Dechrau chwilio am brentisiaid nesaf y Cynulliad

Cyhoeddwyd 07/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

I gyd-fynd â'r Wythnos Brentisiaeth Genedlaethol, mae'r gwaith wedi dechrau o chwilio am y garfan nesaf o brentisiaid y Cynulliad Cenedlaethol.

 

Dylai ymgeiswyr fod yn 16 oed neu'n hŷn, ac ni allant fod mewn addysg na chyflogaeth amser llawn pan fydd y cynllun yn cychwyn.

Bydd contract amser llawn yn cael ei gynnig i bedwar ymgeisydd llwyddiannus, gyda chyflog byw o £ 16,258 a chyfle i ennill NVQ (lefel 3) mewn Gweinyddu Busnes.

Mae'r cynllun yn cynnig cyfuniad o brofiad gwaith go iawn mewn gwahanol rannau o senedd genedlaethol Cymru, gan ddysgu am gyfathrebu, cyllid, TG a sut y mae pwyllgorau'r Cynulliad yn gweithio, ymhlith meysydd eraill.

Mae cyn-brentisiaid wedi mynd ymlaen i gael swyddi amser llawn yn y sefydliad a thu allan i'r sefydliad.

Dyma beth sydd gan rai o gyn-brentisiaid y Cynulliad i'w ddweud am y cynllun:

"Drwy gydol fy Mhrentisiaeth, rwyf wedi magu sgiliau hanfodol, cymhwyster NVQ, profiad gwaith gwerthfawr ac atgofion gwych. Gwneud cais am y cynllun Prentisiaeth yw'r penderfyniad gorau a wnes i erioed. Rwyf wedi cael llwyth o brofiad gweinyddol ac wedi gwneud cyfeillion am oes. Ar ôl pasio fy NVQ a chyfweliad am swydd staff cymorth i'r tîm, rwyf bellach wedi fy nghyflogi'n barhaol fel 'Swyddog Cymorth Datblygu Proffesiynol' yn y tîm Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau, lle'r wyf yn gobeithio cael gyrfa hir a hapus." [Emily, prentis 2013 o'r Barri]

"Mae symud ymlaen o ddechrau fel prentis i gael fy nghyflogi’n swyddogol yn y Cynulliad wedi rhoi balchder mawr imi. Mae wedi rhoi cyfleoedd di-ddiwedd i mi barhau i ddysgu, ac os na fyddwn wedi gwneud cais am y brentisiaeth hon, ni fyddwn wedi gwireddu fy ngallu fy hun. Gallaf ddweud yn bendant fod cynllun prentisiaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi newid fy mywyd, ac wedi rhoi'r cyfle i mi gael gyrfa." [Lori, prentis 2014 o Bargod]

"Mae fy hyder wedi cynyddu'n aruthrol ers dechrau'r brentisiaeth ym mis Medi y llynedd. Rwyf wedi cael profiad da iawn drwy symud rhwng adrannau, ac mae hyn wedi fy ngalluogi i ddysgu am swyddogaethau'r Cynulliad a sut y mae gwahanol adrannau'n cydweithio i gyflawni amcanion y Cynulliad. Mae'n braf cael gweithio yn y fath amgylchedd cyfeillgar lle mae pobl yn gefnogol ac yn eich annog." [Caitlin, prentis 2016 o Bontypridd]

Dyma'r bedwaredd raglen brentisiaeth y mae'r Cynulliad wedi'i chynnal ers sefydlu'r rhaglen yn 2012.

Mae rhagor o wybodaeth am gynllun prentisiaeth y Cynulliad Cenedlaethol ar gael yn www.cynulliad.cymru/prentisiaethau.

 


 

Prentisiaethau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru​​​.

Beth am ddatblygu eich sgiliau ac ehangu eich uchelgais wrth i chi weithio, ennill cyflog, ac astudio am gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.

Gwnewch gais nawr ›