Meithrinfa

Meithrinfa

Pwyllgor Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru 'i gau bylchau' ei chynllun gofal plant

Cyhoeddwyd 28/01/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/01/2022   |   Amser darllen munudau

Mewn adroddiad newydd, mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd wedi galw am newidiadau i’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn darparu ei chynllun gofal plant i rieni sy’n gweithio.

Wedi’i gyhoeddi heddiw, mae ‘Gwarchod y dyfodol: y rhwystr gofal plant sy'n wynebu rhieni sy'n gweithio’ yn cyflwyno dadansoddiad o’r system bresennol ac yn dod i’r casgliad bod rhieni yng Nghymru yn wynebu ystod o rwystrau sy’n eu hatal rhag cael mynediad at y ddarpariaeth y mae ganddynt hawl iddi. 

Canfu'r adroddiad fod llawer o rieni wedi'u heithrio rhag cael unrhyw fath o ofal plant. Ar hyn o bryd, nid yw plentyn o deulu rhiant sengl nad yw'n gweithio, neu deulu dau riant lle nad yw un neu'r ddau riant yn gweithio, yn gymwys.

Mae rhieni sy'n gweithio oriau annodweddiadol, sydd mewn gwaith ansicr, sy’n gwneud gwaith shifft neu sydd ar gontractau dim oriau yn wynebu rhwystrau ychwanegol. Hefyd, nid yw rhieni y mae eu horiau gwaith yn amrywio o wythnos i wythnos yn gallu cadw lle mewn meithrinfeydd sy'n agos at fod yn llawn.

Dywedodd y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant wrth y Pwyllgor fod teuluoedd incwm isel ‘yn arbennig o debygol o fod mewn gwaith annodweddiadol, a gall y cymhlethdodau hyn fod yn rhwystr i blant yn cael mynediad i leoliadau gofal plant’.

Fel rhan o’r ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan ddwsinau o rieni yr effeithiwyd arnynt, yn ogystal â sefydliadau ymgyrchu yng Nghymru, gan ganfod bod rhieni plant anabl yn ei chael hi'n arbennig o anodd cael mynediad at gymorth. 

Mae'r adroddiad yn nodi bod y ddarpariaeth gofal plant ar gyfer plant sydd ag anableddau wedi lleihau’n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf.

Yn eu tystiolaeth, cyfeiriodd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru at ffigurau gan elusen Coram Family and Childcare fod nifer y lleoedd i blant sydd ag anghenion ychwanegol wedi gostwng o 31 y cant yn 2020 i 19 y cant yn 2021 a bod 38 y cant o awdurdodau lleol yn adrodd nad oes ganddynt ddarpariaeth ddigonol o ran gofal plant ar gyfer plant anabl yn unrhyw le yn eu hardaloedd.

O gofio bod y cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn cynnwys ymrwymiad i ehangu’r cynnig gofal plant presennol ar gyfer plant 3 a 4 oed i gynnwys plant 2 oed, rhaid i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu camau i gau’r bylchau yn y system bresennol.

Dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, “Rydym yn gwybod bod darpariaeth well o ran gofal plant yn allweddol i fynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a sicrhau cyfle cyfartal yn y gweithle.

“Nid yw’r system bresennol yn ei gwneud hi’n hawdd; mae rhieni'n gorfod ymdrin â system gymhleth i weithio allan sut y gallant hawlio cymorth gofal plant.

“Er gwaethaf bwriad gorau Llywodraeth Cymru, mae llawer o rieni sy’n gymwys i gael cymorth yn llithro drwy’r rhwyd. Mae angen i’r Llywodraeth ymateb ar fyrder i’n hargymhellion a blaenoriaethu cau’r bylchau yn y system.”

Dywedodd Laura Morgans, sydd yn gweithio mewn ysgol ac sy’n rhiant sengl o Ton Pentre, Rhondda, “Pan dy’ch chi’n mynd nôl i'r gwaith ar ôl cael plant, mae hi hollol lan i chi drefnu gofal plant – does neb yna i helpu chi, yn dweud wrthot chi le i fynd, pwy i ofyn. Doedd gen i ddim syniad lle i droi ac roeddwn yn ffodus iawn bod fy nghymydog i yn ofalwr plant. Dydw i ddim yn gwybod be fyswn i wedi neud heb y lwc yna.” 

“Pan nad yw’r gofalwr plant ar gael, mae rhaid i mi gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith heb dal achos does bron dim clybiau ar ôl ysgol yn fy ardal i. Fel rhiant sengl sydd yn byw i ffwrdd o fy nheulu, rydw i'n hollol ddibynnol ar ofalwr plant i allu mynd i'r gwaith. 

“Dyw’r system bresennol ddim fel bod hi’n deall faint o her ydy hi i gael plant o wahanol oedrannau sydd gyd angen gofal. Dwi wir yn gobeithio fod pethau yn newid i fod yn haws i bobl fel fi cyn bo hir.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.