Datganiad gan y Llywydd

Cyhoeddwyd 15/05/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/05/2019

Fe wnaeth y Llywydd, Elin Jones AC, y datganiad canlynol yn y Cyfarfod Llawn heddiw;

"Dymunaf hysbysu'r Cynulliad fy mod i wedi derbyn llythyr gan bedwar o Aelodau yn fy hysbysu o'u dymuniad i ffurfio grŵp yn unol â Rheolau Sefydlog 1.3. Rwyf yn ystyried y mater yn unol â fy nyletswyddau o dan y Rheolau Sefydlog. Mi fyddaf yn hysbysu'r Cynulliad o fy nghasgliadau yn y man."