Croesawu Arwyr Camp Lawn Cymru i’r Senedd

Cyhoeddwyd 18/03/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Bydd tîm rygbi cenedlaethol gwych Cymru, enillwyr y Gamp Lawn, yn cael eu croesawu i'r Senedd ym Mae Caerdydd ar Mawrth 18 i nodi eu tymor buddugoliaethus ym mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness.

 

Cipiodd y tîm y Gamp Lawn ar ôl curo Iwerddon 25-7 yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn ac ymestyn eu record i 14 buddugoliaeth ddilynol. 

 

Bydd Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Ann Jones AC, a'r Prif Weinidog, Mark Drakeford AC, yn croesawu'r chwaraewyr ac Undeb Rygbi Cymru i'r Senedd ym Mae Caerdydd am dderbyniad a gynhelir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru.

Yna bydd y garfan a'u tîm hyfforddi yn cael eu croesawu ar risiau'r Senedd a gwahoddir y cyhoedd i gyrraedd o 1700 er mwyn dathlu gyda nhw.

 

Meddai Dirprwy Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Ann Jones:  

 

"Ein braint ni yw croesawu tîm rygbi llwyddiannus Cymru yn ôl i'r Senedd i gael dathlu a dangos ein gwerthfawrogiad iddyn nhw. Mae eu llwyddiant yn ysbrydoliaeth i ni gyd ac yn gyfle i ni ymfalchïo yn noniau chwaraeon Cymru.
 
"Mae Warren Gatland a'i garfan wedi codi ein cenedl unwaith eto ac mae addas ein bod yn diolch iddynt am hynny."

 

Dywedodd Mark Drakeford:

"Mae hwn yn lwyddiant arall anhygoel i'r tîm wrth gwrs, gyda chefnogaeth wych cefnogwyr Cymru. Mae'n addas iawn ein bod yn dathlu'r gamp lawn hon gyda'n gilydd ac rwy'n gobeithio y bydd llawer ohonoch yn gallu ymuno â ni yn y dathliadau nos Lun.

"Am ddiweddglo Chwe Gwlad i Warren - teitl arall a'r Gamp Lawn am y trydydd tro sy'n record! Mae Cymru bellach wedi ennill 14 buddugoliaeth ddiguro mewn cyfres - record arall - ac ysbrydoliaeth i'n darpar chwaraewyr ar draws y wlad.

"Rwy'n dymuno'n dda i'r holl garfan am weddill y tymor wrth iddynt ddychwelyd i'w clybiau a'u rhanbarthau ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn Siapan yn ddiweddarach eleni yng Nghwpan y Byd."

 

Ychwanegodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips:

 

"Mae wedi bod yn Bencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness wych Gymru ac mae ennill gyda champ lawn yn y ffordd rydym wedi ei chyflawni wedi bod yn ddiweddglo anhygoel.

 

"Mae'r garfan a'r tîm rheoli wedi ein gwneud yn genedl falch ac rydym yn hynod ddiolchgar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am nodi'n llwyddiant a galluogi'r cefnogwyr i ymgynnull i ddangos eu cefnogaeth.

"Mae'n anrhydedd mae carfan 2019 yn ei haeddu, ac yn un bydd yn meddwl y byd i'r chwaraewyr.

 

"Yn yr un modd, mae cannoedd o unigolion ar draws rygbi Cymru wedi cyfrannu at y llwyddiant hwn a dylai pawb sy'n cymryd rhan yn y gêm ar bob lefel rannu perchnogaeth o'r cyflawniadau, a myfyrio gyda balchder ar ddiwrnod arbennig i'n gem genedlaethol."