Cyflwyno rhwydwaith ffôn 5G - Cymru mewn perygl o gael ei gadael ar ôl

Cyhoeddwyd 24/01/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/01/2019

Mae Cymru mewn perygl o gael ei gadael ar ôl yn y broses o gyflwyno'r rhwydwaith symudol diweddaraf oni bai bod Llywodraeth Cymru yn dwysáu ei hymdrechion.

woman-phone 

Mae Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad Cenedlaethol wedi bod yn adolygu Cynllun Gweithredu Ffonau Symudol Llywodraeth Cymru sy'n nodi'r hyn y bydd Gweinidogion yn ei wneud i sicrhau signal gwell drwy Gymru.

Mae disgwyl i rwydwaith symudol 5G newid bywydau pobl drwy gysylltu mwy o ddyfeisiadau clyfar a chynnig cysylltiad cyflymach. Bydd hefyd yn creu'r rhwydwaith y bydd ei angen i lywio ceir awtonomaidd.

Ond er bod signal 4G yn gwella yng Nghymru, dywedodd y Pwyllgor fod hyn yn sgil buddsoddiad gan rwydweithiau ffonau symudol yn hytrach nag unrhyw gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd.

Rhybuddiodd Mobile UK, sy'n cynrychioli prif weithredwyr rhwydwaith symudol y DU:

"2019 is the first expectation of the roll-out of the first commercial networks of 5G. So, we're at a point of almost just getting ourselves ready for 4G, when we've already moved on to the next technology. "

Mae'r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda darparwyr rhwydweithiau cyn gynted ag y bo modd i nodi'r problemau'n ymwneud â 5G a sut i'w datrys.

Mae cwmnïau ffonau symudol hefyd wedi galw am newidiadau i reoliadau cynllunio mewn perthynas â maint a lleoliad mastiau newydd. Gallai newidiadau ei gwneud yn haws i ddarparwyr rannu mastiau a sicrhau bod rhagor o ardaloedd yn cael signal a gellid hefyd lleihau costau.

Dywedodd darparwr rhwydwaith EE wrth y Pwyllgor:

"If you want to be able to share infrastructure, it needs to be large enough, big enough, to accommodate the equipment for multiple operators, and if, broadly, we are restricted to 15m high masts in Wales under permitted development rights, it makes that incredibly difficult. "

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cynnig caniatáu i ddarparwyr godi mastiau 25 metr o uchder mewn ardaloedd nad ydynt wedi'u gwarchod yng Nghymru. Clywodd y Pwyllgor y dylid cynyddu hyn i 30 metr a bod y drefn gynllunio yn Lloegr yn llawer mwy hyblyg yng nghyswllt codi mastiau.

Yn ôl Russell George AC, Cadeirydd y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, mae signal ffonau symudol yng Nghymru yn gyson waeth nag yw yng ngweddill y DU.

"The advent of 5G promises to further integrate technology into our lives through smart devices such as autonomous cars. It is critical therefore that Wales is not left behind in this new era."

"But while the country as a whole prepares for the next generation of mobile connectivity, there are still parts of Wales with no connection at all. That simply isn't good enough and it is crucial these not-spots are covered, particularly in remote, rural areas."

Mae'r Pwyllgor felly'n annog Gweinidogion i ymgysylltu â gweithredwyr y rhwydwaith, i drafod y problemau sy'n ein hwynebu a'r ffordd orau o'u datrys.

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 10 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru ganiatáu i fastiau uwch gael eu codi o dan y drefn gynllunio;

  • Dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu â gweithredwyr ffonau symudol cyn gynted ag y bo'n ymarferol i drafod y problemau sydd eu hatal rhag cyflwyno'r rhwydwaith 5G, ac i ystyried dulliau o ddatrys y problemau hynny drwy ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael iddi; ac,

  • Yn yr ardaloedd hynny nad yw'n hyfyw'n fasnachol i fynd ati i ddarparu'r rhwydwaith, dylai fod yn ofynnol i ddarparwyr wneud hynny fel rhan o'r fframwaith rheoleiddio y maent yn gweithredu ynddo, neu dylai'r hawl i ddarparu'r rhwydwaith gael ei roi'n ôl i'r sector cyhoeddus ar ôl cyfnod rhesymol.


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Diweddariad ar y Cynllun Gweithredu Ffonau Symudol (PDF, 768 KB)