Interniaeth newydd, 'Ymlaen'

Interniaeth newydd, 'Ymlaen'

Comisiwn y Senedd i sicrhau bod y gweithlu’n adlewyrchu amrywiaeth Cymru gyda chynllun interniaeth newydd

Cyhoeddwyd 25/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2022   |   Amser darllen munudau

Mae Comisiwn y Senedd wedi croesawu pedwar intern ar ei gynllun interniaeth newydd, 'Ymlaen'. 

Mae'r cynllun yn darparu interniaeth â thâl i raddedigion o gefndir Pobl Dduon, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig wrth wraidd gwleidyddiaeth Cymru . Yn ystod yr interniaeth, byddant yn meithrin sgiliau a datblygu gwybodaeth mewn gweithle cyffrous lle mae cyfreithiau Cymru'n cael eu gwneud.  

Mae'r cynllun yn rhan o ymrwymiad y Senedd i ddenu talent o amrywiaeth eang o gefndiroedd a chydnabod gwerth adlewyrchu amrywiaeth Cymru yn ei gweithlu. 

Mae'r pedair rôl o fewn y timau Cyfathrebu, Ymgysylltu a Phwyllgorau'r Senedd, a byddant yn parhau am gyfnod o 12 mis.   
 
Dywedodd Abida Khatun, un o'r ymgeiswyr llwyddiannus ar y cynllun:  

"O'r cychwyn cyntaf, mae gwerthoedd craidd Comisiwn y Senedd, 'Parch' 'Angerdd' a 'Balchder' wedi'i atseinio gyda mi. 
 
"Fel menyw Fwslimaidd, Brydeinig/Bangladeshaidd, rwy'n gobeithio bod yn llais i'm cymuned a'm cymunedau nad ydynt efallai'n gwybod llawer am waith y Senedd a dangos pa mor bwysig yw'r gangen hon o'n cymdeithas. Mae’n bwysig i mi fy mod yn annog meddylfryd o fewn ein cymunedau, o 'os ydyn nhw'n gallu gwneud hynny, dwi'n gallu gwneud hynny." 
 
Mae'r cynllun yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Chymrodoriaeth Windsor, sef elusen sy'n arbenigo mewn rhaglenni arloesol o ddatblygu personol ac arweinyddiaeth, sy'n galluogi talent o gymunedau amrywiol i gael eu gwireddu.   
 
Dywedodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd: 

“Mae hwn yn gyfle cyffrous i raddedigion feithrin eu sgiliau a gwella eu dealltwriaeth mewn amgylchedd proffil uchel a chyffrous sydd wrth galon democratiaeth Cymru. 
 
"Rydym yn falch y bydd y cynllun yn mentora, hyfforddi a darparu cyfleoedd cyffrous i Lukas, Abida, Afsana a Suad i feithrin sgiliau a datblygu eu gyrfaoedd, gyda chyfle amhrisiadwy i gymryd rhan mewn gweithgareddau i helpu i baratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Yn yr un modd, rydym yn ffodus eu bod wedi dewis dilyn eu hinterniaethau gyda Chomisiwn y Senedd - rydym wrth ein boddau! 

“Gwyddom fod ein gweithlu’n gryfach pan mae’n adlewyrchu cymunedau amrywiol Cymru yn well.”