Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Fonesig Rosemary Butler AC, wedi gwneud datganiad y prynhawn yma yn dilyn y ddadl heddiw ar Fil Cymru yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd gwelliannau i Fil Cymru yn cael eu cyflwyno i roi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru benderfynu a ddylai pobl ifanc 16 a 17 oed gael yr hawl i bleidleisio mewn refferendwm ar dreth incwm.
Dywedodd y Llywydd:
"Rwy'n falch o glywed bod cynnydd yn cael ei wneud o ran symud tuag at y model pwerau a gedwir yn ôl. Rwy' wedi bod yn galw am hyn ers tro, ac mae'r ddadl yn Nhŷ'r Arglwyddi wedi ei gwneud hi'n glir bod gan hynny gefnogaeth eang.
"Mae'n newyddion da y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cael y pwerau er mwyn inni allu penderfynu a fydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn pleidleisio yn y refferendwm ar dreth incwm. Ond os yw'r Cynulliad yn gallu penderfynu a ddylai pobl ifanc bleidleisio mewn refferenda, pam ddim mewn etholiadau hefyd? Rwy'n parhau i fod o'r farn y dylai pob agwedd ar ein trefniadau etholiadol gael eu datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru."