Darganfod gwir gost deddfau newydd Cymru

Cyhoeddwyd 25/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried opsiynau i fonitro a gwerthuso faint y mae deddfau newydd yn eu costio mewn gwirionedd, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Cred y Pwyllgor Cyllid fod angen gwneud gwaith craffu manylach i ddarganfod o ble y daw'r costau a phwy sy'n ysgwyddo'r costau hynny, a sicrhau bod amcangyfrifon yn cael eu rhoi at ei gilydd yn gywir pan gaiff deddfau eu cyflwyno gyntaf fel biliau.

Er y creffir ar amcangyfrifon ariannol deddfwriaeth arfaethedig fel rhan o broses deddfu'r Cynulliad, dim ond yn ystod y cyfnod cyntaf y bydd hyn yn digwydd pan gaiff Asesiad Effaith Rheoleiddiol ei gyhoeddi ynghyd â Bil.

Nododd y Pwyllgor Cyllid y byddai'n bosibl diwygio'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn ystod cyfnodau diweddarach heb graffu'n addas ar y newidiadau.

Yn achos y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), gwnaed newid gwerth £12.7 miliwn i amcangyfrif Llywodraeth Cymru.

Ar yr achlysur hwnnw, ar gais y Pwyllgor Cyllid, cytunodd y llywodraeth i oedi hynt y Bil er mwyn caniatáu gwaith craffu pellach.

Mae'r Pwyllgor hefyd am weld mwy o graffu ar y costau a ddaw trwy is-ddeddfwriaeth fel rheoliadau sy'n cael eu hychwanegu ar ôl pasio deddf. Ar hyn o bryd nid oes dull ffurfiol i sefydlu cywirdeb yr amcangyfrifon.


"Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy i sicrhau nad yw cyrff cyhoeddus yn mynd i gostau uwch na'r hyn a ragwelwyd."

- Simon Thomas AC


"Mae cyllid cyhoeddus yn dod o dan bwysau cynyddol wrth i gynildeb ac ansicrwydd ynghylch Brexit barhau i gael effaith," meddai Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

"Wrth i ragor o bwerau a chyfrifoldebau gael eu datganoli i'r Cynulliad, mae'n hanfodol bod gennym weithdrefnau cadarn ar gyfer sicrhau bod y deddfau a'r costau sy'n dod yn eu sgil mor gywir ag y gallant fod i bobl Cymru.

"Mae'r Pwyllgor hwn yn derbyn mai amcangyfrifon ac amcangyfrifon yn unig sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth newydd, ond credwn y dylid cael mwy o gyfle i fonitro a gwerthuso'r costau hyn, er mwyn sicrhau gwerth am arian, ond hefyd i gynyddu cywirdeb y prosesau sy'n cynhyrchu'r amcangyfrifon yn y lle cyntaf.

"Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy i sicrhau nad yw cyrff cyhoeddus yn mynd i gostau uwch na'r hyn a ragwelwyd, a bod y Cynulliad yn cael gwybod pan fydd newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud i Asesiadau Effaith Rheoleiddiol."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 14 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru gynnwys cyfnodau gwerthuso yn ei hasesiad o gostau deddfwriaeth er mwyn caniatáu ar gyfer adolygu a gwerthuso cyllid trosiannol.

  • Bod y wybodaeth gryno mewn Asesiadau Effaith Rheoleiddiol yn cyfeirio'n benodol at sut y bydd unrhyw gostau a nodir yn yr Asesiad yn cael ei ariannu a chan bwy; a

  • Bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddarparu darlun mor llawn â phosibl o gostau is-ddeddfwriaeth wrth gynnig deddfwriaeth sylfaenol.

 
Anfonwyd yr adroddiad at Lywodraeth Cymru i'w ystyried.

 


Darllen yr adroddiad llawn:

Ymchwiliad i’r amcangyfrifon ariannol sy’n mynd gyda deddfwriaeth (PDF, 936 KB)