Datganiad mewn ymateb i adroddiad Archwilio Cymru ar gysgu ar y stryd yng Nghymru

Cyhoeddwyd 23/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

​Mae Cadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Senedd wedi cyhoeddi datganiad mewn ymateb i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gysgu ar y stryd, a gyhoeddwyd heddiw, dydd Iau 23 Gorffennaf. 

Yn ôl John Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor:

“Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi blaenoriaethu digartrefedd a chysgu ar y stryd. Rydym wedi clywed tystiolaeth ac wedi llunio adroddiadau manwl ac argymhellion i fynd i'r afael â'r materion dan sylw. Dim ond yr wythnos diwethaf, clywsom am yr heriau byw sy'n wynebu unigolion digartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, gan gynnwys y rhai sy'n cysgu ar y stryd, ac am y pwysau sydd ar y gwasanaethau sy'n darparu cymorth. Clywsom hefyd am yr ymdrech aruthrol gan yr holl bartneriaid, yn yr awdurdodau lleol ac yn y trydydd sector, i gael pobl oddi ar y strydoedd ar anterth y pandemig. Mae'r hyn a gyflawnwyd yn sylweddol ac yn drawiadol, a’n gobaith yw y gellir ychwanegu at hyn i gyrraedd nod Llywodraeth Cymru o wneud digartrefedd yn rhywbeth prin a byr, nad yw’n cael ei ailadrodd.

“Rwy’n croesawu adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ac yn adleisio ei alwad am i wasanaethau cyhoeddus fanteisio ar eu hymateb i argyfwng COVID-19 trwy newid dull yn sylweddol, gan symud adnoddau i ganolbwyntio ar atal. Mae hyn yn bwysicach fyth oherwydd yr heriau economaidd sy’n dod i’r amlwg a all arwain at gynnydd o ran digartrefedd a chysgu ar y stryd. Byddwn yn parhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar y mater pwysig hwn yn ystod y misoedd nesaf, a bydd yr adroddiad hwn yn helpu i lywio ein gwaith craffu.”

Mae adroddiad Archwilio Cymru - Cysgu ar y Stryd yng Nghymru - Problem Pawb; Cyfrifoldeb Neb - ar gael yma