Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Nick Ramsay AC, wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol yn sgil yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ar gynllun FyNgherdynTeithio Llywodraeth Cymru.
Yn ôl Mr Ramsay:
"Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn nodi'n glir y cefndir i benderfyniad Llywodraeth Cymru ynghylch y cynllun FyNgherdynTeithio, sydd wedi rhoi disgownt ar deithiau bws i bobl 16 i 18 oed.
"Mae'n codi cwestiynau pwysig ynglŷn â gwerth am arian i'r £14.74 miliwn a wariwyd ar y cynllun yn y cyfnod peilot hyd at fis Mawrth 2017, ac mae hefyd yn tynnu sylw at faterion o ran ansawdd y gwaith dadansoddi a'r cyngor sy'n sail i benderfyniadau am y cynllun.
"Er bod costau'r cynllun bellach yn llawer is, mae'n amlwg hefyd nad yw diddordeb pobl ifanc yn y cynllun ar y lefel a ragwelwyd gyntaf. Mae hyn yn awgrymu bod gwersi pwysig i'w dysgu o ran marchnata'r cynllun wrth iddo gael i ehangu i gynnwys pobl 19 i 21 oed.
"Bydd y Pwyllgor yn ystyried adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol maes o law a gallai benderfynu cymryd tystiolaeth bellach ar ei ganfyddiadau."
Mae'r adroddiad llawn ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru.