Galw am ymyrraeth frys yn dilyn adroddiadau o “gamweithredu” ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cyhoeddwyd 23/02/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/02/2023   |   Amser darllen munudau

Mae angen ymyrraeth frys gan Lywodraeth Cymru i helpu i wneud gwelliannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn ôl Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd, yn dilyn adroddiadau am gamweithredu yn y Bwrdd.

Mae Mark Isherwood AS yn ymateb i adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 23 Chwefror) gan Archwilio Cymru sy’n honni bod methiant mewn perthnasoedd gwaith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i bob pwrpas “yn peryglu” gallu’r Bwrdd Iechyd i fynd i’r afael â’r heriau niferus y mae’n eu hwynebu.

Yn ôl Mark Isherwood AS: “Mewn cyfnod o heriau digynsail a phryderon hirdymor ynghylch perfformiad, ansawdd a diogelwch, mae’n ysgytwol darllen yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol am y diffyg cydlyniant ar frig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yr hyn sydd fwyaf brawychus yw'r effaith y mae hyn yn ei chael ar gleifion, gan nad ydynt yn cael y gwasanaethau iechyd sydd wir eu hangen arnynt.

“Unwaith eto rydym yn gweld bod methiant yn y berthynas rhwng uwch arweinwyr y Bwrdd Iechyd wedi peryglu ei allu i symud ymlaen. Yn syml, nid yw hyn yn ddigon da.

“Mae’r Pwyllgor yn amau a all y Bwrdd Iechyd wneud y gwelliannau angenrheidiol heb ymyrraeth allanol, a dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r Fframwaith Uwchgyfeirio ac Ymyrraeth presennol i gefnogi gwelliannau brys.

“Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn cadw llygad barcud ar y datblygiadau hyn ac yn gwneud gwaith craffu cynhwysfawr ei hun ar y materion hyn mewn modd amserol.”

Mae adroddiad Archwilio Cymru "Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd" ar gael arlein.