Bydd Elin Jones AC, y Llywydd, yn cynnal y cyngerdd carolau blynyddol yn y Senedd i ddathlu tymor y Nadolig.
Cynhelir y cyngerdd carolau yn y Neuadd am 12.30 o’r gloch ddydd Mawrth, 13 Rhagfyr.
Bydd yn cynnwys perfformiad gan Ysgol Gynradd Dolau, Pont-y-clun, a fydd yn canu caneuon yn Gymraeg a Saesneg.
Bydd arweinwyr y pleidiau yn rhoi darlleniadau dwyieithog, bydd Caplan y Bae, y Parchedig Peter Noble, yn rhoi gweddi fer cyn diwedd y cyngerdd, a bydd Dai Lloyd AC yn cyflwyno gweddi yn Gymraeg.
Bydd trefn y cyngerdd carolau, sy’n dechrau am 12.30, fel a ganlyn:
12.30 | Cyngerdd carolau yn dechrau - y Llywydd i agor | Y Neuadd |
12.35 | Ysgol Gynradd Dolau i berfformio | Y Neuadd |
12.40 | Arweinwyr y Pleidiau i ddarllen darn o lenyddiaeth yn eu tro | Y Neuadd |
12.45 | Grŵp dysgwyr Cymraeg y Cynulliad i gyflwyno darlleniad | Y Neuadd |
12.50 | Band pres i arwain y carolau | Y Neuadd |
12.55 | Y Parch Peter Noble / Dai Lloyd AC i gyflwyno gweddi | Y Neuadd |
13.00 | Y Llywydd i gloi | Y Neuadd |
13.05 | Y Llywydd i addurno coeden Nadolig gyda phlant ysgol | Yr Oriel |