Bydd arolwg newydd yn gofyn i bobl yng Nghymru pa fater y maen nhw'n meddwl y dylai un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol ymchwilio iddo.
Yn dilyn arolwg llwyddiannus blaenorol, a arweiniodd at ymchwiliad i ariannu addysg cerddoriaeth a mynediad ati, mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu unwaith eto yn gofyn i bobl fwrw eu pleidlais.
Mae'r Pwyllgor wedi dewis saith pwnc a gymerwyd o awgrymiadau a wnaed yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus yn 2016 a materion eraill sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod y Cynulliad hwn.
Caiff yr arolwg ei gynnal dros yr haf, ac mae'r Pwyllgor yn gobeithio ymchwilio i'r pwnc buddugol fel un o dri yn ddiweddarach eleni.
Y pynciau i'w dewis o'u plith yw:
Llenyddiaeth yng Nghymru;
Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru mewn ysgolion;
Cynnwys y gymuned wrth amddiffyn treftadaeth Cymru;
Cefnogi ffurfiau celf unigryw a thraddodiadol Cymru;
Gwella amrywiaeth yn narpariaeth celfyddydau a diwylliant yng Nghymru a chynyddu'r niferoedd sy'n cymryd rhan;
Defnyddio'r celfyddydau i wella iechyd a llesiant; ac
- y Gymraeg yn y byd digidol
"Ar ddechrau'r Cynulliad hwn, fe wnaethom ni ofyn i bobl ddewis yn ddemocrataidd un o'r pynciau y dylai'r Pwyllgor ymchwilio iddo.
"Fe wnaethom ni gynnal arolwg cyhoeddus agored, a daeth dros 2,600 o ymatebion i law. Fe bleidleisiodd pobl a phenderfynwyd y dylem ni gynnal ymchwiliad i addysg cerddoriaeth.
"Cyhoeddwyd ein hadroddiad ym mis Mehefin, ac rwy'n meddwl i ni wneud cyfres o argymhellion cryf iawn i Lywodraeth Cymru.
"Byddwn ni'n cychwyn tri ymchwiliad newydd yn yr hydref. Eto, caiff un o'r rhain ei ddewis drwy broses ddemocrataidd agored lle gall pobl bleidleisio am eu dewis o blith saith ymchwiliad posibl.
"Byddwn hefyd yn gofyn i'r cyhoedd awgrymu meysydd eraill i'r Pwyllgor eu hystyried dros y tymor hwy."
Gall pobl bleidleisio, naill ai ar-lein, neu drwy bleidleisiau papur yn y Senedd.
Bydd yr arolwg yn cau ddydd Llun 8 Hydref a gall pobl gael rhagor o wybodaeth am waith y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar ei dudalennau gwe neu drwy Twitter.
Chi sy’n penderfynu
Mae ein Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu am i chi bleidleisio ar bwnc y byddant yn ymchwilio iddo dros y flwyddyn nesaf.