Cynllun FyNgherdynTeithio – Datganiad gan Gadeirydd y Pwllgor Cyfrifon Cyhoedus

Cyhoeddwyd 10/01/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/01/2019

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Nick Ramsay AC, wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol yn sgil yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ar gynllun FyNgherdynTeithio Llywodraeth Cymru.

Yn ôl Mr Ramsay:

"Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn nodi'n glir y cefndir i benderfyniad Llywodraeth Cymru ynghylch y cynllun FyNgherdynTeithio, sydd wedi rhoi disgownt ar deithiau bws i bobl 16 i 18 oed.

"Mae'n codi cwestiynau pwysig ynglŷn â gwerth am arian i'r £14.74 miliwn a wariwyd ar y cynllun yn y cyfnod peilot hyd at fis Mawrth 2017, ac mae hefyd yn tynnu sylw at faterion o ran ansawdd y gwaith dadansoddi a'r cyngor sy'n sail i benderfyniadau am y cynllun.

"Er bod costau'r cynllun bellach yn llawer is, mae'n amlwg hefyd nad yw diddordeb pobl ifanc yn y cynllun ar y lefel a ragwelwyd gyntaf. Mae hyn yn awgrymu bod gwersi pwysig i'w dysgu o ran marchnata'r cynllun wrth iddo gael i ehangu i gynnwys pobl 19 i 21 oed.

"Bydd y Pwyllgor yn ystyried adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol maes o law a gallai benderfynu cymryd tystiolaeth bellach ar ei ganfyddiadau."

Mae'r adroddiad llawn ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru.