senedd Ieuenctid newydd i Gymru, sef dim ond yr ail gyfryw Senedd yn ei hanes. Mae eu gwaith o godi materion a dylanwadu ar y Llywodraeth bellach yn mynd yn eu flaen.

At hynny, mae timau allgymorth ac ymgysylltu’r Senedd – sy’n codi ymwybyddiaeth ac yn annog cyfranogiad – wedi ail-ddechrau ar eu gwaith hanfodol, gan ymweld â grwpiau cymunedol a gwrando ar farn pobl ledled Cymru.

Mae'r flwyddyn hon hefyd wedi bod yn edrych i'r dyfodol, gyda’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd yn ystyried amrywiaeth o faterion, gan gynnwys y ffordd y caiff Aelodau eu hethol yn ogystal â maint ac amrywiaeth y Senedd.

Mae’r adroddiad hefyd wedi cymeradwyo cyfrifon Comisiwn y Senedd sydd yn adlewyrchu ymrwymiad y sefydliad i ddefnyddio adnoddau cyhoeddus mewn modd darbodus a thryloyw.

Mae’r Comisiwn yn anelu at ddarparu cymorth seneddol o’r radd flaenaf – yn ogystal â gosod dinasyddion wrth wraidd popeth y mae’n ei wneud a defnyddio adnoddau’n gynaliadwy – ac mae’r adroddiad blynyddol yn nodi blaenoriaethau Comisiwn y Senedd ar gyfer y Senedd nesaf hon.

 

Siambr y Senedd

Y Gymraeg ar i fyny

Mae canran y cyfraniadau i drafodion y Senedd a wneir yn Gymraeg wedi cynyddu eto eleni – roedd bron i draean y cyfraniadau yn y Cyfarfod Llawn yn Gymraeg.

Mae hynny’n adlewyrchu’r gefnogaeth sydd ar gael i Aelodau gyfrannu yn eu dewis iaith.

Er mai’r norm yw cynnal trafodion yn ddwyieithog yn y Senedd – gyda llawer o gyfranogwyr yn teimlo’n hyderus ac yn gyfforddus wrth ddefnyddio’r ddwy iaith – mae’r Comisiwn wedi addo gwneud hyd yn oed mwy i annog hyder i ddefnyddio’r Gymraeg a deall unrhyw rwystrau.

Y nod yw sicrhau bod y patrwm cadarnhaol diweddar yn parhau.

Senedd garbon niwtral

Y llynedd, lansiwyd Strategaeth Carbon Niwtral y Senedd ac mae newidiadau i'r ystâd bellach ar waith, sy'n golygu bod ei dyfodol yn un carbon isel.

Mae’n gwaith i hyrwyddo gweithio hybrid a gweithio o bell yn dal i fynd rhagddo, gan wneud y gorau o’r manteision o ran llesiant a’r amgylchedd fel ei gilydd, sy’n deillio o hynny.

At hynny, mae’r Comisiwn yn cymryd camau i sicrhau bod teithio llesol a charbon isel i’r Senedd ac oddi yno – yn ogystal â’i weithleoedd – yn haws nag erioed.

 

Dywedodd  Elin Jones AS, Llywydd y Senedd:

“Mae cyflwyno Adroddiad Blynyddol Comisiwn y Senedd eleni’n destun balchder i mi, ar ôl ychydig flynyddoedd anodd. Mae adeiladau’r Senedd ar agor eto i gynnal busnes a gwaith allgymorth yn mynd rhagddo o’r newydd ym mhob cwr o’r wlad. At ei gilydd, mae’n teimlo fel ein bod wedi dod drwyddi gyda phobl Cymru.

“Byddwn yn parhau i archwilio'r gwersi a ddysgwyd o'r blynyddoedd blaenorol o weithredu o fewn cyfyngiadau Covid-19 fel ein bod yn manteisio ar yr hyn a weithiodd yn dda, er budd democratiaeth Cymru.

“Mae’n ddichon y byddwn ni’n gweld newidiadau mwy sylfaenol i’r Senedd ei hun, hefyd, yn y blynyddoedd sydd o’n blaenau.  Mae arnom angen Senedd sy’n adlewyrchu pobl Cymru’n well ac yn rhoi’r diwygiadau angenrheidiol ar waith.

“R’yn ni’n wynebu sawl her, boed hynny’n sgil adferiad yn dilyn y pandemig, newid hinsawdd neu hyrwyddo cydraddoldeb. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau Seneddol effeithiol er budd pobl Cymru.”

Ychwanegodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd:

“Drwy gydol y pandemig, daeth staff y Comisiwn o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o wneud yn siŵr bod busnes y Senedd wedi parhau i fynd rhagddo gyda chyn lleied o aflonyddwch â phosibl.

“Mae nifer o faterion wedi bod o dan chwyddwydr y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd; yn eu plith y modd y caiff Aelodau eu hethol yn ogystal â maint ac amrywiaeth y Senedd ac ry’n ni wedi bod wrthi’n cynllunio ar gyfer unrhyw ddiwygiadau yn y dyfodol allai newid sefydliad a wasanaethwn.

“Mae gwaethaf Covid-19 wedi pasio, ond mae heriau newydd wedi dod i’r amlwg. Mae’r Senedd eisoes yn ystyried effaith yr argyfwng mewn costau byw a’r modd y gall Cymru estyn llaw i’r rheini sy’n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin.

“Wrth ystyried yr holl heriau o dan sylw, ein rôl ni fel Comisiwn fydd cefnogi’r Aelodau wrth iddyn nhw geisio atebion yn ogystal â’u cefnogi i wasanaethu pobl Cymru.”

 


Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021-22

Mae'r Adroddiadau Blynyddol a Chyfrifon yn darparu gwybodaeth am ddiben, strwythur a nodau strategol Comisiwn y Senedd a rhai gweithgareddau allweddol a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

Gweld crynodeb ar-lein