Costau byw yn effeithio ar bresenoldeb disgyblion

Cyhoeddwyd 14/11/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/02/2023   |   Amser darllen munudau

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd wedi clywed tystiolaeth sy’n peri pryder ynghylch sut mae’r argyfwng costau byw yn effeithio ar bresenoldeb disgyblion yn yr ysgol. Mae’r Pwyllgor yn galw am astudiaeth frys gan Lywodraeth Cymru er mwyn deall yn well y problemau sy’n wynebu teuluoedd.

Cafodd materion fel costau teithio, gwisg ysgol, offer a thripiau ysgol eu nodi gan y rhai a roddodd dystiolaeth i’r Pwyllgor.

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, er enghraifft, wrth y Pwyllgor fod y ffigurau presenoldeb yn “sylweddol is” i blant mewn grwpiau blwyddyn nad oes ganddynt hawl i gludiant am ddim. Galwodd am gymryd camau i ymestyn hawliau a dywedodd nad yw rhywfaint o’r cymorth ar gyfer teithio yn addas i’r pwrpas. 

Dywedodd y Comisiynydd Plant hefyd fod angen ystyried absenoldeb cyson yng nghyd-destun tlodi. Dywedodd fod angen i drechu tlodi plant “fod yn sbardun allweddol wrth leihau absenoldeb o’r ysgol.”

Ym mis Hydref 2022, mae cyfraddau presenoldeb ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol yn dangos presenoldeb isaf ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 11 a phresenoldeb uchaf ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 7. Mae presenoldeb wedi bod yn uwch ar gyfer disgyblion sydd ddim yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o gymharu â’r rhai sydd yn gymwys i gael i gael prydau ysgol am ddim, sef presenoldeb o 93.1% o gymharu â phresenoldeb o 86.9%. Y rheswm mwyaf cyffredin a roddir dros absenoldeb yw salwch.

Mewn ymateb i’r pryderon a nodwyd a’r heriau i rieni yn ystod argyfwng costau byw, mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu astudiaeth frys i ymchwilio sut mae’r argyfwng yn effeithio ar allu disgyblion i fynychu’r ysgol.

Effaith y pandemig

O’r dystiolaeth a gasglwyd gan y Pwyllgor, mae’n glir bod y pandemig a chau ysgolion wedi arwain at agwedd fwy derbyngar tuag at bresenoldeb ysgol is.

Awgrymai Cyngor Bro Morgannwg fod effaith newidiadau cymdeithasol ehangach, gyda’r newid i weithio gartref hefyd yn ffactor cyfrannol gan nad oedd presenoldeb yn gyfystyr â chyrhaeddiad na deilliannau mwyach.

Ychwanegodd Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru y bu gostyngiad sylweddol ym mhryder rhieni ar bwysigrwydd presenoldeb, a bod myfyrwyr hefyd o’r farn nad yw presenoldeb mor bwysig.

Ymgyrch gyhoeddus

Er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon eang ynghylch absenoldeb disgyblion a’r effaith y mae’n ei chael ar blant, mae’r Pwyllgor yn credu ei bod bellach yn hanfodol bod ysgolion, awdurdodau lleol, a Llywodraeth Cymru yn cydweithio ar ymgyrch gyhoeddus i atgyfnerthu negeseuon am bwysigrwydd presenoldeb yn yr ysgol.

Mae’r Pwyllgor yn galw am ymgyrchoedd lleol a chenedlaethol sy’n gadarnhaol ac yn rhoi negeseuon calonogol am bresenoldeb ysgol.

Dywedodd Jayne Bryant AS, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:

“Ni ellir diystyru effaith absenoldeb o’r ysgol ar bobl ifanc. Nid yn unig y mae’n effeithio ar gyrhaeddiad addysgol, ond gall hefyd gael effaith ar iechyd meddwl a llesiant.

“Mae’r pandemig wedi effeithio ar blant a phobl ifanc mewn sawl ffordd. Yn dilyn cau ysgolion a newid patrymau gwaith rhieni, rydym wedi clywed sut mae hyn hefyd wedi newid agweddau tuag at bresenoldeb yn yr ysgol.

“Mae anfon plant i’r ysgol hefyd yn fusnes drud i deuluoedd. Mae’n rhaid i rieni ddod o hyd i arian ar gyfer gwisg ysgol, llyfrau, technoleg, deunydd ysgrifennu, bagiau ysgol, tripiau ysgol, clybiau ar ôl ysgol. Mae diffyg cludiant am ddim hefyd yn broblem i lawer – mewn argyfwng costau byw gyda chwyddiant cynyddol, mae hyn yn mynd yn anoddach fyth bob dydd.

“Heddiw, rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â sut mae costau cynyddol yn effeithio ar bresenoldeb disgyblion ac i gychwyn ymgyrchoedd yn genedlaethol ac yn lleol i atgyfnerthu pwysigrwydd presenoldeb yn yr ysgol.”

Roedd ymchwiliad y Pwyllgor i absenoldeb disgyblion yn edrych ar y rhesymau a oedd eisoes yn bodoli dros absenoldeb a waethygwyd gan COVID-19:

  • Tlodi, anfantais a dysgwyr cymwys am brydau ysgol am ddim;
  • Anghenion dysgu arbennig ac ychwanegol;
  • Materion diwylliannol;
  • Dylanwad rhieni a theuluoedd ag anghenion cymhleth a lluosog
  • Gorbryder, iechyd meddwl a lles a materion ymddieithrio.

Mae hefyd wedi edrych ar resymau sy’n gysylltiedig â’r pandemig dros absenoldeb:

  • COVID-19 fel salwch, hunanynysu ac absenoldeb dan gyfarwyddyd ysgol;
  • Gorbryder, iechyd meddwl a materion lles;
  • yn gysylltiedig i bryderon iechyd;
  • yn gysylltiedig i bryderon addysg
  • Ymddieithrio ac agweddau mwy hamddenol at ddysgu a phresenoldeb

Yr adroddiad llawn