Cwestiynau ynghylch anghydfod cyflogaeth gostus Amgueddfa Cymru

Cyhoeddwyd 09/11/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/11/2023   |   Amser darllen munudau

Roedd Llywodraeth Cymru yn ran o gytundeb setliad i gyn Gyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru ac mae’r achos yn codi cwestiynau difrifol am ei dull o lywodraethu cyrff hyd braich, yn ôl Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd.

Ymatebodd Cadeirydd y Pwyllgor i adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru sy’n amlygu gwendidau o ran llywodraethu a pherthnasoedd yn Amgueddfa Cymru, mewn perthynas ag anghydfod yn ymwneud â’r cyn Gyfarwyddwr Cyffredinol, David Anderson, a’r Llywydd, Roger Lewis.

Mae hefyd yn feirniadol o’r broses o wneud penderfyniad am y taliad setliad o £325,698 i’r cyn Gyfarwyddwr Cyffredinol.

Mae’r Pwyllgor yr un mor bryderus â’r Archwilydd Cyffredinol, ac yn ystod yr wythnosau nesaf bydd yn mynnu atebion oddi wrth Lywodraeth Cymru am ei rhan yn yr hanes hwn, a bydd hefyd yn cwestiynu’r Cadeirydd a’r Prif Weithredwr newydd ynghylch adfer sefydlogrwydd a datblygu gwelliannau yn yr amgueddfa.

Mark Isherwood AS yn y Siambr

Dywedodd Mark Isherwood AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus:

“Ers cryn amser, bu’r Pwyllgor yn bryderus am y modd yr oedd anghydfod ar lefel uwch yn Amgueddfa Cymru wedi gallu parhau, ac am y prosesau costus a arweiniodd at ei ddatrys yn y pen draw. Mae’r adroddiad damniol hwn gan yr Archwilydd Cyffredinol yn cadarnhau ein hofnau. 

“Ein prif bryder, fel Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd, yw cost hyn oll i’r pwrs cyhoeddus.

“Mae cyfanswm cost y setliad dal yn aneglur, ond mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn awgrymu ei fod dros £750,000, ar ôl talu costau cyfreithiol a chostau ymgynghori, gyda £325,698 o hwn wedi’i ddyfarnu i’r Cyfarwyddwr Cyffredinol ar ei ymadawiad. 

“Mae’n bryder nad oedd yr anghydfod wedi ei ddatrys ynghynt a’i fod wedi achosi costau syfrdanol, y gellid bod wedi osgoi rhai ohonynt.

“Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn codi nifer o gwestiynau ynghylch trefniadau llywodraethu, ac mi fydd y Pwyllgor yn chwilio am atebion yn ystod sesiynau craffu ar 16 a 29 Tachwedd.

“Rydym wedi codi pryderon yn y gorffennol am reolaeth Llywodraeth Cymru ar ei chyrff hyd braich, a ph’un ai a yw’r gweithdrefnau ar gyfer adrodd ar broblemau a materion dadleuol wedi gweithio. Rydym am wybod sut y caniatawyd i hyn ddigwydd o dan oruchwyliaeth Llywodraeth Cymru, a beth fydd yn digwydd nawr er mwyn osgoi i hyn ddigwydd eto gyda’r holl gyrff y mae ganddi gyfrifoldeb amdanynt.

“Cawsom ein hysbysu gyntaf am bryderon ynghylch y trefniadau llywodraethu yn yr Amgueddfa ym mis Ionawr 2022. Tra parhaodd yr anghydfod hwn, mae’n rhaid bod y staff wedi teimlo effaith hyn a’i fod wedi amharu ar gynnydd y sefydliad a’i ddull o ddarparu gwasanaeth i’r cyhoedd.

“Amgueddfa Cymru yw un o brif sefydliadau Cymru, wrth wraidd treftadaeth a diwylliant ein gwlad. Yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor, rydym am wybod sut mae’r Cyfarwyddwr Cyffredinol a’r Llywydd presennol yn bwriadu sicrhau sefydlogrwydd yn y sefydliad hynod werthfawr hwn, ac adfer ei enw da.”

Ddydd Iau, 16 Tachwedd, bydd Cadeirydd a Phrif Weithredwr presennol Amgueddfa Cymru, Kate Eden a Jane Richardson, yn ymddangos gerbron Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd. Hwn fydd y tro cyntaf iddyn nhw fod yn destun craffu gan y Pwyllgor, a bydd y Pwyllgor yn dymuno cael sicrwydd ynghylch sut y maent yn bwriadu gweithredu yn y dyfodol ac ail-ennyn hyder o ran yr Amgueddfa.

Bydd Llywodraeth Cymru yn destun gwaith craffu gan y Pwyllgor ar ddydd Mercher, 29 Tachwedd, pan fydd yn ateb cwestiynau am brosesau ar gyfer mynd i’r afael â phroblemau mewn sefydliadau fel Amgueddfa Cymru a chyrff hyd braich eraill.