Plant a phobl ifanc

Plant a phobl ifanc

Rhaid i lesiant plant a phobl ifanc fod yn ganolog i adferiad COVID-19

Cyhoeddwyd 24/03/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/03/2021   |   Amser darllen munudau

Heddiw, mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn amlinellu'r camau allweddol y mae'n rhaid eu cymryd i gefnogi plant a phobl ifanc yn sgil y pandemig COVID-19.

Mae'r Pwyllgor wedi edrych yn fanwl ar effaith y pandemig ar fywydau plant a phobl ifanc, gan gasglu tystiolaeth gan arbenigwyr yn ogystal â phlant a phobl ifanc, a llunio rhestr o argymhellion.

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad fod yr effaith ar blant a phobl ifanc wedi bod yn arbennig o arwyddocaol. Mae’r Pwyllgor am sicrhau bod pob cyfle’n cael ei gymryd i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc wrth i ni ddod allan o'r pandemig, a sicrhau bod eu llesiant yn ganolog i holl waith cynllunio’r adferiad.

Yn ystod ei wythnosau olaf cyn Etholiad y Senedd, mae'r Pwyllgor wedi blaenoriaethu effaith cyfyngiadau COVID-19 ac mae'n nodi'r hyn y mae'n credu ddylai fod yn flaenoriaethau i Lywodraeth a Senedd nesaf Cymru.

Mae'r argymhellion yn canolbwyntio ar addysg statudol, iechyd meddwl a chorfforol plant a phobl ifanc, addysg bellach ac uwch, a phlant a phobl ifanc sy'n agored i niwed.

Mae’r argymhellion allweddol yn adroddiad y Pwyllgor yn cynnwys:

  • Sicrhau bod llesiant ac addysg plant a phobl ifanc yn ganolog i holl waith cynllunio’r adferiad
  • Cefnogi cynnydd ymhlith plant a phobl ifanc agored i niwed a difreintiedig, gan gynnwys y rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, plant o aelwydydd incwm isel eraill, y rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, gofalwyr ifanc, plant sydd wedi bod mewn gofal, a dysgwyr sy'n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol.
  • Cynyddu cyfleoedd ar gyfer gweithgaredd corfforol i blant a phobl ifanc, mewn cymunedau ac mewn ysgolion, i sicrhau'r buddion iechyd corfforol ac iechyd meddwl gorau posibl
  • Paratoi ar gyfer yr ymateb i unrhyw darfu pellach ar addysg (gan gynnwys addysg uwch ac addysg bellach) gan COVID-19, a’i ariannu, gan gynnwys unrhyw angen yn y dyfodol am addysgu o bell, gan ddysgu gwersi o'r deuddeg mis diwethaf.

Dywedodd Lynne Neagle AS, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:

“Mae COVID-19 wedi tarfu arnom ni i gyd yn fwy nag unrhyw beth arall rydyn ni wedi’i weld yn ein hoes, ond mae’r effaith ar ein plant a’n pobl ifanc wedi bod yn arbennig o arwyddocaol. Rydym am sicrhau bod pob cyfle’n cael ei gymryd i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc wrth i ni i gyd ddod allan o'r pandemig hwn, a sicrhau bod eu llesiant yn ganolog i holl waith cynllunio’r adferiad.

“Fel Pwyllgor, rydyn ni wedi blaenoriaethu’r gwaith o edrych ar effaith y pandemig ar ein plant a’n pobl ifanc ers mis Mawrth y llynedd. Wrth i ni agosáu at ddiwedd ein tymor, ac un flwyddyn ers i'r cyfnod clo cyntaf ddechrau, rydym wedi bod yn rhoi’r flaenoriaeth fwyaf i geisio lliniaru effaith COVID-19 ar ein plant a'n pobl ifanc.

“Rydyn ni wedi gwrando ar dystiolaeth amhrisiadwy gan blant a phobl ifanc sydd wedi byw drwy'r heriau, ac arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol eraill sydd wedi gweithio gyda nhw. Mae ein hadroddiad yn rhoi argymhellion i Senedd a Llywodraeth nesaf Cymru a fydd yn rhoi llesiant plant a phobl ifanc yn ganolog i adferiad COVID-19.”