Cyngerdd carolau Nadolig blynyddol yn cael ei gynnal yn y Senedd

Cyhoeddwyd 12/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/12/2016

​Bydd Elin Jones AC, y Llywydd, yn cynnal y cyngerdd carolau blynyddol yn y Senedd i ddathlu tymor y Nadolig.

Cynhelir y cyngerdd carolau yn y Neuadd am 12.30 o’r gloch ddydd Mawrth, 13 Rhagfyr.

Bydd yn cynnwys perfformiad gan Ysgol Gynradd Dolau, Pont-y-clun, a fydd yn canu caneuon yn Gymraeg a Saesneg.

Bydd arweinwyr y pleidiau yn rhoi darlleniadau dwyieithog, bydd Caplan y Bae, y Parchedig Peter Noble, yn rhoi gweddi fer cyn diwedd y cyngerdd, a bydd Dai Lloyd AC yn cyflwyno gweddi yn Gymraeg.

Bydd trefn y cyngerdd carolau, sy’n dechrau am 12.30, fel a ganlyn:

​12.30​Cyngerdd carolau yn dechrau - y Llywydd i agor​Y Neuadd
​12.35​Ysgol Gynradd Dolau i berfformio​Y Neuadd
​12.40​Arweinwyr y Pleidiau i ddarllen darn o lenyddiaeth yn eu tro​Y Neuadd
​12.45​Grŵp dysgwyr Cymraeg y Cynulliad i gyflwyno darlleniad​Y Neuadd
​12.50​Band pres i arwain y carolau​Y Neuadd
​12.55​Y Parch Peter Noble / Dai Lloyd AC i gyflwyno gweddi​Y Neuadd
​13.00​Y Llywydd i gloi​Y Neuadd
​13.05​Y Llywydd i addurno coeden Nadolig gyda phlant ysgol ​Yr Oriel