Senedd i bawb

Rydym wedi cymryd camau breision i hybu amrywiaeth a chynhwysiant, ac i sicrhau bod yr egwyddorion hyn wrth wraidd yr hyn a wnawn fel Senedd.

Os gwnaethom ddysgu unrhyw beth dros dymor y Senedd ddiwethaf, fodd bynnag, y wers yw na allwn fod yn hunanfodlon, gan fod llawer o waith i'w wneud o hyd.

Edrychwn ymlaen at adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd gennym drwy gydol y Chweched Senedd.

Uchafbwyntiau

Ein Huchafbwyntiau drwy’r flwyddyn

Eleni, rydym wedi parhau i wneud cynnydd tuag at fod yn sefydliad mwy cynhwysol.

Dyfarnodd y Rhwydwaith Cyflogwyr ar gyfer Cydraddoldeb a Chynhwysiant wobr arian i'r Senedd yn y cynllun meincnodi Cynhwysiant Talent a Gwerthuso Amrywiaeth (Talent Inclusion and Diversity Evaluation – TIDE).

Unwaith eto, mae Comisiwn y Senedd wedi ei enwi yn un o’r deg cyflogwyr gorau o ran bod yn ystyriol o deuluoedd yn y DU.

Casglwyd a dadansoddwyd data cefndir economaidd-gymdeithasol ar gyfer ymgeiswyr am swyddi.

Parhau i leihau bylchau cyflog rhwng y rhywiau ac ethnigrwydd, ac eleni cyflwynwyd adroddiadau ar fylchau cyflog o ran anabledd.

Cafwyd gwell cyfraddau trosi, o’r cam cyfweliad i’r cam cynnig swydd, ar gyfer ymgeiswyr anabl a lleiafrifoedd ethnig.

Cynnydd yn nifer y ceisiadau gan bobl sy'n nodi eu bod yn draws ar gyfer rolau allanol.

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwneud Busnes y Senedd yn gynhwysol

Mae cydweithwyr ar draws y sefydliad yn gweithio’n arloesol i gynnwys amrywiaeth a chynhwysiant yng ngwaith ein Senedd.

O’n Rhaglen Effeithiolrwydd y Pwyllgorau i gynyddu amrywiaeth yr arbenigedd ymchwil, gwnaethom gynnydd mawr o ran gwneud Busnes y Senedd yn fwy cynhwysol eto.


Darllenwch ragor am Fusnes

Aelodau o’r Senedd yn eistedd yn Siambr y Senedd
Unigolyn ar alwad fideo ar liniadur gyda sawl person

Allgymorth ac ymgysylltu

Fel corff seneddol, mae'n bwysig bod y Senedd yn cynrychioli holl bobl Cymru a bod gan bawb fynediad at ein gwaith, ein hadeiladau a'n gwybodaeth.

Fel y llynedd, oherwydd y pandemig Covid-19, rydym wedi addasu ein gweithgareddau ymgysylltu o weithgareddau wyneb yn wyneb i weithgareddau rhithwir.


Darllenwch ragor am Allgymorth

Ein Pobl

Mae amrywiaeth a chynhwysiant wedi'u cynnwys ym mhob un o'n prosesau pobl.

Drwy gydol y pandemig, mae ein timau ar draws Comisiwn y Senedd wedi parhau i gydweithio i ddarparu Senedd ddiogel a chynhwysol.

Yn ei dro, mae llesiant a diogelwch ein gweithlu yn parhau’n flaenoriaeth gennym.


Darllenwch ragor am ein pobl

Unigolyn yn gweithio ar gyfrifiadur wrth ddesg derbynfa’r Senedd

Adroddiadau ychwanegol


Lawrlwythwch ein hadroddiadau diweddaraf