Ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon

Rydym yn gwasanaethu’r Senedd i hwyluso ei llwyddiant hirdymor fel senedd gref, hygyrch, gynhwysol a blaengar sy’n gweithredu’n effeithiol ar gyfer pobl Cymru.

Yn ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon rydym yn rhoi manylion ynglŷn â sut rydym wedi datblygu gwaith ar flaenoriaethau Comisiwn y Senedd o dan ein nodau strategol.

Yn ogystal ag amlinellu ein perfformiad a’n cyflawniadau, mae’r Adroddiad yn rhoi trosolwg o’n gweithgareddau yn ystod y flwyddyn. Mae’n disgrifio sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud a sut mae adnoddau’n cael eu defnyddio. Mae ein cyfrifon yn rhan sylweddol o’r Adroddiad, ac fe’i lluniwyd yn unol â chanllawiau Trysorlys Ei Mawrhydi ac fe’i ardystiwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

LLYWYDD A PHRIF WEITHREDWR A CHLERC Y SENEDD

“Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau Seneddol effeithiol er budd pobl Cymru.”

Y Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS
Llywydd, Senedd Cymru

 

Lawrlwytho rhagair y Llywydd

Rt. Hon. Elin Jones MS


Drwy gydol y pandemig, daeth staff y Comisiwn o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o wneud yn siŵr bod busnes y Senedd wedi parhau i fynd rhagddo gyda chyn lleied o aflonyddwch â phosibl.

Manon Antoniazzi
Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

 

Lawrwytho cyflwyniad gan Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd

UCHAFBWYNTIAU

Cymorth seneddol o'r radd flaenaf

Dros y flwyddyn ddiwethaf, gwnaethom barhau i gefnogi'r Senedd i'w helpu i gyflawni dros bobl Cymru a'u cynrychioli.

O gynlluniau cyflawni corfforaethol newydd i symleiddio fframweithiau rheoleiddio, rydym wedi rhagori o ran cefnogi Aelodau i weithio'n effeithiol dros bobl yng Nghymru.

Darllenwch fwy

Siambr y Senedd
Llun o arddangosfa Windrush yn y Senedd

Rhoi chi wrth wraidd yr hyn a wnawn

Mae rhoi dinasyddion Cymru wrth wraidd yr hyn a wnawn bob amser wedi bod yn flaenoriaeth i ni, ac mae’n parhau i fod felly.

Eleni, gwnaethom ymgysylltu â phobl ledled Cymru i glywed profiadau go iawn, addasu ein rhaglen ymgysylltu i gynnwys digwyddiadau ar-lein, a chynhyrchu ymgyrch genedlaethol i annog pobl i gymryd rhan yn Etholiad y Senedd yn 2021.


Darllenwch fwy

Adnoddau cynaliadwy

Un o'n nodau allweddol yw defnyddio adnoddau’n gynaliadwy.

O leihau ein hôl troed carbon i adolygu ein cynhyrchiant, rydym yn cymryd cynaliadwyedd o ddifrif.

Ym mis Rhagfyr 2021, gwnaethom gyhoeddi ein Strategaeth Carbon Niwtral sy'n nodi ein cynllun i fod yn garbon niwtral net erbyn 2030.


Darllenwch fwy

Gwenynwr yn gofalu am wenyn ar do’r Pierhead.

ADRODDIADAU YCHWANEGOL

UCHAFBWYNTIAU

Ein Blwyddyn

Cymerwch gipolwg ar rai o brif ddigwyddiadau’r flwyddyn ddiwethaf wrth i ni dynnu sylw at ein huchafbwyntiau.


Lawrlwytho ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon diweddaraf