Mwynhau'r Carnifal

Mwynhau'r Carnifal

Dathlu Carnifal Trebiwt yn y Senedd

Cyhoeddwyd 08/08/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/08/2023   |   Amser darllen munudau

 

Byddwch yn rhan o gynnwrf Carnifal Trebiwt mewn cyfres o ddigwyddiadau rhad ac am ddim yn y Senedd ac adeilad y Pierhead ym mis Awst. 

Ar y cyd â threfnwyr y Carnifal hanesyddol, mae’r gweithgareddau rhad ac am ddim yn addas i bawb ac yn ddathliad o ddigwyddiad unigryw ac arbennig iawn.  

Ymhlith y gweithgareddau mae arddangosfa liwgar o ffotograffau archif a gwisgoedd gwych sy’n rhoi cipolwg ar hanes y Carnifal, yn ogystal â’i bwysigrwydd ym mywyd Cymuned Butetown. 

Mae gweithdai a gweithgareddau yn cynnig cyfle i bawb fod yn rhan o’r sioe trwy gyfrannu at waith celf gwych o aderyn Ffenics a fydd yn gefndir i Brif Lwyfan y Carnifal ar 27 a 28 Awst. 

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar dudalennau Ymweld gwefan y Senedd 

 

Butetown Carnival Exhibition 2023 (1)

 

Arddangosfa: Archif Carnifal Butetown 

  • Senedd a Pierhead 
  • 2 Awst - 4 Medi 2023 

Yr haf hwn mae'r Senedd yn falch o gynnal arddangosfa sy'n dathlu Carnifal Trebiwt. Mae Keith Murrell, Cyfarwyddwr Cymdeithas Celfyddyd a Diwylliant Trebiwt (BACA), wedi casglu ynghyd ddetholiad o luniau o Archif Carnifal Trebiwt.  

Drwy’r lluniau ry’ ni’n cael rhannu llawenydd y carnifal dros y blynyddoedd. Mae'n talu teyrnged i dreftadaeth ac etifeddiaeth y digwyddiad trwy ffotograffau, gwisgoedd a straeon personol. 

Mae’r arddangosfa i’w gweld yn Oriel y Dyfodol, adeilad y Pierhead ac yn y Senedd hyd nes dydd Llun 4 Medi. Nid oes angen archebu ymlaen llaw. 

 

Butetown Carnival Exhibition 2023 (3)

 

Y Ffenics: Gweithdy Celf 

  • Senedd 
  • 29 Gorffennaf - 7 Medi 2023 

Hwyl greadigol i'r teulu cyfan drwy gydol mis Awst. 

Mae Theatr Byd Bychan yn creu cerflun anferth o aderyn ffenics yn y Senedd, i baratoi ar gyfer y Carnifal, ac mae croeso i chi i gymryd rhan. 

Wedi’i wneud o ddeunyddiau cynaliadwy, wedi’u hadfer a’u hail ddefnyddio, bydd y cerflun ffenics trawiadol yn sefyll yn falch yn ffenestri’r Senedd ac yn gefndir i gerddoriaeth fyw ar risiau’r Senedd yng Ngharnifal Butetown eleni. 

Ymunwch â ni drwy gydol gwyliau’r haf i wneud eich pluen ffenics eich hun a fydd yn dod yn rhan o’r cerflun. 

Nid oes angen archebu ymlaen llaw, dim ond galw heibio ar y diwrnod. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn drwy'r amser. 

 

MicrosoftTeams-image (5)

Gweithgareddau yn ystod Carnifal Butetown – 27 a 28 Awst 

 

Gweithdy Gwneud Ffenics 

  • Senedd 
  • Dydd Sul 27 Awst 14:00-16:00 

Bydd Theatr Byd Bychan hefyd yn cynnal gweithdy gwneud Ffenics arbennig iawn ar ddiwrnod cyntaf Carnifal Butetown, yn syth wedi’r orymdaith. 

Ymunwch â'r artistiaid i greu plu bendigedig ar gyfer y ffenics, a chwblhau darnau pwysig ola’r cerflun. 

Gweithdy galw heibio yw hwn, felly nid oes angen archebu lle ymlaen llaw. 

Addas i blant 6 oed a hŷn sy’n gorfod bod yng nghwmni oedolyn drwy'r amser. Mae'r gweithgaredd hwn yn un gwych ar gyfer teuluoedd a grwpiau bach sy'n hoffi gweithio gyda'i gilydd.

 

Butetown Carnival Exhibition 2023 (2)

 

Y Prif Lwyfan 

  • Ar y grisiau o flaen y Senedd 
  • Dydd Sul a dydd Llun, 27 a 28 Awst 14:00 i 20:30 

Bydd Prif Lwyfan y Carnifal wedi’i ei osod o flaen adeilad y Senedd unwaith eto eleni. 

Gwyliwch berfformiadau gan gerddorion ac artistiaid rhwng 14:00 a 20:30* ar ddydd Sul, 27 Awst ac eto rhwng 1400 a 2030* ddydd Llun, 28 Awst 28. (*amser i'w gadarnhau)

Yn adeilad y Pierhead 

Bydd adeilad y Pierhead ar agor ar ddiwrnodau'r Carnifal. Mae cyfle i bobl weld y tu mewn i’r adeilad hanesyddol hwn a mwynhau’r arddangosfeydd. Bydd cyfres o ddigwyddiadau hefyd yn dathlu'r Carnifal. 

 

14:00 – 14:50 Gweithdy Ffilm Cymunedol Carnifal Butetown Llyfrgell Genedlaethol Cymru 

Gweithdy galw heibio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru er mwyn i bobol ddewis eu hoff ffilm archif o’r Carnifal dros y blynyddoedd, a’u cyfuno mewn un cyfanwaith mawr.  

 

15:00 'Sgwrs â Keith Murrell' 

Dangosiad o sesiwn sgwrs gyda Chyfarwyddwr Creadigol BACA, Keith Murrell wrth iddo rannu ei atgofion ac uchafbwyntiau’r Carnifalau dros y blynyddoedd. 

 

Ymweld â'r Senedd a'r Pierhead gydol y flwyddyn

Mae’r Senedd a’r Pierhead ar agor i bawb drwy gydol y flwyddyn, gyda theithiau tywys am ddim, arddangosfeydd a gweithgareddau i’w mwynhau – gan gynnwys arddangosfa newydd Bae Teigr a’r Dociau: 1880au – 1950au yn adeilad y Pierhead. 

Mewn partneriaeth â The Heritage and Cultural Exchange (HCE), mae’r arddangosfa yn rhoi cipolwg i ymwelwyr ar fywyd yn Tiger Bay a’r dociau o’r 1880au – 1950au. Ceir enghreifftiau o'r mathau o swyddi yr oedd pobl yn eu gwneud yn y dociau a'r amrywiaeth eang o weithgareddau hamdden y mae'r gymuned yn eu mwynhau. Mae yna hefyd ddelweddau o ardal fasnachol lewyrchus Tiger Bay. 

Drwy gydol mis Awst, bydd y Senedd ac adeilad y Pierhead ar agor 7 niwrnod yr wythnos.

Darllenwch mwy ar y dudalen Ymweld ar wefan y Senedd