Cynllun am Fil Amddiffyn Hawliau Pobl Hŷn wedi'i ddewis ym malot deddfwriaethol y Llywydd

Cyhoeddwyd 15/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/02/2019

Mae syniad ar gyfer cyfraith a allai amddiffyn hawliau pobl hŷn ymhellach yng Nghymru wedi'i ddewis ym malot deddfwriaethol diweddaraf y Llywydd.

Cafodd y cynnig ei awgrymu gan Darren Millar AC a'i ddewis ar hap o restr o 25 o awgrymiadau gan Aelodau’r Cynulliad.

Gwnaed y cyhoeddiad gan y Llywydd, Elin Jones AC, yn ystod y Cyfarfod Llawn yn y Senedd ddydd Mercher 14 Tachwedd 2018.

Bydd gan Aelodau hyd at 23 Ionawr 2019 i gyflwyno eu hawgrym gerbron y Cynulliad llawn ar gyfer dadl a phleidlais ar p'un a all ddod yn Fil a symud ymlaen drwy'r broses ddeddfu.

Mae balotau'r Llywydd yn gyfle i Aelodau’r Cynulliad nad ydynt yn rhan o'r llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth.

Yn sgil y balot diwethaf, cyflwynwyd y Bil Awtistiaeth gan Paul Davies AC sydd yn cael ei ystyried gan y Cynulliad ar hyn o bryd.

Gellir gweld y cynigion ar gyfer y balot yma.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am broses ddeddfu'r Cynulliad yma.