Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022

Cyhoeddwyd 22/02/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/03/2022   |   Amser darllen munudau

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn:

Gofal plant a chyflogaeth rhieni – rhwystrau a chyfleoedd

Yn ystod y pandemig fe wnaeth mamau â phlant ifanc sôn eu bod wedi gwneud llawer mwy o ofal plant a chynnal llawer mwy o addysg ar yr aelwyd na thadau, eu bod wedi gweithio llai o a cholli enillion. Mae rhwystrau yn sgil darpariaeth gofal plant annigonol yn creu rhwystrau i rieni, yn enwedig menywod, sy’n ceisio ailymuno â’r farchnad lafur a gwneud cynnydd yn eu gyrfâu, sef y prif factor o ran y bwlch cyflog rhwng y rhyweddau.

Beth am ymuno â'r digwyddiad rhithwir hwn fel rhan o ymdrechion y Senedd i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (IWD) 2022? Yn y digwyddiad fe fydd ein panel o siaradwyr yn rhannu profiadau o ofal plant a chyflogaeth rhieni ledled Cymru, ac yn trafod yr hyn y gellir ei wneud i oresgyn yr heriau wrth ddadansoddi adroddiad mwyaf ddiweddar y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ‘Gwarchod y dyfodol: Y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio’.

Dan gadeiryddiaeth Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, Jenny Rathbone AS, bydd ein panel o siaradwyr yn clywed gan gynrychiolwyr o'r sector, rhieni a chyfranwyr i'r ymchwiliad, ac aelodau'r Pwyllgor.