Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru - rhaid i Gymru fod yn barod ar gyfer pwerau treth incwm

Cyhoeddwyd 28/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/11/2018

Rhaid i Gymru fod yn hollol barod i godi refeniw o dreth incwm yn ôl Pwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol.

Money

Am y tro cyntaf, bydd tua £2 biliwn, bron i un rhan o bump o gyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei gynhyrchu o gyfradd Cymru o’r dreth incwm.

Mae'r Pwyllgor am gael sicrwydd bod rhagolygon y gyllideb mor gywir â phosib. Mae'n awyddus i Lywodraeth Cymru ddysgu gwersi o'r Alban, lle mae refeniw wedi cael ei oramcangyfrif yn y gorffennol.

Mae'r Pwyllgor hefyd am weld nifer y talwyr treth incwm yng Nghymru yn cael ei fonitro'n fanwl. Ar hyn o bryd, mae ansicrwydd ynghylch statws y 100,000 o bobl sy'n croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr i weithio.

"Mae cael cyfradd treth incwm yng Nghymru yn foment gyffrous yn ein hanes," meddai Llŷr Gruffydd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

"Mae'n brawf ein bod yn aeddfedu fel gwlad ddatganoledig ac yn cymryd mwy o reolaeth dros ein cyllidebau ein hunain a'n dulliau o godi refeniw.

"Rhaid inni fod yn hollol barod am y newid mawr hwn pan ddaw'r amser, gan ddysgu gwersi gan wledydd eraill, datblygu rhagolygon cywir a monitro nifer y trethdalwyr yng Nghymru yn ofalus."

Mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn werth mwy na £16 biliwn y flwyddyn ac fe'i defnyddir i ariannu ysbytai, gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion, y rhwydwaith trafnidiaeth ac awdurdodau lleol Cymru, ymhlith pethau eraill

Archwilir y gyllideb ddrafft hefyd gan bwyllgorau polisi a chraffu'r Cynulliad, sy'n gyfrifol am edrych yn fanwl ar y gwahanol bwerau datganoledig yng Nghymru.

Dywed y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y bydd gadael yr UE yn cael effaith enfawr ar ffermwyr yng Nghymru. Mae’n bryderus iawn ynglŷn â’r hyn sy'n ymddangos fel diffyg gwaith paratoi ar gyfer rhaglen gyllido newydd ar gyfer y Polisi Amaethyddol Cyffredin.

Bydd cefnogaeth yr UE i ffermwyr y DU yn dod i ben ar ôl gadael yr UE ond cafodd cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau newydd eu beirniadu’n llym gan undebau amaeth Cymru.

Serch hynny, bydd y cyfnod pontio i gynlluniau talu newydd yn dechrau yn 2021. Ond nid oes arian ychwanegol yng nghyllideb ddrafft 2019-20 ar gyfer modelu, treialu, nac ar gyfer rhoi cyngor i ffermwyr cyn dechrau'r cyfnod pontio hwnnw.

Nid yw'r Pwyllgor yn argyhoeddedig y gellir mynd i'r afael â hyn drwy gyllidebau presennol.

Croesawodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y cyhoeddiad o gyllid ychwanegol i ddarparu setliad arian gwastad i awdurdodau lleol, ac i godi'r cyllid gwaelodol i 0.5 y cant, ond mae'n cydnabod bod llywodraeth leol yn dal i wynebu gostyngiad mewn cyllid mewn termau real.

Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ddarparu cyllid i leihau digartrefedd ymhlith pobl ifanc mewn cylchoedd cyllidebol yn y dyfodol.

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn tynnu sylw at bryderon cynyddol ynglŷn â chyllido ysgolion yng Nghymru. Ers cyhoeddi'r gyllideb ddrafft, mae'r Pwyllgor yn croesawu'r ffaith bod cyllid sy’n dod o ganlyniad i gyhoeddiadau cyllideb y DU wedi’i ddyrannu i awdurdodau lleol, i ateb y gost o weithredu’r dyfarniad cyflog i athrawon ysgol.

