Rhaglen Interniaeth y Senedd 2021-22

Cyhoeddwyd 01/12/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2021   |   Amser darllen munudau

Mae nawr yn bosibl gwneud cais i Ymlaen, sef rhaglen interniaeth newydd â thâl yng Nghomisiwn y Senedd ar gyfer graddedigion o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig.

Gan weithio mewn partneriaeth â Chymrodoriaeth Windsor, mae'r Senedd yn cynnig pedwar lle ar y rhaglen hyfforddi 12 mis. Mae’r rhaglen yn cynnwys swyddi ym maes cyfathrebu, ymgysylltu â'r cyhoedd, trawsnewid strategol a gwasanaeth y pwyllgorau.

Bydd yr interniaid llwyddiannus yn hyfforddi wrth wraidd gwleidyddiaeth Cymru, gan ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth am y ffordd orau o ddysgu am, a chynorthwyo gweithle prysur a chyffrous lle mae deddfau Cymru yn cael eu llunio.

Dywedodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd:

“Credwn fod y gweithlu’n gryfach pan fydd yn adlewyrchu cymunedau modern ac amrywiol Cymru yn well.

“Mae hwn yn gyfle cyffrous i raddedigion ddatblygu eu sgiliau a’u dealltwriaeth mewn amgylchedd proffil uchel a chyffrous wrth galon democratiaeth Cymru.

“Byddwn i yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu i gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i'r Senedd.

Ychwanegodd Joyce Watson AS, Comisiynydd y Senedd sydd â chyfrifoldeb am gydraddoldeb:

“Mae'r rhaglen interniaeth hon yn ychwanegiad gwych at waith parhaus Comisiwn y Senedd i sicrhau bod ein gweithlu'n adlewyrchu amrywiaeth Cymru.

“Bydd y rhaglen yn cynnig mentora, hyfforddiant ac arweiniad gan weithwyr profiadol y Senedd.

“Bydd hefyd yn darparu cyfleoedd cyffrous ar gyfer meithrin sgiliau a datblygu gyrfa, a chael profiad amhrisiadwy o weithgareddau i helpu i baratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Y nod ar ddiwedd y rhaglen 12 mis yw bod gan yr interniaid y sgiliau, y profiad a'r gallu sydd eu hangen arnynt i barhau â'u gyrfaoedd naill ai yng Nghomisiwn y Senedd neu mewn man arall.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth a gwneud cais am yr interniaeth yma.