Timau Rygbi Byddar Cymru

Timau Rygbi Byddar Cymru

Dathlu Pencampwyr Rygbi Byddar y Byd

Cyhoeddwyd 13/07/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/07/2023   |   Amser darllen munudau

Cafodd llwyddiant hanesyddol timau rygbi byddar Cymru ei ddathlu yn y Senedd yr wythnos hon, wedi i dîm y menywod a’r dynion ddod i’r brig yng Nghwpan y Byd Rygbi Saith Bob Ochr Byddar y Byd.

Daeth y chwaraewyr, gan gynnwys y capteiniaid Sarah Harper a Jon Cudd, ynghyd ag aelodau o’r tîm hyfforddi i’r Senedd ar ddydd Mawrth 11 Gorffennaf, i nodi eu llwyddiant rhyfeddol yn y gystadleuaeth a gynhaliwyd yn yr Ariannin ym mis Ebrill eleni.

Trechodd y dynion Awstralia 20-5 yn y gêm derfynol i gadw eu gafael ar y tlws ac fe gurodd y menywod Loegr 32-0 yn eu rownd derfynol gyntaf erioed.

Sarah Harper and Jon Cudd, Capteiniaid Timau Rygbi Byddar Cymru

Roedd tîm merched Cymru yn cystadlu yng Nghwpan y Byd Rygbi Saith Bob Ochr Byddar y Byd am y tro cyntaf. Roedd yn garreg filltir bwysig iawn i’r gamp yng Nghymru, yn ôl y capten tîm y menywod, Sarah Harper.

Dywedodd Sarah Harper, capten tîm Menywod Rygbi Byddar Cymru, “Roedd yn gamp aruthrol i dîm y menywod gynrychioli’r wlad am y tro cyntaf yn y gystadleuaeth yn yr Ariannin. Roedd llwyddo i ennill y bencampwriaeth a chadw dalen lan yn goron ar y cyfan! Doedd hi ddim yn daith hawdd, doedd dim llawer o amser ar gyfer ymlacio ac roedd yn anodd cadw cysylltiad â’n teuluoedd adref. Ond, fe wnaethom ni oresgyn yr her gyda chefnogaeth ein hyfforddwyr a’r tîm cynorthwyol, a daeth y dynion a’r menywod yn ôl yn Bencampwyr y Byd!”

 

 Llywydd y Senedd yn llongyfarch y timau ar eu buddugoliaeth

 

Yn ystod y digwyddiad, bu’r tîm yn hel atgofion am y twrnamaint ac fe fanteisiodd Llywydd y Senedd, y Prif Weinidog Mark Drakeford AS, ac Aelodau o’r Senedd ar y cyfle i‘w llongyfarch.

Meddai Llywydd y Senedd, y Gwir Anrh. Elin Jones, “Rydym yn falch iawn o’n hathletwyr cenedlaethol ac mae pob un yn arbennig. Ond, ar hyn o bryd, mae’r timau rygbi byddar Cymru ychydig yn fwy pwysig am eu bod nhw’n bencampwyr y byd dwywaith, yn ddynion a menywod, does dim yn well na hynny!

“Roedd yn anrhydedd i ni groesawu’r chwaraewyr a’r hyfforddwyr i’r Senedd, i’w llongyfarch am gyrraedd y brig. Roedd yn gyfle i gydnabod eu llwyddiant yn y gystadleuaeth, a chymeradwyo’r ymdrech galed dros yr wythnosau, y misoedd a’r blynyddoedd o baratoi. Rydym ni i gyd yn falch iawn ohonoch chi. Llongyfarchiadau!"

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS, yng nghwmni rhai o'r chwaraewyr