Mae'r Pwyllgor yn galw am ragor o fanylion am y cyhoeddiad hwn ac am sicrwydd y bydd lefel gyffredinol y cyllid sydd ar gael ar gyfer addysg yn ddigonol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wrth y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon fod yn rhaid i drawsnewid gwasanaethau fod yn weithgaredd prif ffrwd i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol, ac mai eu harian craidd hwy fydd yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno newid.

Mae gan y Pwyllgor bryderon mawr ynghylch a fydd y GIG a'r gwasanaethau gofal cymdeithasol yn gallu cyflawni hyn, o ystyried y pwysau a nodwyd o ran galw a chostau, a methiant parhaus y rhan fwyaf o’r byrddau iechyd i fantoli’r cyfrifon.

Galwodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu am fwy o uchelgais gan Weinidog y Gymraeg.  Mae'r Pwyllgor yn pryderu nad yw'r gyllideb lle nad yw’r arian yn newid ar gyfer portffolio’r Gymraeg yn ddigonol i gyrraedd y targed uchelgeisiol, sef miliwn o siaradwyr erbyn 2050.  

Galwodd hefyd am fwy o eglurder ynghylch pryd y caiff Bil newydd y Gymraeg ei gyflwyno yn ystod y Cynulliad hwn.  Croesawodd y Pwyllgor gyflwr ariannol CADW sy’n gwella ac mae'n disgwyl y cyhoeddiad ar Amgueddfa Bêl-droed ac Oriel Gelf Gyfoes â diddordeb. Roedd yr Aelodau hefyd yn cymeradwyo dull gwasgaredig o ran cyflwyno ein cyflawniadau chwaraeon ac artistig.

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn codi cwestiynau ynglŷn â diffyg tryloywder yn ymwneud â gweithredu’r rhaglen prentisiaethau gwerth £115 miliwn. Mae am gael rhagor o fanylion ynglŷn â pham yr aeth arian Cronfa Bontio’r UE i gwmnïau mawr, yn hytrach nag i ddarparwyr hyfforddiant.

Mae'r adroddiadau ar y gyllideb ddrafft wedi'u cyhoeddi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol*. Cynhelir y ddadl ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth, 4 Rhagfyr.

*Oherwydd bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn cwrdd â'r pwyllgor wythnos yn hwyr oherwydd amgylchiadau annisgwyl, bydd y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau yn cyhoeddi ei adroddiad yr wythnos nesaf.

 

Hefyd, trafododd tri o bwyllgorau’r Cynulliad y mater o asesiadau effaith ar y gyllideb fel rhan o'u gwaith craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.

Nod asesiadau effaith ar y gyllideb yw darparu gwybodaeth am sut mae canlyniadau posibl penderfyniadau ariannol wedi'u hystyried a'u mesur, a sut mae hyn wedi dylanwadu ar ddyraniadau ariannol terfynol i wahanol feysydd.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae pwyllgorau’r Cynulliad wedi bod yn gynyddol rwystredig am ansawdd asesiadau effaith ar y gyllideb. Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (CYPE) a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau (ELGC) gyfarfod cydamserol i edrych ar y mater yn fwy manwl, gan gymryd tystiolaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ac Arweinydd y Tŷ.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Cadeiryddion y tri phwyllgor:

“Mae nifer o bryderon wedi bod gan bwyllgorau’r Cynulliad ynghylch ansawdd asesiadau effaith cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, a diffyg tystiolaeth glir o’u dylanwad ar benderfyniadau cyllidebol. O ganlyniad, cyfarfu’r Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ystod y rownd gyllidebol hon i graffu ar ddull Llywodraeth Cymru. Mae’r Pwyllgorau yn bwriadu adrodd ar y cyd a gwneud argymhellion i wella’r broses, gyda’r bwriad o ddylanwadu ar gyllidebau a gwariant yn y dyfodol.”

Bydd canfyddiadau'r tri phwyllgor yn cael eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd.

 


 

Darllenwch yr adroddiadau llawn:

Y Pwyllgor Cyllid - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20 (PDF, 1 MB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 (PDF, 809 KB)

 

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 (PDF, 196 KB)

 

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 (PDF, 650 KB)

 

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 (PDF, 317 KB)